Neidio i'r prif gynnwy

Trawsnewid Gwasanaethau Canser

trin mwy, byw'n hwy, yn agosach at gartref.

Rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Canser yn Ne Ddwyrain Cymru.

Mae mwy a mwy o bobl yn cael eu diagnosio gyda chanser.
Ond mae gan Gymru rai o’r cyfraddau goroesi isaf yn y byd gorllewinol.

Nid yw’r system fel ag y mae ar hyn o bryd yn gweithio cystal ag y dylai. Nid yw’r GIG yn diagnosio canser yn ddigon cynnar. Nid oes gan Ganolfan Ganser Felindre, sy’n 60 oed, y cyfleusterau na’r gofod sydd eu hangen arnom. Nid ydym yn rhoi’r gwasanaeth gorau posibl i bob claf yn agos at adref ble bynnag maen nhw’n byw. A dydyn ni ddim yn atal digon o ganser yn y lle cyntaf.

Felly, ar draws y system, beth bynnag ein rolau a’n lleoliadau gwaith, mae sefydliadau yn dod at ei gilydd i wella gwasanaethau canser.

Rydym yn gweithio i adeiladu Canolfan Ganser Felindre newydd, gyda chanolfan radiotherapi lloeren yn y Fenni. Rydym yn gweithio i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd mae technoleg ddigidol yn eu cynnig. Ac mae angen i ni weithio’n wahanol.

Yn y dyfodol, byddwn yn atal canser yn y lle cyntaf os yn bosibl. Byddwn yn diagnosio canser yn gynt i wella’r siawns o’i wella’’n llwyr. Byddwn yn trin mwy o gleifion ac yn helpu mwy o bobl i fyw’n hirach gyda chanser. A byddwn yn trin mwy o gleifion yn nes at adref.

Rydym yn gwneud hyn i gyd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, er mwyn iddynt allu byw yn hirach ac yn well.

Os ydych eisiau cymryd rhan, cofrestrwch i gael newyddion a chael eich diweddaru yma.

 

Amdanom ni

Mae Canolfan Ganser Felindre yn darparu gwasanaethau canser arbenigol ar gyfer y 1.5 miliwn o bobl sy’n byw yn Ne Ddwyrain Cymru.

Mae’r Ganolfan Ganser yn cael ei rhedeg gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. Yn 2015, sefydlodd yr Ymddiriedolaeth Raglen Trawsnewid Gwasanaethau Canser yn Ne Dddwyrain Cymru. Amcanion y rhaglen yw:

• Darparu gwasanaethau o ansawdd sy’n darparu’r canlyniadau gorau posibl i gleifion a gofalwyr
• Darparu gwasanaethau canser cynaliadwy i’r boblogaeth yn y ffordd fwyaf effeithiol
• Bod yn arweinydd ym maes addysg, ymchwil, datblygu ac arloesi
• Cydymffurfio â safonau perthnasol

Er mwyn cyflawni’r amcanion hyn, rydym wedi creu saith prosiect:

1. gwaith galluogi ar gyfer y Ganolfan Ganser Felindre newydd
2. Canolfan Ganser Felindre newydd
3. Digidol ac offer
4. Canolfan radiotherapy lloeren
5. Allgymorth
6. Darparu gwasanaethau a phontio
7. Datgomisiynu Canolfan Ganser Felindre

Rydym wedi cynhyrchu ffilm fer i esbonio lle mae cleifion yn debygol o gael eu triniaeth a’u gofal yn y dyfodol.

 

Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, Uned 2,Cwrt Charnwood, Parc Nantgarw, Nantgarw, Caerdydd, CF15 7QZ
Rhif ffôn: 029 2019 6161