Neidio i'r prif gynnwy

Blog | Sut i greu'r amodau ar gyfer gwelliant cynaliadwy

Nicola Williams is smiling.

23 Ionawr 2023

Gan Nicola Williams, Cyfarwyddwr Nyrsio, Gweithwyr Perthynol i Iechyd a Gwyddonwyr Gofal Iechyd, Ymddiriedolaeth Gorfforaethol Felindre.

Rydym i gyd eisiau gofal diogel, dibynadwy ac effeithiol i’n cleifion ac mae’r timau yn Felindre yn gweithio’n hynod o galed i ddysgu, gwella a llywio newid i greu diwylliant ystyrlon o ddiogelwch seicolegol. Mae gennym y staff mwyaf anhygoel, sy’n gwneud y pethau mwyaf rhyfeddol, ond yn ystod yr amseroedd mwyaf heriol. Fy uchelgais yw bod pawb wir yn teimlo mai rhan o’u swydd graidd hefyd yw helpu i wella’r hyn a wnawn.

Fy rôl i, ynghyd â’m cydweithwyr ar y bwrdd, yw helpu i greu’r amodau ar gyfer gwella i lwyddo. Fel cadeirydd bwrdd Cydweithredfa Gofal Diogel yr Ymddiriedolaeth, mae gan dimau gwella gyfrwng i ddod â dysgu a rennir ac unrhyw rwystrau y maent yn eu hwynebu fel y gallwn gytuno ar gynllun i'w goresgyn. Rwy’n agored ac yn barod i helpu i wneud beth bynnag a allaf i gael gwared ar rwystrau fel y gallant gynnal momentwm. Mae enghreifftiau’n cynnwys mynediad digidol, amser clinigwyr, ail-flaenoriaethu, a’r angen am gefnogaeth/adolygiad gan gymheiriaid.

Fel Arweinydd Gweithredol yr Ymddiriedolaeth ar gyfer y Gydweithredfa Gofal Diogel, rwy’n sicrhau bod adroddiadau llywodraethu cadarn yn cael eu cyflwyno i’r bwrdd. Rydw i hefyd yn gwneud yn siŵr bod cefnogaeth ar gael i dimau ar draws yr ymddiriedolaeth gyflawni eu prosiectau gwella Cydweithredfa Gofal Diogel yn llwyddiannus, yn ogystal â sicrhau bod y rhain yn cyd-fynd yn llawn â'n blaenoriaethau ansawdd ein hunain.

Mae'r timau yn Felindre yn dysgu sut i ddefnyddio methodoleg gwella wrth iddynt weithio ar eu prosiectau eu hunain. Ond ni allant wneud hyn heb gymorth y tîm arwain i ddarparu amser a lle i wneud eu gwaith gwella er mwyn creu gofal diogel, dibynadwy ac effeithiol i gleifion.

Mae sicrhau bod y bwrdd wedi ymrwymo i’r gwaith pwysig yr ydym yn ei wneud drwy’r gydweithredfa, ac yn monitro’r gwaith pwysig hwnnw, yn arbennig o bwysig. Roedd y diwrnod cydweithredol ym mis Tachwedd yn gyfle i’r timau rannu’r gwaith y maent wedi bod yn ei wneud gydag aelodau’r bwrdd.


Diogelwch Seicolegol

Mae diogelwch seicolegol yn helpu i greu'r amodau ar gyfer newid ac yn bwysicaf oll, yn creu amgylchedd gofal llawer mwy diogel i'n cleifion, rhoddwyr a staff.

Fy rôl i fu hyrwyddo diogelwch seicolegol yn gryf fel llinyn ym mhopeth a wnawn. Diogelwch seicolegol yw blaenoriaeth arweinwyr ein hymddiriedolaeth a'n Cydweithredfa Gofal Diogel. Mae hefyd wedi'i wreiddio yn rhaglen flaenoriaeth ein hymddiriedolaeth, sef 'Adeiladu ein Dyfodol Gyda'n Gilydd'. Ein blaenoriaeth fu sefydlu normau diwylliannol cadarn ar draws y sefydliad cyfan o lefel gwasanaethau i lefel y bwrdd, fel bod pawb yn teimlo y gallant godi pryderon, gofyn cwestiynau a siarad yn hyderus, a bod hyn yn cael ei dderbyn ac ymateb yn gadarnhaol iddo.

Mae gwneud y gwaith gwella ei hun wedi helpu timau i gydweithio gyda mwy o ddiogelwch seicolegol. Maent yn ymarfer popeth y maent yn ei ddysgu am sut i gyfathrebu'n effeithiol a gweithio gyda'i gilydd fel tîm. Rwy'n eu hannog i ofyn cwestiynau gyda pharch, ceisio eglurder, cynllunio eu gwaith gyda'i gilydd a myfyrio.

 

Dysgu

Mae’r Gydweithredfa Gofal Diogel wedi codi proffil yr hyn rydym yn ei fesur, sydd wedi gwneud i ni fyfyrio ar ba ddata sy’n mynd i’r bwrdd ac ai dyma’r data cywir i gefnogi ein timau a gwella gofal i gleifion. Rydym nawr yn mireinio ein mesurau ar lefel y bwrdd fel eu bod yn ystyrlon i staff a chleifion.

Mae’r gydweithredfa wedi helpu i adfywio gwelliant a chreu cyfleoedd cadarnhaol i ddysgu gyda chydweithwyr ledled Cymru yn ogystal â dysgu sut mae eraill, er enghraifft yn yr Alban, wedi mynd i’r afael â gwelliant ac yn creu diwylliant seicolegol ddiogel.

Mae helpu i wella'r hyn a wnawn yn rhywbeth y gallwn ni i gyd gymryd rhan ynddo fel y gallwn greu gofal mwy diogel i'n cleifion, ein rhoddwyr a’n staff.

Dysgwch fwy am y Gydweithredfa Gofal Diogel.