Cafodd y ddau wirfoddolwr deinamig eu cydnabod am eu cyfraniad eithriadol i'w cymuned leol yn Nhreherbert trwy eu menter unigryw, Veggies for Velindre, sydd wedi codi dros £2,000 i Elusen Felindre.
Cyflwynwyd cyfanswm o 16 gwobr i unigolion, timau a phrosiectau o bob rhan o Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn ei Gwobrau Rhagoriaeth Staff 2023, sydd yn ôl unwaith eto ar gyfer 2023.
Disgrifiwyd Michele fel dynes “eithriadol” sy’n gweithio bob awr i ofalu am ei chleifion a’u perthnasau. Dywedodd enwebydd arall, “Dydw i wir ddim yn gwybod sut byddai Felindre'n ymdopi hebddi”.
Mae hyn wedi arwain at 10,000 yn llai o apwyntiadau i gleifion allanol yn y clinig ers ei sefydlu yn ogystal â gwell capasiti yn yr Adran Cleifion Allanol ar gyfer cleifion mwy cymhleth, cleifion newydd a chleifion sy’n cael canlyniadau sgan.
Mae PATHOS, sef treial clinigol a noddir ar y cyd gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre a Phrifysgol Caerdydd, yn dreial rhyngwladol Cam III sy’n anelu at ddatblygu triniaeth fwy caredig i gleifion â chanser y pen a’r gwddf.
Mae treial clinigol blaenllaw yn y DU i drin y math mwyaf difrifol o diwmor yr ymennydd wedi agor yng Nghanolfan Ganser Felindre. Bydd yn ymchwilio i’r cyfuniad o nabiximols a chemotherapi ac a fydd yn helpu i ymestyn bywyd pobl sydd wedi cael diagnosis o glioblastoma sydd wedi dychwelyd.
Mae Prosiect MYMR (My Medical Record) yn ddatblygiad Cymru-gyfan y mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre’n cymryd rhan ynddo.
Becky Bowey, sy'n gweithio yn Adran Cleifion Allanol Canolfan Ganser Felindre, yw Ymarferydd Cynorthwyol cyntaf Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, ar ôl dyrchafu o fod yn Weithiwr Cynnal Gofal Iechyd i fod yn Ymarferydd Cynorthwyol dan Hyfforddiant.
Cyfle i gwrdd â chleifion eraill ar gyfer sgyrsiau cyfrinachol heb fod yn gofnod am rai agweddau anodd ar ganser a thriniaeth.
Mae mwy i wella o ganser na gwella'ch corff. Mae'n ymwneud â gwella'ch meddwl hefyd.
Mae Anne Cleves, Rheolwr Cynorthwyol ein Llyfrgell a’n Harbenigwr Gwybodaeth Cynorthwyol, wedi cael cydnabyddiaeth arbennig gan Sefydliad Siartredig y Gweithwyr Proffesiynol ym maes Llyfrgelloedd a Gwybodaeth (CILIP).
Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn falch o fod yn un o ddim ond 10 sefydliad yng Nghymru i dderbyn Gwobr Aur y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn.
Mae dau o’n llysgenhadon ifanc wedi dod o hyd i ffordd greadigol o godi arian.
Mae Canolfan Ganser Felindre yn falch o lansio ei gwasanaeth teledu newydd sbon.
Mae'r Strategaeth wedi ei datblygu gyda’n nyrsys a bydd yn eu grymuso i arwain yn dosturiol ac i ddarparu’r gofal gorau i’n cleifion ac i’n rhoddwyr.
Cyflwynwyd Gwobr flynyddol Prif Swyddog Nyrsio Cymru i'r tîm yng nghynhadledd nyrsio Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, a fynychwyd gan bron i 100 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Treialon Clinigol, rydyn ni’n annog ein cleifion i gael gwybod mwy am y treialon clinigol sydd ar gael iddyn nhw ac i gymryd rhan ynddynt.
Rydyn ni’n lansio ein Lleisiau Felindre – sef modd i gleifion, y presennol a’r gorffennol, a gofalwyr ac aelodau o'r gymuned ehangach gadw mewn cysylltiad â ni, dylanwadu ar ein gwaith a gweithio gyda ni ym mha bynnag ffordd sy'n addas iddyn nhw!
Dydd Mercher 26 Ebrill 2023 yw’r ail flwyddyn o ddathlu Diwrnod Cenedlaethol y Nyrsys Clinigol Arbenigol, a gafodd ei drefnu’n wreiddiol y llynedd gan The Greater Manchester Cancer Alliance.
Mae Dr Hilary Williams, ymgynghorydd mewn oncoleg feddygol yng Nghanolfan Ganser Felindre, wedi'i hethol yn Is-lywydd nesaf Coleg Brenhinol y Meddygon (RCP) ar gyfer Cymru.