Neidio i'r prif gynnwy

Cynnwys y cyhoedd

Gwybodaeth i'r cyhoedd

Heb ymchwil, ni fyddai llawer o'r triniaethau a'r mathau o ofal rydym yn eu derbyn yn rheolaidd yn y GIG heddiw ar gael.

Mae ymchwil o ansawdd uchel ond yn bosibl gyda chefnogaeth aelodau'r cyhoedd. Heb i bobl gytuno i gymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil, ni fuasem yn gweld gwelliannau mewn triniaethau a gofal.

Mae llawer o ffyrdd y gall pobl gymryd rhan mewn ymchwil, gan gynnwys:

  • derbyn triniaeth newydd
  • ateb holiaduron
  • rhoi caniatâd i ymchwilwyr edrych ar eich nodiadau meddygol
  • rhoi sampl gwaed neu wrin

Mae ymchwil yn rhan arferol o driniaeth a gofal yn y GIG yng Nghymru. Gallwch ddarganfod pam ei bod yn bwysig, sut i gymryd rhan, beth yw'r manteision a beth sydd ynghlwm ar gyfer pobl sydd yn cymryd rhan ar wefan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
 

Cynnwys y Cyhoedd mewn Ymchwil

Cynnwys y cyhoedd yw pan fydd aelodau'r cyhoedd yn rhannu eu hamser a'u profiadau personol i helpu i benderfynu pa ymchwil sy'n digwydd, a sut mae'n digwydd. Maen nhw’n yn gweithio gydag ymchwilwyr i gynllunio, rheoli a chynnal ymchwil.

Gall gynnwys:

  • Helpu i benderfynu pa broblemau sydd fwyaf pwysig i'w hateb drwy ymchwil
  • Cyfrannu at ysgrifennu taflenni gwybodaeth cleifion 
  • Dod yn gyfrannwr cyhoeddus ar grŵp sy'n cynnal astudiaeth ymchwil
  • Gwneud penderfyniadau ynghylch pa astudiaethau ymchwil y dylid eu hariannu
  • Cynorthwyo i rannu canfyddiadau ymchwil
  • Llywodraethu ymchwil i sicrhau ansawdd yr ymchwil, ac ar gyfer diogelu hawliau, urddas, diogelwch a lles y rhai sy'n cymryd rhan. Gallai hyn fod yn fater o reoli ymchwil, neu gynrychiolaeth bwrdd

I gael mwy o wybodaeth am y gymuned cynnwys y cyhoedd a sut i ymuno, ewch i ‘r dudalen Beth ydy cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil?
 

Cancer Research UK

Mae gwefan Cancer Research UK yn darparu llawer o wybodaeth am dreialon clinigol gan gynnwys:

  • Mathau o dreialon clinigol
  • Sut i ddod o hyd i dreial clinigol ac ymuno â nhw
  • Yr hyn y dylech ei wybod cyn cymryd rhan mewn treial clinigol
  • Beth i'w ofyn i'ch meddyg
  • Sut mae treialon yn cael eu trefnu a'u cynllunio

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan Cancer Research UK.

 

Be Part of Research

Mae Be Part of Research yn wasanaeth ar-lein sydd yn esbonio beth allai ei olygu i gymryd rhan mewn ymchwil, a pha ymchwil sydd yn digwydd ar hyn o bryd yng Nghymru a'r DU. 

I ddarganfod mwy, ewch i Be Part of Research.

 

Doeth Am Iechyd Cymru

Gallwch ymuno ag astudiaeth Doeth Am Iechyd Cymru os ydych chi’n 16 oed neu'n hŷn ac yn byw yng Nghymru, gwahoddir pawb i ymuno!

Mae Doeth Am Iechyd Cymru yn astudiaeth ymchwil sy'n anelu at ddatblygu triniaethau gwell a rheoli cyflyrau iechyd hirdymor fel clefyd y galon, dementia, diabetes, iechyd meddwl a chanser. P'un a ydych chi'n ifanc neu'n hen, yn ffit neu'n sâl, trwy gofrestru ar-lein, gofynnir i chi ateb cwestiynau syml am eich iechyd a'ch ffordd o fyw bob chwe mis. Bydd yr wybodaeth a roddwch yn helpu'r GIG yng Nghymru i gynllunio ar gyfer y dyfodol, a bydd yn diogelu iechyd y genedl. Dyma'ch cyfle i fod yn rhan o lunio iechyd a lles cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru.

Bydd ateb cwestiynau syml am eich iechyd a'ch ffordd o fyw yn helpu i ddiogelu eich iechyd chi a'ch ffrindiau, eich teulu a chenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru.