Neidio i'r prif gynnwy

Cyllid

Os ydych yn ystyried cyflwyno cais am gyllid neu grant, cysylltwch â'r Adran Ymchwil, Datblygu ac Arloesi. 

E-bost / E-mail: Velindre.R&DOffice@wales.nhs.uk 
Ffôn/Tel: 02920 615888 (est 4442)
 

Cyfleoedd ariannu

Gallwch weld y cyfleoedd ariannu presennol sydd ar gael i ymchwilwyr yng Nghymru ar wefan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

 

Cynlluniau ariannu Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cynnal nifer o gynlluniau ariannu sydd wedi'u cynllunio i:

  • ariannu ymchwil o ansawdd uchel sy'n darparu tystiolaeth gadarn ar gyfer datblygu polisi ac ymarfer iechyd a gofal cymdeithasol
  • ariannu ymchwil o ansawdd uchel sydd o fudd clir i’r cyhoedd.
  • cefnogi capasiti ac adeiladu gallu mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol, er enghraifft drwy helpu unigolion i ddod yn ymchwilwyr annibynnol ac ariannu unigolion talentog i gymryd rhan mewn ymchwil sy'n arwain at PhD.

Gallwch ddarganfod mwy am gynlluniau ariannu Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar y wefan.

 

Rhwydwaith Trosglwyddo Gwybodaeth Innovate UK

Nod y rhwydwaith hwn yw cysylltu arloeswyr â phartneriaid newydd a chyfleoedd newydd y tu hwnt i'w meddylfryd presennol – a sbarduno newid cadarnhaol drwy arloesi.

Er mwyn ei gwneud hi'n haws i ymchwilwyr ddod o hyd i’w ffordd o gwmpas yr holl gyfleoedd ariannu sydd ar gael, mae'r Rhwydwaith Trosglwyddo Gwybodaeth yn dod a’r galwadau ariannu agored a pherthnasol diweddaraf i'r sector iechyd at ei gilydd mewn un lle.  

Gallwch ddarganfod mwy am gyllid iechyd a gwyddorau bywyd ar wefan Rhwydwaith Trosglwyddo Gwybodaeth Innovate UK.

 

Cyllid Elusen Canser Felindre 

Elusen Canser Felindre yw elusen swyddogol Canolfan Ganser Felindre. Mae'r elusen yn buddsoddi mewn ymchwil ac arloesi, sy'n helpu i ddarparu cyfleoedd mewn treialon clinigol i gleifion yn Felindre.

I drafod cyflwyno cais am arian elusennol Felindre, cysylltwch â'r Adran Ymchwil, Datblygu ac Arloesi:

E-bost / E-mail: Velindre.R&DOffice@wales.nhs.uk 
Ffôn/Tel: 02920 615888 (est 4442)