Neidio i'r prif gynnwy

Is-bwyllgor Ymchwil, Datblygu ac Arloesi

Pwrpas yr Is-bwyllgor Ymchwil, Datblygu ac Arloesi (RD&I) yw:

  • Goruchwylio strategaeth a pholisi ar gyfer gweithgareddau Ymchwil, Datblygu ac Arloesi yn yr Ymddiriedolaeth ac ar gyfer unrhyw Strategaeth sy'n gofyn am gymeradwyaeth y Bwrdd, yna dylid mynd â hyn i Bwyllgor Datblygu Strategol yr Ymddiriedolaeth.
  • Derbyn sicrwydd ar fonitro perfformiad – [trwy lens Ansawdd]
  • [Adrodd eithriadau] ac fel y'i diffinnir gan y Pwyllgor Ansawdd, Diogelwch a Pherfformiad, efallai y bydd angen cymryd elfennau o'r sicrwydd monitro perfformiad hwn yno hefyd - yn unol â pherfformiad, ansawdd, fframweithiau sicrwydd a meini prawf adrodd eithriadau ar gyfer y Pwyllgor hwnnw.
  • Hyrwyddo ac annog ethos a diwylliant Ymchwil ac Arloesi sy'n rhan annatod o weledigaeth, cenhadaeth a gwerthoedd yr Ymddiriedolaeth.
  • Darparu sicrwydd i'r Bwrdd mewn perthynas â threfniadau'r Ymddiriedolaeth ar gyfer sicrhau cydymffurfiaeth â Fframweithiau Polisi'r DU ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd.
  • Ystyried materion perthnasol gan gyfeirio at y paramedrau a nodwyd ar gyfer archwaeth risg mewn perthynas ag ymchwil, datblygu ac arloesi fel y'u pennwyd gan y Bwrdd.

Lawrlwythwch y Cylch Gorchwyl.