Rydyn ni'n recriwtio Llysgenhadon Ifanc!

17 Ionawr 2025

Mae Felindre'n recriwtio mwy o bobl ifanc i ymuno â Rhaglen y Llysgenhadon Ifanc.

Mae’r cynllun yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i bobl ifanc rhwng 6 a 21 oed weithio gydag Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre a’i chefnogi, gan gynnwys digwyddiadau codi arian, gweithgareddau cymdeithasol a rôl unigryw wrth helpu i lunio Canolfan Ganser Felindre newydd fydd yn agor yn 2027.

P'un a ydych chi'n chwilio am brofiadau newydd, cyfleoedd i wirfoddoli ar gyfer eich CV neu gyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol, byddai'n braf iawn eich croesawu!

Cefnogwch, codwch arian a defnyddiwch eich llais!

Mynnwch wybod mwy a gwnewch gais i fod yn Llysgennad Ifanc Felindre heddiw.

Sarah Green

Cyfarwyddwr Gweithredol y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol (Dros dro)

Uned Cemotherapi Felindre @ Nevill Hall

Gwybodaeth gyffredinol am gael eich triniaeth canser systemig yn…

Felindre yn arwain y ffordd mewn arloesedd ym maes radiotherapi ar draws Cymru

Mae rhaglen dan arweiniad Felindre, Advancing Radiotherapy Cymru (ARC)…

Gwobrau STAR yn tynnu sylw at gydweithwyr a thimau rhagorol

Cafodd cydweithwyr a thimau o bob rhan o Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol…