Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth i Gleifion

Mae dod i’r ysbyty yn amser pryderus i unrhyw un.  Mae ein tudalennau gwybodaeth i gleifion yn gobeithio ateb llawer o'r cwestiynau a allai fod gennych.  Os ydych yn teimlo y gallem fod wedi esbonio unrhyw beth yn well, rhowch wybod i ni. Gallwch roi adborth drwy ein ffurflenni adborth, neu drwy anfon e-bost.

Taflenni gwybodaeth i gleifion

Mae gennym amrywiaeth eang o daflenni gwybodaeth.  Mae’r rhain yn darparu gwybodaeth am lawer o’r pethau y byddwch yn dod ar eu traws cyn, ac ar ôl eich triniaeth gyda ni.  Yn ychwanegol at y rhain, mae gennym gysylltiadau da iawn gyda llawer o elusennau fel Macmillan ac Ymchwil Canser Cymru ac yn y blaen.  Os nad oes gennym fersiwn o’n taflen ni, gallwn eich helpu i ddod o hyd i daflen gan un o’r elusennau mawr eraill.  Bydd ein rheolwr gwybodaeth i gleifion yn hapus iawn i’ch helpu chi i ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch.

Canolfan Ganser Felindre, Heol Felindre, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 2TL
Ffôn: 029 2061 5888