Os oes gennych boen yn y frest, yn cael anhawster anadlu, yn cael strôc neu ffit, yn colli ymwybyddiaeth, yn colli llawer o waed neu os ydych yn dioddef unrhyw argyfwng meddygol arall, ffoniwch 999.
Os ydych chi'n teimlo'n sâl ac yn derbyn triniaeth sy’n defnyddio cyffuriau gwrth-ganser (sydd yn cael ei galw’n SACT hefyd – therapi gwrth-ganser systemig), ffoniwch: 02920 615888, a gofynnwch am y Llinell Gymorth Triniaeth.
Mae SACT yn cynnwys cemotherapi mewnwythiennol/ tabled, imiwnotherapi mewnwythiennol, a thabledi neu bigiadau eraill i drin canser.
PEIDIWCH Â FFONIO'R RHIF HWN OS OES ANGEN CYNGOR MEDDYGOL BRYS ARNOCH. FFONIWCH 999
Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer cleifion sydd yn teimlo'n sâl yn unig (ac sydd gyda, neu heb dymheredd sy’n uwch na 37.5C) ac sy'n derbyn triniaeth SACT trwy Ganolfan Ganser Felindre.
Os nad yw eich symptom yn dod o fewn y categori hwn, ffoniwch un o’r rhifau isod i gael mynediad at wasanaethau eraill y gallwch gael mynediad iddynt.
Mae enghreifftiau o'r pethau y gallwn roi cyngor arnynt yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i:
Mae'r gwasanaeth hwn yn cael ei staffio gan drinwyr galwadau, a fydd yn gofyn i chi am eich problem, ond nid ydynt yn gallu darparu cyngor meddygol.
Yn ystod oriau brig, bydd eich galwad yn cael ei throsglwyddo i beiriant ateb, a bydd rhywun yn eich ffonio chi’n ôl cyn gynted ag y bydd rhywun ar gael. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, gan gynnwys yn ystod gwyliau cyhoeddus/banc. Unwaith y byddwch wedi gadael neges, byddwn yn dychwelyd eich galwad cyn gynted â phosib.
Gadewch eich enw llawn, rhif Felindre ('V'), (eich rhif ysbyty, sy’n god 7 rhif, sy’n benodol i chi – gallwch ddod o hyd iddo ar dop unrhyw lythyrau rydych wedi eu derbyn gennym ni), y rhif cyswllt gorau i'ch ffonio'n ôl arno, a neges fer am eich symptomau, fel y gallwn flaenoriaethu'r galwadau i’w dychwelyd.
Bydd eich symptomau'n cael eu hadolygu gan nyrs, a fydd yn gwneud un o'r canlynol:
Mae'n bosibl y byddwn yn eich cynghori i weld eich Meddyg Teulu neu i fynd i adran damweiniau ac achosion brys neu i’ch ysbyty lleol, os ydym yn teimlo mai dyna'r ffordd fwyaf priodol o reoli eich symptomau.
Os ydych yn teimlo'n sâl ond nad ydych yn derbyn triniaeth SACT ar hyn o bryd, ac nad ydych chi wedi cael unrhyw gemotherapi yn ystod y 6 wythnos diwethaf neu imiwnotherapi yn ystod y 18 mis diwethaf
Mae'n annhebygol bod eich symptomau'n gysylltiedig â'ch triniaeth gwrth-ganser. Felly, cysylltwch â'ch Meddyg Teulu neu ffoniwch 111.
Os ydych chi'n credu bod eich symptomau'n gysylltiedig â'ch canser a bod gennych chi dîm gofal lliniarol cymunedol, efallai y byddan nhw yn gallu eich helpu chi hefyd.
Os ydych chi'n derbyn radiotherapi ar hyn o bryd (gyda neu heb driniaeth SACT), neu wedi cwblhau hyn yn ystod y 6 wythnos diwethaf a bod eich symptomau'n ymwneud â'r radiotherapi yn unig:
Efallai y bydd y tîm adolygu radiotherapi yn gallu eich cynghori. Cysylltwch â'r tîm adolygu drwy ffonio ein Switsfwrdd ar 02920 615 888 est 6421.
Yn ystod oriau brig, bydd eich galwad yn cael ei throsglwyddo i beiriant ateb, ac yn cael ei dychwelyd cyn gynted ag y bydd rhywun ar gael. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael rhwng 8am-6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio gwyliau cyhoeddus/banc. Unwaith y byddwch wedi gadael neges, byddwn yn dychwelyd eich galwad cyn gynted â phosib.
Y tu allan i'r oriau hyn, os yw eich galwad yn un brys, cysylltwch â'r llinell gymorth triniaeth.
Os nad ydych yn siŵr am apwyntiad triniaeth SACT:
Cysylltwch â'r tîm archebu triniaethau ar 02920 615888, estyniad 4495. Byddwch yn ymwybodol, ar yr adegau prysuraf, y gallech fynd drwodd i beiriant ateb; gadewch neges gyda'ch enw llawn, rhif Felindre ('V') a'ch ymholiad, a byddant yn cysylltu â chi.
Os nad ydych yn siŵr am apwyntiad triniaeth radiotherapi:
Cysylltwch â'r tîm archebu triniaethau ar 02920 196836. Byddwch yn ymwybodol, ar yr adegau prysuraf, y gallech fynd drwodd i beiriant ateb; gadewch neges gyda'ch enw llawn, rhif Felindre ('V') a'ch ymholiad, a byddant yn cysylltu â chi.
Os nad ydych yn siŵr am apwyntiad clinig gydag un o dîm Canolfan Ganser Felindre:
Cysylltwch â'r tîm cofnodion meddygol ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol ar 02920 316234.
Yn anffodus, ni allwn roi cyngor ar apwyntiadau gyda staff sydd ddim yn gweithio i Felindre mewn byrddau iechyd eraill, gan nad oes gennym fynediad i'w system apwyntiadau.
Os nad ydych yn siŵr am apwyntiad pelydr-X, neu sgan CT, asgwrn neu MRI yng Nghanolfan Ganser Felindre:
Cysylltwch â'r Adran Radioleg (pelydr-X) ar 02920 615888, estyniad 6252. Ni all y tîm hwn roi canlyniadau sganiau i chi, na dweud wrthych pryd y bydd y canlyniadau ar gael. Bydd eich ymgynghorydd yn trefnu apwyntiad cyn gynted ag y bydd y canlyniadau ar gael ac wedi cael eu hadolygu.
Os yw eich sganiau yn cael eu gwneud yn eich ysbyty lleol fel arfer:
Cysylltwch â’r Adran Radioleg perthnasol am gyngor.
Os oes angen i chi archebu cludiant i neu o apwyntiad:
Cysylltwch â'r tîm trafnidiaeth ar 030 0123 2302. Mae angen rhoi 48 awr o rybudd i newid eich archeb.
Os oes gennych ymholiad am eich canser, neu os ydych chi'n profi symptomau newydd:
Cysylltwch â'ch Nyrs Glinigol Arbenigol neu eich Gweithiwr Allweddol, gallwch ddod o hyd i'r rhifau o dan A-Z CNS ar wefan Canolfan Ganser Felindre.
Os oes angen cyngor arnoch am hawliau lles, budd-daliadau neu gymorth ariannol:
Cysylltwch â'r tîm gofal cefnogol ar 02920 316277
Os ydych chi eisiau copïau o’n taflenni gwybodaeth i gleifion:
Cysylltwch â’n tîm Gwybodaeth i Gleifion drwy ffonio 02920 196132
Os ydych chi eisiau gofal ysbrydol:
Gallwn ddarparu cefnogaeth ar gyfer pob crefydd ac enwad, ac i unrhyw un sy'n chwilio am ofal ysbrydol. Cysylltwch â'n tîm ar 02920 615888, a gofynnwch am y Gwasanaeth Caplaniaeth.
Os na all unrhyw un o'r uchod helpu, cysylltwch ag ysgrifennydd eich ymgynghorydd (mae’r rhifau ar gael ar Wefan Felindre).