Neidio i'r prif gynnwy

Gweithio i'r Ymddiriedolaeth

Rosyn Day Unit nurses

Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn falch o'i chyflawniadau, sydd i gyd yn cael eu cyflawni gan y bobl sydd yn gweithio yma.

Rydym yn ymdrechu'n barhaus i ddatblygu ein gwasanaethau a'n staff, er mwyn darparu'r safonau gofal gorau a chyfleoedd gyrfa boddhaus.  Mae Canolfan Ganser Felindre yn cynnig cyfleoedd ar draws ystod eang o rolau clinigol ac anghlinigol, sy’n cynnwys Codwyr Arian, Radiograffwyr, Ymgynghorwyr, Nyrsys, Porthorion, TG a llawer mwy! Ewch i’n tudalennau ategol i gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith.

 

Swyddi Gwag

Mae swyddi gwag yn cael eu postio gan wefannau unigol. Gellir cael mynediad i’r rhain trwy'r dolenni isod. Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio i Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, gallwch gofrestru gyda gwefan swyddi’r GIG hefyd www.jobs.nhs.uk mae hyn yn eich diweddaru wrth i rolau swyddi priodol ddod ar gael.