Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth i ymchwilwyr newydd

Gall yr Adran Ymchwil, Datblygu ac Arloesi roi help a chyngor i chi gyda'ch prosiect ymchwil.

Os ydych chi’n ystyried cymryd rhan mewn prosiect ymchwil gydag Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, cysylltwch â'r swyddfa Ymchwil, Datblygu ac Arloesi.

E-bost / E-mail: Velindre.R&DOffice@wales.nhs.uk 
Ffôn/Tel: 02920 615888 (est 4442)
 

Rôl yr Adran Ymchwil, Datblygu ac Arloesi

  • Sicrhau diogelwch a hawliau cyfranogwyr ymchwil
  • Sicrhau bod gwybodaeth am ymchwil ar gael i gleifion a chlinigwyr
  • Sicrhau bod ymchwil o ansawdd gwyddonol uchel
  • Datblygu a chyflawni strategaeth ymchwil yr Ymddiriedolaeth 
  • Darparu cymorth i ymchwilwyr drwy gydol y llwybr ymchwil, o geisiadau grant i gyhoeddi
  • Sicrhau bod prosiectau yn cael eu cofrestru'n ganolog 
  • Sicrhau y bydd astudiaethau’n gallu digwydd yn ymarferol yn Felindre, o ystyried ffactorau fel poblogaeth cleifion, y tîm o bobl a fydd yn gweithio ar yr ymchwil, hyfforddiant, adrannau cymorth, cyllid, offer a chyfleusterau
  • Sicrhau bod Felindre yn cyflawni ei chyfrifoldebau cyfreithiol, rheoleiddiol ac ariannol sy'n ymwneud ag ymchwil sydd yn cael ei gynnal yn Felindre, ond sydd ddim yn cael ei arwain gennym.
  • Rheoli risgiau a datrys problemau mewn amser real
  • Monitro perfformiad astudiaethau ymchwil
  • Adolygu a thrafod contractau
  • Noddi astudiaethau yn lleol ac yn rhyngwladol - ewch i'r dudalen wybodaeth ar noddi am fwy o wybodaeth
     

Gall yr Adran Ymchwil, Datblygu ac Arloesi helpu gyda’r canlynol:

  • Ceisiadau am gyllid a grantiau
  • Sut i gwblhau ffurflen gais
  • Dylunio a fformatio dogfennau astudio
  • Cyflwyniadau ymchwil (Ymchwil, Datblygu ac Arloesi, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (HCRW), Pwyllgor Moeseg Ymchwil (REC))
  • Paratoi ar gyfer astudiaethau ymchwil, gan gynnwys cysylltu ag adrannau cymorth, sefydlu cytundebau ac ati
  • Darparu mynediad ffurfiol i'r Ymddiriedolaeth - Contractau Anrhydeddus/Llythyrau Mynediad
  • Nawdd – ewch i'r dudalen wybodaeth ar noddi ymchwil am fwy o wybodaeth
     

Ydy fy mhrosiect yn cyfrif fel ymchwil?

Nid yw pob prosiect yn cyfrif fel ymchwil.  Mae'r Awdurdod Ymchwil Iechyd (HRA) wedi datblygu adnodd i benderfynu p’un a yw prosiect yn cyfrif fel ymchwil. Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael mynediad i'r adnodd ac i ateb holiadur byr:

Os ydych yn ystyried cymryd rhan mewn prosiect, cysylltwch â'r Adran Ymchwil, Datblygu ac Arloesi cyn i chi gwblhau unrhyw ffurflenni.

E-bost / E-mail: Velindre.R&DOffice@wales.nhs.uk 
Ffôn/Tel: 02920 615888 (est 4442)
 

Cofrestru prosiect ymchwil

Gall cofrestru prosiect ymchwil fod yn broses frawychus i ymchwilwyr newydd. Cysylltwch â'r Adran Ymchwil, Datblygu ac Arloesi cyn gynted â phosibl, gan y gallant ddarparu cefnogaeth ac arweiniad trwy gydol y broses.
 

Cais am ymchwil

Mae'r dogfennau canlynol fel arfer yn cael eu cynnwys fel rhan o gais am ymchwil:

  • OID (Organisation information document)
  • Ffurflen gais IRAS – gellir ei chyrchu trwy glicio ar y ddolen ganlynol: Ffurflen IRAS
  • Amserlen digwyddiadau
  • Protocol
  • CVs a thystysgrifau hyfforddi ymchwilwyr a'u tîm
  • Dogfennau gwybodaeth a chaniatâd cyfranogwr os yw'n berthnasol
  • Llythyrau gan reoleiddwyr yn cymeradwyo ymchwil – Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a'r Pwyllgor Moeseg Ymchwil lle bo'n berthnasol 
  • Cadarnhad o fabwysiadu portffolio os yw'n berthnasol
  • Cytundeb enghreifftiol perthnasol, a ddarperir gan noddwr lle bo'n berthnasol
  • Llawlyfrau’r fferyllfa, labordy a’r adran radioleg lle bo hynny'n berthnasol
  • Yswiriant, a ddarperir gan noddwr
  • Unrhyw ddogfennau eraill sy'n ofynnol gan y safle er mwyn cwblhau'r asesiad capasiti a gallu

Yn ogystal, mae Adran Ymchwil, Datblygu ac Arloesi Felindre yn gofyn am y ddogfen ganlynol fel rhan o'r cais am ymchwil (efallai y bydd gan sefydliadau eraill y GIG rywbeth tebyg):

  • Ffurflen Ddichonoldeb ar gyfer Astudiaethau Ymchwil, Datblygu ac Arloesi Felindre

 

Bydd yr Adran Ymchwil, Datblygu ac Arloesi yn eich cefnogi drwy'r broses, ac yn cynnig arweiniad ar bob cam. Cysylltwch â'r Adran Ymchwil, Datblygu ac Arloesi cyn i chi ddechrau llenwi unrhyw ffurflenni:

E-bost / E-mail: Velindre.R&DOffice@wales.nhs.uk 
Ffôn/Tel: 02920 615888 (est 4442)