Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth noddi

Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn noddi nifer o brosiectau ymchwil rhyngwladol o fri.

Fel noddwr, rydym yn arwain ar:

  • Ddatblygu'r protocolau
  • Wneud cais am gyllid
  • Reoli'r risg
  • Fonitro'r safleoedd sy'n cymryd rhan
  • Gynhyrchu cyhoeddiadau clir. 

Rydym yn gweithio'n agos gyda'r holl sefydliadau sy'n cymryd rhan, gan gynnwys prifysgolion, elusennau, sefydliadau'r GIG a'r diwydiant gwyddorau bywyd, i sicrhau bod ein hymchwil a noddir o'r gwerth moesegol a gwyddonol uchaf.

Ar hyn o bryd, mae Felindre yn noddi tua 20 o astudiaethau amrywiol, pob un o wahanol faint a chymhlethdod. Agorodd y mwyaf o'r astudiaethau hyn yn rhyngwladol yn 2020, i ddarparu triniaeth chwyldroadol i'r pen a'r gwddf i garfan fawr o gleifion. 

Os ydych yn ymchwilydd a bod gennych astudiaeth yr hoffech i Felindre ei hystyried i gael ei noddi, cysylltwch â ni ar y canlynol:

E-bost/ Email: Velindre.R&DOffice@wales.nhs.uk 
Ffôn/Tel: 02920 615888 (ext 4442)