Neidio i'r prif gynnwy

Gwirfoddolwyr ifanc yn dosbarthu pecynnau Pasg i gleifion

31 Mawrth 2024

Rhoddodd y Ganolfan Ganser groeso i ymwelwyr arbennig er mwyn rhoi anrhegion bach i gleifion, ymwelwyr a’u teulu.

Gwirfoddolodd nifer o Lysgenhadon Ifanc yr Ymddiriedolaeth i ddosbarthu 400 o wyau Pasg a roddwyd yn hael unwaith eto gan Motonovo Finance, ac yntau wedi dyblu eu rhodd o’r flwyddyn ddiwethaf.

Hwn oedd profiad go iawn, cyntaf y llysgenhadon ifanc o wirfoddoli yn y Ganolfan Ganser ers pandemig COVID-19.

Meddai Lucesca Walters, sy’n Swyddog Ymwneud â Chleifion a Chymorth i Wirfoddolwyr yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre:

“Pan glywsom ni fod rhodd hael o 500 o wyau Pasg yn ein cyrraedd, roedden ni’n gwybod bod angen cymorth cefnogwyr ymroddgar, brwd a bywiog. Dyma eiriau perffaith i ddisgrifio ein llysgenhadon ifanc.

“Mae eu hamser yn yr achos hwn wedi bod yn hynod o werthfawr i ni ac wedi rhoi gwên ar lawer o’n cleifion, ein hymwelwyr a’n staff. Diolch i bob un ohonynt am eu caredigrwydd.”

Ers i Elusen Codi Arian Felindre ail-lansio cynllun y Llysgenhadon Ifanc yn 2020, mae’r fenter wedi codi dros £64,000 i gyllido gwasanaethau hanfodol yng Nghanolfan Ganser Felindre.

Mae canser wedi effeithio rywsut ar bob un o’r bobl ifanc hyn sydd rhwng 4 a 14 oed ac maent yn frwdfrydig iawn dros barhau i gyfrannu at Felindre, boed hynny trwy godi arian neu ymwybyddiaeth.

Mae’n braf gennym fod mewn sefyllfa i greu rhagor o gyfleoedd cyffrous i bobl ifanc wirfoddoli yn Felindre wrth i raglen swyddog Gwirfoddolwyr Felindre ddychwelyd.

Dros y misoedd nesaf, rydym yn gobeithio cynnig rhagor o ffyrdd i’n cefnogwyr ifanc greu awyrgylch cadarnhaol i’n canolfan, dylanwadu ar ein gwaith a helpu i ddylunio ein dyfodol, yn benodol trwy ddatblygu strategaeth ymwneud â phobl ifanc ar gyfer yr Ymddiriedolaeth gyfan.