Neidio i'r prif gynnwy

Ydw i'n sicr o gael rôl yn Gwirfoddoli yn Felindre?

Yn gryno, nac ydych. Nod ein proses ymgeisio ydy dod o hyd i ymgeiswyr addas sy'n ateb anghenion ein rhaglen a'n gwasanaeth. Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich ffurflen gais, bydd ein tîm yn anelu at gysylltu â chi o fewn 10 diwrnod gwaith, i roi gwybod i chi p’un a ydych chi wedi bod yn llwyddiannus ai peidio.

Mae yna nifer o resymau pam na fydd eich cais yn llwyddiannus, er enghraifft: dydych chi ddim dros 16 oed, dydy’r cais ddim wedi cael ei gwblhau'n llawn, mae ein rhaglen yn llawn, ni allwn ddarparu ar gyfer eich dewisiadau na'ch cais (mae hyn yn annhebygol iawn, ond yn dal yn bosibl).

Os yw ein rhaglen yn llawn, byddwn yn cynnig cyfle i ymgeiswyr ymuno â'n rhestr aros, neu i archwilio rhywfaint o gyfleoedd eraill yn y cyfamser.