Neidio i'r prif gynnwy

Codi Pryder

A form shows three faces. One is smiley, one is neutral and one is unhappy. A red pen has marked the unhappy face.

 

Nod Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yw darparu'r gofal a'r driniaeth orau bosibl bob amser. Weithiau, efallai na fydd eich profiad o'n gwasanaeth cystal â'r disgwyl. Os ydych yn anhapus gyda'r gofal a ddarparwyd i chi, byddem yn eich annog i fynegi eich pryder cyn gynted â phosibl, gyda'r uwch staff ar ddyletswydd ar yr adeg y digwyddodd y digwyddiad neu'r mater. 

Ar brydiau, mae’n bosib na fydd eich profiad o’n gwasanaeth mor dda â’r disgwyl. Os ydych yn anfodlon â’r gofal a gawsoch, byddwn yn eich annog i godi eich pryder cyn gynted â phosibl, a hynny gyda’r uwch aelod o’r staff a oedd ar ddyletswydd ar adeg y digwyddiad neu’r broblem, os yn bosibl.

Fel arall, gallwch gwblhau’r ffurflen Gweithio i Wella isod.

Neu gallwch lawrlwytho’r ffurflen a’i hanfon at y Tîm Pryderon drwy e-bostio handlingconcernsvelindre@wales.nhs.uk neu drwy bostio i’r cyfeiriad isod.

Mae croeso hefyd i chi gysylltu â’n Tîm Pryderon a fydd yn trafod eich pryder ac yn tynnu sylw’r adran berthnasol ato. Mae’r Tîm Pryderon ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.30am a 4.30pm drwy ffonio 02920 196161 neu drwy e-bostio handlingconcernsvelindre@wales.nhs.uk neu drwy bostio i:

Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Perthynol a Gwyddorau Iechyd 
Pencadlys yr Ymddiriedolaeth 
2 Cwrt Charnwood 
Heol Billingsley 
Parc Nantgarw 
Caerdydd 
CF15 7QZ 
 

Beth fydd yn digwydd pan fyddwch yn gwneud cwyn?

 
Gallwch gyflwyno cwyn ar ran rhywun arall, ond bydd yn rhaid i'r Ymddiriedolaeth ofyn am ganiatâd yr unigolyn dan sylw (os yw dros 18 oed a bod ganddynt y capasiti) i ymchwilio i'r materion a godwyd. 

Byddem yn eich annog i gysylltu â'r tîm cwynion i ddechrau, i geisio sicrhau bod eich pryderon yn cael eu datrys yn brydlon ac yn anffurfiol.  Os nad ydych yn hapus gyda’r camau gweithredu anffurfiol, yna byddwch yn dal i allu cyflwyno cwyn ffurfiol. 

Byddwch yn derbyn llythyr cydnabyddiaeth o fewn dau ddiwrnod gwaith mewn ymateb i'ch cwyn ffurfiol. Bydd y llythyr hwn yn rhoi manylion cyswllt y cydlynydd cwynion a fydd yn prosesu eich cwyn. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, ymholiadau neu anghenion ychwanegol, mae croeso i chi gysylltu â'r unigolyn hwn. 

Ein nod yw rhoi ymateb ysgrifenedig i chi i'ch cwyn o fewn 30 diwrnod gwaith, ond os oes angen ymchwiliad mwy manwl, gall yr Ymddiriedolaeth gymryd hyd at chwech mis i'w gwblhau. 

Ar adegau, efallai y byddwn yn gofyn i chi p’un a ydych yn dymuno cwrdd ag aelodau o'r tîm clinigol a fydd yn trafod eich cwyn gyda chi.  Gall hyn fod cyn, yn ystod neu ar ôl ein hymchwiliad.

Rydym yn rhoi pwys mawr ar unrhyw adborth a gawn a'r ffordd rydym yn rheoli ac yn ymchwilio i bryderon a allai fod gennych, ac rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod unrhyw beth sydd yn cael ei ddysgu yn cael ei ddefnyddio i wella ein gwasanaeth yn y dyfodol. 

 

Dolenni defnyddiol 


Os oes angen unrhyw help neu gymorth arnoch i roi gwybod i ni am eich pryder, mae gwasanaethau cymorth ac eiriolaeth pellach ar gael hefyd drwy Llais (Eich Llais mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol); gellir cael mynediad i’r gwasanaeth drwy’r ddolen isod. 
 

Gwefan Llais Cymru 
 

Mwy: