Neidio i'r prif gynnwy

Llysgenhadon Ifanc yn dod ynghyd i wyrddio'r ganolfan

Ddydd Mercher (24 Awst), daeth 10 o lysgenhadon ifanc Felindre a'u teuluoedd ynghyd yn y tipi i greu mannau gwyrdd a bywiog i gleifion ac ymwelwyr â'r safle.

Ymhlith y gweithgareddau roedd plannu gerddi perlysiau, dyfrio blodau, creu a gosod gwestai i bryfed, a'r cyfan er mwyn helpu i gynnig amgylchedd hyfryd i'r rheiny sy'n dod i'r safle.

Daeth ITV Wales hefyd i ffilmio darn ar gyfer eu bwletin nosweithiol am 6pm.

"Mae'n wych pan mae pobl yn dod yma am driniaeth", meddai Dr Hilary Williams sy'n Oncolegydd Ymgynghorol yn y Ganolfan, "Gallwn ni roi cymorth iddyn nhw, cynnig lle diogel a hapus i'w plant er mwyn defnyddio mannau gwyrdd, mwynhau gerddi... a helpu i leddfu rhywfaint o straen ymysg y teulu."

Mae canser wedi effeithio mewn rhyw ffordd ar bob un o'r bobl ifanc hyn, sy'n 4-14 oed, ac maen nhw'n hynod o frwdfrydig i barhau â'u cyfraniad at Felindre, boed hynny trwy godi arian neu godi ymwybyddiaeth.

Hyd yn hyn eleni, mae ein Llysgenhadon Ifanc anhygoel wedi codi dros £65,000 i'r Ganolfan Ganser, ac rydyn ni'n hynod o ddiolchgar am eu cymorth.

 

 

Cewch wybod mwy am waith anhygoel Codi Arian Felindre yma
ac am ein Llysgenhadon Ifanc anhygoel yma!