Erthyglau o Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Velindre
Mae'r Strategaeth wedi ei datblygu gyda’n nyrsys a bydd yn eu grymuso i arwain yn dosturiol ac i ddarparu’r gofal gorau i’n cleifion ac i’n rhoddwyr.
Cyflwynwyd Gwobr flynyddol Prif Swyddog Nyrsio Cymru i'r tîm yng nghynhadledd nyrsio Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, a fynychwyd gan bron i 100 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Treialon Clinigol, rydyn ni’n annog ein cleifion i gael gwybod mwy am y treialon clinigol sydd ar gael iddyn nhw ac i gymryd rhan ynddynt.
Rydyn ni’n lansio ein Lleisiau Felindre – sef modd i gleifion, y presennol a’r gorffennol, a gofalwyr ac aelodau o'r gymuned ehangach gadw mewn cysylltiad â ni, dylanwadu ar ein gwaith a gweithio gyda ni ym mha bynnag ffordd sy'n addas iddyn nhw!
Dydd Mercher 26 Ebrill 2023 yw’r ail flwyddyn o ddathlu Diwrnod Cenedlaethol y Nyrsys Clinigol Arbenigol, a gafodd ei drefnu’n wreiddiol y llynedd gan The Greater Manchester Cancer Alliance.
Mae GIG Cymru wedi cyhoeddi adroddiad newydd yn manylu ar y cynnydd da sy’n cael ei wneud o ran ymchwilio i COVID-19 a gafwyd yn yr ysbyty yng Nghymru, a dysgu o’r achosion hyn.
Mae Dr Hilary Williams, ymgynghorydd mewn oncoleg feddygol yng Nghanolfan Ganser Felindre, wedi'i hethol yn Is-lywydd nesaf Coleg Brenhinol y Meddygon (RCP) ar gyfer Cymru.
Mae byrddau iechyd a sefydliadau’r GIG yng Nghymru wedi penodi un o’u cyfarwyddwyr anweithredol i fod yn llais ymchwil a datblygu ar eu Byrddau, fel rhan o fenter newydd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Cafodd yr Athro Mark Taubert ei enwebu am y wobr anrhydeddus yng Nghategori’r Gweithiwr Critigol (Gweithiwr Allweddol), sy’n cydnabod unigolyn, tîm neu grŵp yng Nghymru sy’n gweithio yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol, y trydydd sector, y gwasanaethau brys, llywodraeth leol, addysg neu ofal plant.
Mae Rhwydwaith Canser Cymru wedi lansio cynllun gwella tair blynedd sy’n mynd i fod yn fuddiol i gleifion a gweithwyr gofal iechyd canser proffesiynol ledled Cymru.
Bydd ysgoloriaeth nyrsio, sy’n cynnig cymorth ariannol ar gyfer prosiectau addysg neu brosiectau gwella gwasanaeth yng Nghanolfan Ganser Felindre’n parhau i fod ar gael, diolch i sefydliad yn enw cyn-glaf.
Bob blwyddyn ar 4 Chwefror, mae Canolfan Ganser Felindre’n dathlu Diwrnod Canser y Byd. Mae’r diwrnod yn uno pobl, cymunedau a gwledydd ledled y byd.
Mae'r tîm arloesi yng Nghanolfan Ganser Felindre wedi lansio sgwrsfot deallusrwydd artiffisial i gefnogi cleifion, eu hanwyliaid, ac aelodau'r cyhoedd.
ANTT yw’r dull strategol o atal heintiau sy’n ymwneud â gofal iechyd, a chafodd ei ddatblygu gan ddefnyddio tystiolaeth seiliedig ar ymchwil. Mae fframwaith ANTT yn gosod safon ddiogel ac effeithiol o weithio y mae modd ei defnyddio ym mhob triniaeth.
Heddiw (dydd Mawrth 24 Ionawr) mae Coleg Brenhinol y Meddygon (RCP) wedi lansio adroddiad newydd o bwys sy’n galw am fuddsoddi mewn gofal canser brys wrth y drws ffrynt.
Mae pencampwr tenis bwrdd wedi talu teyrnged i'r driniaeth a gafodd yng Nghanolfan Ganser Felindre am ei helpu i wella’n llwyr ac ennill cystadlaethau cenedlaethol, ac mae eisiau cynnig gobaith i eraill.
Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi dathlu ei ben-blwydd yn 5 oed gyda digwyddiad rhithwir oedd yn cynnwys siaradwyr o bob rhan o'r sectorau iechyd, gofal cymdeithasol ac arloesi yng Nghymru.
Yn dilyn y cyhoeddiad y bydd staff sy’n perthyn i undeb y Coleg Nyrsio Brenhinol yn streicio ar ddau ddyddiad yng nghanol mis Rhagfyr, mae Felindre eisiau sicrhau ei chleifion a’i rhoddwyr gwaed bod cynllunio ar y gweill.
Mae Technoleg Iechyd Cymru, a gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru yn 2017, yn asesu technolegau iechyd a gofal nad ydynt yn feddyginiaethau, ac yn cynhyrchu canllawiau cenedlaethol ar eu defnydd yng Nghymru.
Mae adnodd newydd wedi cael ei gyhoeddi i roi cymorth i gleifion a'u hanwyliaid yn ystod y cynnydd mewn costau byw.