Neidio i'r prif gynnwy

Cleifion Allanol

 

Rhifau archebu apwyntiadau cleifion allanol

  • Apwyntiadau Cleifion Allanol: 029 2031 6234
  • Chemotherapi: 029 2031 6248
  • Radiotherapi: 029 2019 6836
  • Cludiant: 030 0100 0012

Eich apwyntiad claf allanol

Dylech fod wedi derbyn llythyr yn dweud wrthych;

  • Amser a dyddiad eich apwyntiad,
  • Pa dderbynfa y dylech fynd iddi pan gyrhaeddwch,
  • Unrhyw beth sydd angen i chi ei wneud ymlaen llaw,
  • Yr hyn sydd angen i chi ddod â chi gyda chi.

Os nad ydych yn siŵr am eich apwyntiad, beth sydd angen i chi ei wneud cyn / dod gyda chi, neu ble mae angen i chi fynd, ffoniwch ni ar y rhif yn eich llythyr apwyntiad i wirio unrhyw fanylion. Rydyn ni yma i helpu.

Mae clinigau i gleifion allanol yn cael eu cynnal rhwng dydd Llun a dydd Gwener.

Mae’r apwyntiadau’n dechrau am 8.30am ac yn gorffen am 5pm. Mae ein clinigau’n cael eu cynnal mewn dau le yn Ysbyty Felindre:

  • Prif adran y cleifion allanol
  • Clinigau’r cleifion allanol gan yr Adran Cemotherapi

Fel arfer, bydd cleifion sy’n cael cemotherapi yn cael eu gweld yn y bore.

 

 

 

Canolfan Ganser Felindre, Heol Felindre, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 2TL
Ffôn: 029 2061 5888