Neidio i'r prif gynnwy

Y newyddion diweddaraf

Mae Imiwnotherapi Arloesol yn Cyrraedd y Claf Cyntaf yn Felindre

Mae Gwasanaeth Canser Felindre wedi trin ein claf cyntaf gyda Tebentafusp – math newydd o imiwnotherapi a elwir yn ymgysylltydd celloedd-T.

Llysgenhadon Ifanc yn Dod â Lliw a Gofal i Ganolfan Canser Felindre

Ddydd Gwener 25 Gorffennaf, croesawon ni 11 o Lysgenhadon Ifanc, eu teuluoedd a'u ffrindiau i adeiladu a phaentio 3 phlanhigydd gwely blodau newydd ar gyfer Canolfan Ganser Felindre.

Diwedd ar deithiau hir i gleifion diolch i wasanaeth newydd Felindre

Mae Gwasanaeth Canser Felindre wedi dechrau gwasanaeth newydd yr wythnos hon ar gyfer cleifion sydd â thiwmorau niwroendocrinaidd, gan gynnig triniaeth leol gyda dull arbenigol o therapi radionewclid penodol.

Ffarwel Cynnes i Donna a Stephen

Ar 31 Gorffennaf, rydym yn ffarwelio’n annwyl â’n Cadeirydd, yr Athro Donna Mead OBE, a’n His-gadeirydd, Stephen Harries. Mae eu hymroddiad i wella gwasanaeth cyhoeddus wedi gadael marc annileadwy ar Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.

Cleifion cyntaf yn cael eu trin yn Uned Radiotherapi Felindre @ Nevill Hall

Rydym wrth ein bodd yn gallu rhannu bod Uned Radiotherapi Felindre @ Nevill Hall ar agor ac yn weithredol o fis Mehefin 2025 ymlaen - gan ein helpu i wneud gofal canser o ansawdd uchel yn fwy hygyrch i Dde-ddwyrain Cymru.

Menyw yn gwenu tua
Menyw yn gwenu tua
Sara Moseley yn ymgymryd â rôl y cadeirydd yn ddiweddarach eleni

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cyhoeddi heddiw y bydd Sara Moseley yn ymgymryd â rôl Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ar 1 Medi 2025.

Croesawodd tîm Fferyllfa VCC gydweithwyr Clatterbridge

Yr wythnos diwethaf, cafodd tîm Fferyllfa Canolfan Ganser Felindre y pleser o groesawu cydweithwyr o Fferyllfa Canolfan Ganser Clatterbridge am ddiwrnod o arloesedd, mewnwelediad a chyfnewid proffesiynol.

Siarter Teithio Iach wedi'i Llofnod ar Wythnos Fawr Werdd

Yr wythnos hon, llofnododd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre y Siarter Teithio Iach - menter gan Deithio Iach Cymru i ddangos ymrwymiad i gefnogi cerdded, beicio, trafnidiaeth gyhoeddus, a defnyddio cerbydau allyriadau isel iawn.

Enwebwch rywun ar gyfer Gwobr Dewis y Bobl 2025!

Rydym yn galw arnoch i'n helpu i roi sbotolau ar lwyddiant drwy enwebu ein staff ar gyfer Gwobr Dewis y Bobl.

Pop o Liw yn y Ganolfan Canser!

Rydym yn falch o ddatgelu murlun newydd ar wal sy'n arwain at yr ardd gyfrinachol wrth ward yr Ysbyty Ambwlatoraidd.

Diweddariad System PROMs Digidol: Mehefin 2025

Mae'r tîm Gofal Iechyd yn Seiliedig ar Werthoedd wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y system PROMS Digidol (Mesurau Canlyniadau a Adroddwyd gan Gleifion) sydd wrthi'n cael ei gweithredu yn Felindre.

Ymddiriedolaeth yn lansio strategaeth glinigol a gwyddonol gyntaf erioed

Bydd strategaeth glinigol a gwyddonol gyntaf erioed y sefydliad yn cryfhau ei statws ac yn mynegi ei rôl yn y cyd-destun rhanbarthol a chenedlaethol.

Felindre yn agor astudiaeth ymchwil i ddatgelu cyfrinachau'r rheiny sydd wedi goroesi canser am gyfnod hir
Mae'r arwyddion i fyny yn Felindre @ Nevill Hall!

Mae'r arwyddion ar gyfer Uned Radiotherapi Felindre @ Nevill Hall wedi'u gosod i helpu ein cleifion a'n staff i ddod o hyd i'w ffordd o gwmpas y safle.

Mae Felindre yn cyflawni statws Hyderus o ran Anabledd Lefel 3!

Rydym yn falch o gyhoeddi bod Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre bellach wedi cyflawni statws Arweinydd Lefel 3 Hyderus o ran Anabledd, gan nodi carreg filltir arwyddocaol yn ei hymrwymiad i gynhwysiant a hygyrchedd yn y gweithle.

Sut achubodd gwaed fywyd Mab ac ysbrydolodd y Tad i roi rhywbeth yn ôl
Tad yn achub mab sy'n brwydro yn erbyn anhwylder gwaed prin
Delweddau Drôn a Thaith Gerdded Felindre @ Nevill Hall

Rydym yn falch o gyflwyno'r lluniau drôn unigryw a'r daith o fewn Uned Radiotherapi newydd Felindre @ Nevill Hall cyn iddi agor.

Cylch cyflawn yn Felindre wrth i'r claf cyntaf yng Nghymru gael triniaeth newydd ar gyfer canser y fron

Gwen Buchan, preswylydd o'r Barri, yw'r person cyntaf yng Nghymru i dderbyn triniaeth canser y fron newydd a ddechreuodd fel syniad ac yna treialon clinigol yng Ngwasanaeth Canser Felindre 10 mlynedd yn ôl.

Newidiadau yn eich profion gwaed yn Felindre

Os yw eich profion gwaed yn cael eu cymryd yng Nghanolfan Canser Felindre yn rhan o'ch triniaeth cemotherapi, bydd newid bach o ran pryd bydd hyn yn digwydd. Bydd hyn yn effeithio ar rai o'n cleifion.