Neidio i'r prif gynnwy

Ymchwil masnachol

Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn gweithio'n agos gyda chwmnïau masnachol i gymryd rhan mewn ymchwil foesegol o ansawdd uchel a ariennir, sydd yn cael ei chynnal i safonau ansawdd rhyngwladol cydnabyddedig.

Mae treialon clinigol a syniadau ymchwil newydd sydd yn cael eu datblygu gan y sector masnachol yn chwarae rhan bwysig o ran cadw'r GIG ar flaen y gad o ran triniaethau modern ac ymchwil. Mae ymchwil fasnachol yn cynnig mynediad cynnar i glinigwyr a chleifion i'r technolegau diweddaraf ar gyfer diagnosio a thrin clefydau, ac mae'n hanfodol ar gyfer datblygu meddyginiaethau, triniaethau a thechnolegau gofal iechyd newydd.

Os ydych chi’n ystyried cymryd rhan mewn prosiect ymchwil gydag Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, cysylltwch â'r swyddfa Ymchwil, Datblygu ac Arloesi.

E-bost / E-mail: Velindre.R&DOffice@wales.nhs.uk 
Ffôn/Tel: 02920 615888 (est 4442)
 

Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru hefyd yn darparu nifer o wasanaethau i gefnogi cynnydd gwaith ymchwil masnachol yn y GIG yng Nghymru, gan gynnwys:

  • Cyfeirio Cyffredinol - Gwasanaeth gwybodaeth a chyngor sydd ar gael i gwmnïau sy'n awyddus i gychwyn neu ymestyn eu gweithgareddau ymchwil a datblygu yng Nghymru. 
  • Cydlynu Dichonoldeb - Mae system ganolog a chydlynol ar waith i hwyluso asesiadau dichonoldeb dibynadwy, sy'n golygu bod modd amlygu safleoedd newydd yn gyflym ledled Cymru.
  • Cyngor a Chymorth gyda Chontractau - Mae cyngor arbenigol ar gael i gydweithwyr yn y GIG ac mewn diwydiant i helpu i negodi contractau'n effeithlon, a hwyluso'r broses o sefydlu astudiaeth yn gyflym.
  • Sefydlu a Rheoli Astudiaeth - Mae cymorth ar gael i sefydlu astudiaethau'n effeithiol ac yn effeithlon yn y GIG a, lle y bo'r angen, goruchwylio'r broses o gynnal yr astudiaeth.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y gwasanaethau y mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn eu darparu ar eu gwefan.