Rydym yn gwybod bod costau byw yn peri pryder i lawer o bobl, ond mae’n gallu bod yn arbennig o anodd i'r bobl hynny sydd eisoes yn wynebu ansicrwydd oherwydd eu bod wedi cael eu diagnosio gyda chanser.
Mae Canolfan Ganser Felindre yma i chi. Mae gennym sawl gwasanaeth pwysig sy'n gallu darparu cymorth a helpu gydag effeithiau costau byw.
Boed hynny i chi'ch hun neu'n i rywun rydych chi’n ei garu, cymerwch olwg ar y tudalennau isod. Maen nhw'n cynnwys cyngor pwysig, awgrymiadau, ac adnoddau ar gyfer rhai o'r heriau y gallech chi eu hwynebu.