Neidio i'r prif gynnwy

Pwy ydyn ni a beth rydyn ni'n ei wneud...

 

Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth ym 1994 ac mae'n un o 12 o sefydliadau iechyd statudol yng Nghymru. Rydym yn gyfrifol am ddarparu nifer o wasanaethau.

 

 

Gwasanaethau Canser Felindre

Gwasanaethau oncoleg trydyddol nad ydynt yn llawfeddygol: rydym yn ganolfan driniaeth, addysgu, ymchwil a datblygu arbenigol ar gyfer gwasanaethau oncoleg drydyddol anlawfeddygol i gleifion o bob rhan o Dde-ddwyrain Cymru sy'n gwasanaethu poblogaeth o 1.7 miliwn

 

 

 

Gwasanaethau Gwaed a Thrawsblaniadau Cymru

Ystod o wasanaethau hanfodol a hynod arbenigol gan gynnwys casglu a chynhyrchu gwaed a chydrannau gwaed i drin cleifion; a chefnogi'r rhaglenni trawsblannu drwy wasanaethau labordy trawsblannu ac imiwnogeneteg Cymru. Mae hwn yn wasanaeth cenedlaethol sy’n cefnogi 3.3 miliwn o boblogaeth Cymru

 

 

 

Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP)

Rydym yn cynnal PCGC sy’n darparu ystod eang o wasanaethau cymorth i GIG Cymru gan gynnwys caffael, recriwtio a gwasanaethau cefn swyddfa ehangach

 

 

 

Technoleg Iechyd Cymru

Rydym yn cynnal HTW, sef corff cenedlaethol sy’n gweithio i wella ansawdd gofal yng Nghymru. Mae’n cydweithio â phartneriaid ar draws y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a thechnoleg i nodi, arfarnu a chynghori ar fabwysiadu technoleg neu fodelau gofal er mwyn sicrhau dull gweithredu Cymru gyfan.