Neidio i'r prif gynnwy

Cystadleuaeth Minecraft Canolfan Ganser Felindre Newydd

Ydych chi’n meddwl bod gennych chi a'ch ysgol yr hyn sydd ei angen?

 


 

Cofrestru eich ysgol - ffurflen gofrestru'r gystadleuaeth (dolen allanol)

Rheolau’r Gystadleuaeth

  • Dim ond drwy ffurflen gofrestru'r gystadleuaeth y gellir cymryd rhan yn y gystadleuaeth
  • Dylai rhieni, gofalwyr neu athrawon gyflwyno ceisiadau ar ran cyfranogwyr
  • Mae'r gystadleuaeth yn agored i unrhyw berson ifanc rhwng 8 a 18 oed
  • Gall rhieni, gofalwyr neu athrawon eu cefnogi gyda'u cais
  • Gall cyfranogwyr gymryd rhan yn y gystadleuaeth fel unigolion neu fel tîm
  • Gall pob unigolyn neu dîm gyflwyno un cais am gystadleuaeth yn unig
  • Dim ond un cais yn unig mae pob unigolyn neu dîm yn cael eu cyflwyno
  • Mae cymorth technegol ar gael drwy gysylltu â cardifftechnocamps@gmail.com
  • Y dyddiad cau ar gyfer anfon ceisiadau ydy 12:00 (hanner dydd) ar 28 Mehefin 2021
  • Dim ond ceisiadau sydd wedi cael eu datblygu yn unol â'r meini prawf sydd yn cael eu hamlinellu o fewn y byd Minecraft fydd yn cael eu hystyried
  • Bydd pob cais dilys yn derbyn tystysgrif diolch a bag o bethau da am gymryd rhan yn y gystadleuaeth
  • Bydd syniadau o'r ceisiadau dethol yn cael eu cyflwyno i dîm prosiect Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre i'w hystyried wrth ddylunio'r ganolfan ganser newydd yn y dyfodol
  • Bydd pob cais yn cael eu hystyried yn ddienw
  • Efallai y byddwn ynnnnnnnnn defnyddio eich cais at ddibenion cyhoeddusrwydd, a byddwn yn cysylltu â chyfranogwyr i gasglu eu barnau am y gystadleuaeth
  • Bydd unrhyw wybodaeth bersonol sydd yn cael ei chyflwyno drwy'r gystadleuaeth ond yn cael ei defnyddio at ddibenion y gystadleuaeth, a bydd yn cael ei dileu unwaith y bydd y gystadleuaeth wedi gorffen.
  • Byddwn yn cysylltu â’r rheiny sydd wedi cyrraedd y rhestr fer, ac yn cynnig iddynt ddod yn llysgenhadon dylunio ieuenctid am ran o'r broses ddylunio gyfan neu'r holl broses ddylunio.

Bydd yr ysgolion cynradd ac uwchradd sy'n cymryd rhan yn derbyn llyfr gwaith rhyngweithiol ac addysgol i fyfyrwyr, sy'n ychwanegol i’r byd Minecraft. Bydd y llyfr gwaith yn cynnwys gwybodaeth am fioamrywiaeth, cymuned ac eco-adeiladau.

Mae’r byd Minecraft pwrpasol anhygoel hwn sy'n cwmpasu'r safle ar gyfer y Ganolfan Ganser Felindre newydd wedi cael ei adeiladu gan ganolfan Technocamps Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd a'i llysgenhadon STEM.

Cofrestru eich hysgo - ffurflen gofrestru'r gystadleuaeth

Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, Uned 2,Cwrt Charnwood, Parc Nantgarw, Nantgarw, Caerdydd, CF15 7QZ
Rhif ffôn: 029 2019 6161