Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd yr Ymddiriedolaeth

Mae sefydlu a gweithredu Pwyllgorau'r Bwrdd yn yr Ymddiriedolaeth yn effeithiol yn rhan allweddol o fframwaith llywodraethu a sicrwydd y sefydliad. Mae'r Bwrdd wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn dryloyw wrth gynnal ei holl fusnes.

 

 

Yng nghyfarfod briffio'r bwrdd ar 9 Gorffennaf 2020, trafododd y Bwrdd egwyddorion strwythur pwyllgor newydd yn anffurfiol. Cynhaliwyd adolygiad o'r pwyllgorau ac ymarfer meincnodi yn gynharach eleni gyda Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd GIG Cymru.

Cytunwyd yng nghyfarfod Bwrdd yr Ymddiriedolaeth a gynhaliwyd ar 24 Medi i symud i fodel pum pwyllgor, bydd model pwyllgor yr Ymddiriedolaeth yn weithredol o fis Hydref a bydd yn symud i fodel pum pwyllgor.

Rhestrir isod Bwyllgorau Bwrdd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Velindre a ddaeth i rym ar 1 Hydref:

  • Pwyllgor Ansawdd a Pherfformiad yr Ymddiriedolaeth (Bob yn ail fis)
  • Pwyllgor Strategol a Datblygu'r Ymddiriedolaeth (Bob yn ail fis)
  • Pwyllgor Archwilio (Chwarterol)
  • Pwyllgor Taliadau (Bob yn ail fis)
  • Pwyllgor cronfeydd elusennol

Os ydych chi'n cael unrhyw broblemau wrth gyrchu'r tudalennau hyn neu os ydych chi am ofyn am gyfieithiad Cymraeg o Agenda a Chofnodion pwyllgor.

E-bostiwch eich cais yn uniongyrchol at Corporate.Services2@wales.nhs.uk gan nodi'r materion a / neu deitl y pwyllgor a dyddiad penodol y cyfarfod.

** gall dyddiadau cyfarfodydd newid.

Mae'n ofynnol i bob Pwyllgor gwblhau Adroddiadau Blynyddol y Pwyllgor yn flynyddol, gan adrodd ar weithgaredd ar gyfer y calendr / blwyddyn ariannol flaenorol. Mae Adroddiadau Blynyddol diweddaraf y Pwyllgor ar gyfer cyfnod 2019 wedi'u cynnwys isod: