Neidio i'r prif gynnwy

FDA (Federal Drug Agency) yn cymeradwyo i driniaeth cyffuriau canser y fron gael ei datblygu yn Felindre

11 Rhagfyr 2023

Dechreuodd y cyfan dros 10 mlynedd yn ôl, gyda thri pherson mewn ystafell yng Nghaerdydd yn sôn am ffyrdd o wella canlyniadau yn y math mwyaf cyffredin o ganser yn y byd – canser y fron positif i dderbynyddion oestrogen.

Arweiniodd hyn at gynnal treial clinigol FAKTION, i ymchwilio i weld p’un a allem gyfuno therapi hormonau safonol yn ddiogel ag atalydd AKT AstraZeneca (capivasertib), a gwella'r canlyniadau i gleifion.

Dangosodd canlyniadau'r treial Cam II y gallai cleifion a dderbyniodd y driniaeth gyfunol ddisgwyl i’w canser gael ei reoli am ddwywaith mor hir â'r rhai sy'n derbyn therapi hormonau yn unig.

Roedd AstraZeneca wedi'u cyffroi gan ganlyniadau’r treial FAKTION a dechreuodd dreial byd-eang Cam III, a gadarnhaodd ganfyddiadau'r treial FAKTION .

A nawr, mae Asiantaeth Cyffuriau Ffederal (FDA) UDA wedi cyhoeddi y byddai'n trwyddedu'r defnydd o capivasertib, truqap erbyn hyn, ar y cyd â'r cyffur therapi hormonau faslodex, i'w ddefnyddio mewn cleifion â chanser y fron ER positif, HER2 negyddol.

Athro Rob Jones, Cyd-Brif Ymchwilydd y Treial FAKTION a Chyfarwyddwr Meddygol Cyswllt ar gyfer Ymchwil, Datblygu Ac Arloesi yng Nghanolfan Ganser Felindre meddai:

"Mae hon yn stori newyddion fawr i Gaerdydd. Dechreuodd y cyfan gyda threial FAKTION a ddatblygwyd yn Felindre, a noddwyd gan Felindre, ac a gyflwynwyd mewn cydweithrediad â Chanolfan Ymchwil Treialon Prifysgol Caerdydd.

"Truqap ydy’r cyffur cyntaf o’i fath yn y byd sydd yn gallu cael ei ddefnyddio mewn cleifion, a hon ydy’r drwydded gyntaf sydd yn cymeradwyo ei ddefnyddio.

"Mae effaith fyd-eang yr ymchwil hon yn aruthrol - mae'r grŵp o gleifion a allai dderbyn y driniaeth hon yn cynrychioli tua 75% o gleifion â chanser metastatig y fron.

"Pan fydd claf wedi cael diagnosis o ganser metastatig, mae cleifion yn aml yn poeni fwyaf am faint o amser sydd ganddyn nhw ar ôl. Er nad ydym yn gallu cynnig iachâd, bydd y feddyginiaeth newydd hon yn prynu amser ychwanegol pwysig iawn i bobl y gallant ei dreulio gyda'u teuluoedd a'u ffrindiau.

"Mae angen cael cymeradwyaeth gan Ewrop a'r DU o hyd cyn y gellir defnyddio'r cyffur yma, ond mae'r dyfodol yn edrych yn galonogol iawn i'n cleifion."

I gael mwy o wybodaeth am Truqap a chymeradwyaeth yr FDA, ewch i wefan AstraZeneca.