Neidio i'r prif gynnwy

Enwebu lleoliad gwaith yn Felindre am wobr genedlaethol anrhydeddus

16 Chwefror 2024

Mae model y myfyrwyr nyrsio yng Nghanolfan Ganser Felindre wedi cael ei enwebu am wobr nyrsio genedlaethol.

Mae Ward y Llawr Cyntaf wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr Student Nursing Times yng nghategori ‘lleoliad y flwyddyn i fyfyrwyr: ysbyty’ ar gyfer model ‘prif ganolfan a lloerennau’ yn y maes dysgu.

Cafodd y model ei gyflwyno yng Nghanolfan Ganser Felindre gyda’r nod o wella profiad myfyrwyr a’u gwybodaeth ynglŷn â thaith cleifion canser.

Mae'n rhoi profiad i fyfyrwyr nyrsio o amrywiaeth ehangach o feysydd clinigol y tu hwnt i'r model cyfredol ar gyfer timau. Roedd y model hwnnw’n cyfyngu myfyrwyr i'r uned cleifion mewnol yn unig.

Y meysydd clinigol ehangach yw:

  • Yr Uned Asesu
  • Yr unedau dydd ar gyfer therapi gwrth-ganser systemig (SACT)
  • Treialon clinigol
  • Theatrau brachytherapi
  • Gofal dydd
  • Clinig mynediad trwy’r wythïen
  • Adran y Cleifion Allanol
  • Clinigau dan arweiniad nyrsys clinigol arbenigol

Canfu'r prosiect fod profiad y myfyrwyr nyrsio yn rhagorol ac iddynt gael mewnwelediad gwerthfawr a gwell dealltwriaeth o daith ehangach cleifion canser.

Dywedodd un myfyriwr: “Roeddwn i’n arfer credu bod gofal canser fel nyrs yn gallu bod yn brofiad digalon ac roeddwn i’n nerfus am ddod yma, ond nid dyna’r gwirionedd, ac roeddwn i mor falch o gael profiad o roi newyddion da i gleifion pan oedd canlyniadau eu sganiau’n dda.”

Dywedodd myfyriwr arall: “Dyma un o’r lleoliadau gwaith gorau rydw i wedi bod arno. Rydw i wedi ennill llawer o gymwyseddau ac wedi dysgu cymaint. Mae pawb yn wybodus iawn.”

Roedd y ffordd hon o ddarparu lleoliad gwaith i fyfyrwyr yn newid sylweddol i'r sefydliad gan ei fod bellach yn cynnwys y timau ehangach y tu hwnt i amgylchedd y cleifion mewnol.

Mae'r newid wedi ei groesawu ac mae model y ‘brif ganolfan a lloerennau’ bellach yn rhan graidd o’r sefydliad. Mae potensial gan y prosiect i gynyddu nifer ei leoliadau gwaith yn y dyfodol hefyd.

Meddai Nicola Williams, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a Gwyddor Iechyd:

“Rydw i mor falch o’r tîm am y gwaith maen nhw wedi ei gyflawni yma. Maen nhw wedi cydnabod pa mor bwysig yw hi ein bod yn rhoi amgylchedd dysgu cadarnhaol i fyfyrwyr nyrsio a’n bod yn gwneud y gorau o’r cyfleoedd iddynt gael profiad mor gyflawn ac amrywiol â phosibl er mwyn creu’r genhedlaeth nesaf o nyrsys graddedig yma. Mae cyflawni hyn yn ystod y cyfnod hynod o heriol ar hyn o bryd yn anhygoel.”

 

Ynglŷn â’r Gwobrau

Mae Gwobrau Student Nursing Times yn cael eu cynnal bob blwyddyn gan The Nursing Times i ddathlu addysg nyrsio.

Mae categori ‘lleoliad y flwyddyn i fyfyrwyr: ysbyty’ yn ceisio cydnabod y wardiau a’r ysbytai sy’n mynd gam ymhellach i ddelio â’r pryderon sy’n gysylltiedig â mynd ar leoliad gwaith, trwy ddarparu amgylchedd dysgu strwythuredig sy’n helpu myfyrwyr i ddatblygu a ffynnu.

Mae hyn yn cynnwys nodi’n glir beth bydd myfyrwyr yn ei wynebu yn ystod eu cyfnod yn yr ysbyty, a sicrhau eu bod yn cael cymorth i ymarfer sgiliau ac i ddysgu o’r rheiny o’u cwmpas sy’n fwy profiadol.

Bydd seremoni wobrwyo 2024 yn cael ei chynnal ddydd Gwener 26 Ebrill yng Ngwesty JW Marriott Grosvenor House yn Llundain.

Mae rhagor o wybodaeth ar wefan Gwobrau Student Nursing Times.