Neidio i'r prif gynnwy

Cwestiynau Cyffredin Gwirfoddoli

04/04/24
Dwi ddim yn siŵr pa rôl y dylwn i ymgeisio amdani, beth ddylwn i ei wneud?

Does dim angen i chi nodi un rôl benodol pan rydych chi’n gwneud cais i fod yn wirfoddolwr. Bydd ein Tîm Cefnogi Gwirfoddolwyr ymroddedig yn adolygu eich cais ac yn gweithio gyda chi i ddod o hyd i’r rôl orau sydd ar gael i chi.

Mae gan rai o'n rolau ofynion penodol neu fanylebau person, felly buasem yn eich annog i ddarllen y dogfennau sydd yn rhoi trosolwg o’r rolau cyn gwneud cais. Er enghraifft, fel rhan o rai rolau, bydd angen i chi gerdded ar draws y safle, sefyll am gyfnodau hir, neu dreulio llawer o amser mewn ardaloedd clinigol. Rydym eisiau i'r holl wirfoddolwyr deimlo'n gyfforddus yn eu rolau a mwynhau eu hamser gyda ni.

04/04/24
A allaf gael profiad gwaith drwy wirfoddoli?

Nid yw gwirfoddoli a phrofiad gwaith yr un fath. Ni all y Gwasanaeth Gwirfoddoli gynnig lleoliadau profiad gwaith na chyfleoedd cysgodi. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn trefnu lleoliad profiad gwaith, cysylltwch â'n Cydlynydd Ehangu Mynediad drwy e-bostio: velindre.trustted@wales.nhs.uk

04/04/24
Dwi eisiau gwirfoddoli gyda fy sefydliad neu fy nhîm, ydych chi'n cynnig cyfleoedd gwirfoddoli corfforaethol?

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i dimau corfforaethol sydd eisiau ennill profiad gwirfoddoli a rhoi rhywbeth yn ôl. Mae pob partneriaeth yn edrych yn wahanol, ac yn dibynnu ar yr adeg o'r flwyddyn ac angen i'r busnes. Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy, anfonwch e-bost at Velindre.Volunteers@wales.nhs.uk.

04/04/24
Ydw i'n sicr o gael rôl yn Gwirfoddoli yn Felindre?
04/04/24
A allaf newid rolau yn ystod fy nghyfnod fel gwirfoddolwr? Beth os nad ydw i'n mwynhau'r rôl rydw i'n ei dewis?

Bydd eich Swyddog Cefnogi Gwirfoddolwyr ymroddedig yn gallu eich helpu i ddod o hyd i'r rôl iawn i chi. Os ydych chi'n treialu rôl a dim yn teimlo mai hon ydy’r rôl i chi, gallwn weithio gyda'n gilydd i ddod o hyd i gyfleoedd eraill o fewn ein rhaglen.

Does dim byd byth yn sicr, a gallwn bob amser eich cefnogi i ddod o hyd i'r rôl fwyaf gwobrwyol i chi.

04/04/24
Pam mae'n rhaid i mi gwblhau Gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd?

Ni fydd yn rhaid i bob gwirfoddolwr gwblhau gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Bydd hyn yn dibynnu ar baramedrau eich rôl, yn enwedig wrth edrych p’un a ydych yn gweithio gydag oedolion neu blant agored i niwed, yn ogystal â pha lefel o oruchwyliaeth fydd gennych chi.

Nod ein Tîm Cefnogi Gwirfoddolwyr ymroddedig ydy gwneud y broses recriwtio mor gyflym a hawdd â phosibl, a sicrhau hefyd ein bod ni’n cyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol a diogelu.

Mae diogelwch ein cleifion, teuluoedd, staff, ymwelwyr a gwirfoddolwyr yn bwysig dros ben, a dyna pam fod y broses hon mor bwysig.

04/04/24
Pryd fydd y diwrnod hyfforddiant craidd yn cael ei gynnal, a beth fydd hyn yn ei olygu?

Nid oes gennym ddyddiadau penodol ar gyfer ein diwrnodau hyfforddiant craidd, ond bydd y rhain yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb ,a byddant yn cael eu harwain gan ein Tîm Cefnogi Gwirfoddolwyr profiadol. Bydd y sesiynau'n gymysgedd o ddysgu ar-lein ac all-lein, a byddwch yn cael cefnogaeth lawn gan staff a gwirfoddolwyr eraill trwy gydol y sesiwn.

Bydd y diwrnod hyfforddiant craidd yn trafod nifer o fodiwlau craidd, sy'n orfodol i holl fyrddau iechyd GIG Cymru. Drwy'r diwrnod hyfforddi hwn, byddwch yn meithrin dealltwriaeth wych o feysydd sy’n cynnwys iechyd a diogelwch, diogelu, diogelwch tân a rheoli heintiau i enwi dim ond rhai.

Yn dilyn yr hyfforddiant, bydd gennych Lawlyfr Sefydlu manwl i gyfeirio ato, a nifer o sesiynau hyfforddi 'ychwanegol', a fydd yn edrych ar feysydd allweddol a fydd yn helpu i adeiladu eich sgiliau gwirfoddoli.

04/04/24
Oes rhaid i mi gwblhau'r holl wiriadau a'r hyfforddiant os mai dim ond unwaith dwi eisiau gwirfoddoli?

Yn Felindre, rydym yn cynnig cyfleoedd CRAIDD a TYMHOROL. Y prif wahaniaeth rhwng y ddau opsiwn yw'r ymrwymiad a'r cysondeb disgwyliedig gan y gwirfoddolwr.

Mae ein rolau craidd wedi'u hymgorffori yn ein gwasanaeth, felly rydym yn gobeithio y bydd y gwirfoddolwyr hyn yn aelodau rheolaidd ac ymroddedig o'n rhaglen. Nod y rolau hyn yw darparu cefnogaeth ddibynadwy ac effeithlon i'n gweithlu a'n gwasanaethau.

Mae ein rolau tymhorol yn cynnig mwy o hyblygrwydd i ddarparu ar gyfer y rhai sy'n dymuno gwirfoddoli ar sail ad hoc neu unigol. Yn dibynnu ar eich ymrwymiad o ran amser a'ch set sgiliau, efallai y bydd ein tîm yn gallu personoli'r broses recriwtio i weddu i'ch anghenion unigol, a sicrhau bod ein cleifion, staff, ymwelwyr a’n gwirfoddolwyr yn ddiogel bob amser.

Os oes gennych chi senario neu gais unigryw, cysylltwch â Velindre.Volunteers@wales.nhs.uk i drafod eich opsiynau.