Neidio i'r prif gynnwy

Gwirfoddoli

Velindre Volunteers

Diolch am fynegi diddordeb mewn gwirfoddoli ar gyfer Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. Mae gennym amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli yng Nghanolfan Ganser Felindre, sy’n eich gwahodd i ddarparu cefnogaeth hanfodol i'n cleifion, ein staff a'n hymwelwyr.

Dod o hyd i'r rôl sy'n iawn i chi

 
 

Os hoffech gymryd rhan mewn cyfleoedd gwirfoddoli corfforaethol ar gyfer eich busnes neu eich tîm, anfonwch e-bost at Velindre.Volunteers@wales.nhs.uk i drafod y cyfleoedd sydd ar gael.

Ein dyheadau yw creu amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli ieuenctid (dan 16) yn y dyfodol. Yn y cyfamser, os ydych chi'n berson ifanc sy'n dymuno gwirfoddoli, rydym yn argymell eich bod chi’n cysylltu â Velindre.Volunteers@wales.nhs.uk, oherwydd efallai y bydd cyfleoedd eraill ar gael yn y cyfamser sydd yn gweddu eich hanghenion.

Cyn gwneud cais, edrychwch ar ein cyfleoedd gwirfoddoli presennol yma.


Pethau i'w gwybod cyn cwblhau eich ffurflen gais

  1. Dylai'r ffurflen gymryd 20-30 munud i'w chwblhau, felly gwnewch yn siŵr bod yr amser hwn ar gael gennych cyn dechrau.
  2. Rhaid i bob gwirfoddolwr fod yn 16+ oed i wneud cais.
  3. Bydd angen i bob gwirfoddolwr gwblhau gwiriad iechyd galwedigaethol a diwrnod hyfforddi gorfodol cyn dechrau eu profiad gwirfoddoli gyda ni
  4. Ar gyfer rolau penodol (yr holl rolau craidd a rhai rolau tymhorol), bydd gofyn i ymgeiswyr gwblhau gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) cyn dechrau eu profiad gwirfoddoli gyda ni.
  5. Bydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn prosesu pob gwiriad ar eich rhan, a bydd yn rhoi'r wybodaeth berthnasol a'r camau nesaf i ymgeiswyr llwyddiannus. Does dim angen i chi dalu am unrhyw wiriadau eich hun.
  6. I'r rhai sydd angen cymorth ychwanegol wrth gwblhau'r cais, rydym yn eich annog i anfon neges e-bost at Velindre.Volunteers@wales.nhs.uk. Bydd ein tîm yn gweithio gyda chi i ddod o hyd i ffordd arall o gyflwyno cais, neu yn darparu cymorth ychwanegol i chi dros y ffôn neu wyneb yn wyneb.
 
 
 
Oes gennych chi gwestiwn?

Edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin isod.

Os ydy eich cwestiwn yn dal heb gael ei ateb, anfonwch e-bost at Velindre.Volunteers@wales.nhs.uk, a fydd yn gallu helpu gyda'ch ymholiad.