Neidio i'r prif gynnwy

Enwebu tîm oncoleg gynaecolegol am wobr fawreddog

18 Gorffennaf 2024

Mae’r tîm yn y Ganolfan Ganser sy'n gyfrifol am y clinig dilynol dan arweiniad nyrsys i gleifion ar ôl iddynt gael radiotherapi wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau The Nursing Times eleni.

Meddai Sarah a Tamarha, sy’n cyd-arwain y clinig:

“Mae’n braf iawn cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr fawreddog The Nursing Times am ein clinig ar gyfer menywod sydd wedi cael eu trin am ganser endometrial neu ganser y serfics. Y clinig hwn yw'r cyntaf o'i fath i fynd i'r afael â sgil effeithiau'r driniaeth ar y coluddyn, y bledren, y fagina a'r menopôs, a hynny oll mewn un clinig.

"Gyda'n gilydd, mae gennym ni 46 mlynedd o brofiad ym maes iechyd menywod ac rydyn ni’n frwdfrydig tu hwnt dros wella triniaeth, gofal a phrofiadau menywod. Credwn ni fod y clinig hwn yn dangos ein bod wedi gwrando ar eu hanghenion a’n bod ni’n darparu ‘gofal sydd wir yn canolbwyntio ar y claf.'"

Bydd Gwobrau The Nursing Times yn cael eu cynnal yng Ngwesty JW Marriott Grosvenor House ar Park Lane yn Llundain ddydd Mercher 23 Hydref 2024.