Neidio i'r prif gynnwy

Coleg Brenhinol y Meddygon yn lansio adroddiad pwysig i wasanaethau oncoleg acíwt

Heddiw (dydd Mawrth 24 Ionawr) mae Coleg Brenhinol y Meddygon (RCP) wedi lansio adroddiad newydd o bwys sy’n galw am fuddsoddi mewn gofal canser brys wrth y drws ffrynt.

Gan ddefnyddio profiadau cleifion, meddygon, nyrsys a therapyddion o bob cwr o Gymru, mae Coleg Brenhinol y Meddygon yn galw ar bob bwrdd iechyd i fuddsoddi mewn gwasanaethau oncoleg acíwt (AOS) a triniaeth ddydd (yr un diwrnod) sy’n gallu gwella profiad cleifion a chanlyniadau meddygol, lleihau hyd arhosiad mewn ysbyty, a chadw pobl gartref am gyfnod hirach.

Mae’r adroddiad newydd hwn, a gymeradwywyd gan y Gymdeithas dros Feddygaeth Acíwt, yn nodi y bydd ar lawer o gleifion canser, rywbryd yn ystod eu salwch, angen gofal canser brys arbenigol yn Adran Damweiniau ac Achosion Brys eu hysbyty lleol. Fodd bynnag ,mae angen heb ei gynllunio a heb ei ddiwallu am wasanaeth oncoleg acíwt wrth ddrws ffrynt yr ysbyty ar draws llawer o Gymru, sy’n golygu y gall cleifion canser gael profiad gwael iawn mewn argyfwng.

Mae Canolfan Ganser Felindre yn ymddangos drwy'r adroddiad hwn, gan ddarparu cipolwg gan staff yn ogystal â chan gydweithwyr o bob rhan o GIG Cymru sy’n gweithio’n agos gyda’r Ganolfan.

Un o’r prif gyfranwyr at yr adroddiad yw Dr Hilary Williams, sy’n ymgynghorydd oncoleg yn Felindre ac yn arweinydd ar Rwydwaith Canser Cymru ar gyfer oncoleg acíwt.

"Lle bynnag y mae claf yn byw yng Nghymru, dylai allu cael mynediad at wasanaeth oncoleg acíwt rhagorol”, meddai Dr Williams. “Pan fydd pobl yn meddwl am driniaeth canser, efallai y byddan nhw’n meddwl am gael llawdriniaeth neu gael cemotherapi, radiotherapi neu imiwnotherapi mewn ffordd drefnus, efallai yn ystod oriau gwaith mewn canolfan arbenigol.

“Ond beth sy’n digwydd pan fydd argyfwng yn codi? Beth fydd yn digwydd os byddwch yn mynd yn sâl iawn yn sydyn oherwydd eich triniaeth canser, neu os bydd cymhlethdod yn codi dros nos neu dros y penwythnos? Beth sy’n digwydd os gwneir diagnosis o ganser yn ystod ymweliad ag adran achosion brys ysbyty?”

Gall arhosiad acíwt o ganser olygu bod cyflwr claf yn gwaethygu, ond gall adolygiad cynnar ac asesiad cyflym gan y tîm iawn arwain at ryddhau’n gynt a helpu i osgoi aildderbyn. Gall hyn wella profiad cleifion a’u teuluoedd yn sylweddol yn ystod argyfwng.

Lle bynnag y mae claf yn byw yng Nghymru, dylai allu cael mynediad at wasanaeth oncoleg acíwt o ansawdd uchel sy’n gefnogol ac yn canolbwyntio ar y claf. Dylai pob bwrdd iechyd gynhyrchu cynlluniau lleol sy’n cynnwys: 

  • buddsoddiad tymor hir mewn staff mwy arbenigol i sicrhau darpariaeth trawsgyflenwi a gwasanaeth cynaliadwy a chadarn
  • amser wedi’i neilltuo ar gyfer darparu gwasanaethau ac addysg
  • dull tîm amlddisgyblaethol ar draws gofal sylfaenol, meddygaeth acíwt, gofal lliniarol ac oncoleg
  • cydweithio agosach ar lefel ranbarthol
  • ffocws ar leihau anghydraddoldebau iechyd.

“Yn ystod un o gyfnodau mwyaf brawychus eich bywyd, dylech gael eich trin gan rywun sy’n deall beth rydych chi’n mynd drwyddo ac sy’n gallu eich helpu gyda chyngor arbenigol,” ychwanega Dr Williams.

“Dyma lle mae timau gwasanaeth oncoleg acíwt yn dod i'r amlwg. Mae’r rhain yn nyrsys, meddygon a therapyddion arbenigol sydd wedi’u hyfforddi’n dda ac sy’n gallu eich cefnogi chi a’ch teulu drwy argyfwng canser annisgwyl.

“Mae ein staff anhygoel wrth galon yr hyn a wnawn: mae recriwtio a chadw staff arbenigol yn gwbl hanfodol, ac mae tîm gwirioneddol amlddisgyblaethol yn allweddol i brofiad cleifion o ansawdd uchel."