Neidio i'r prif gynnwy

Total Body Irradiation (TBI)

Arbelydru’r corff cyfan (TBI)

Bydd y daflen hon yn eich helpu i ddeall beth fydd yn digwydd pan fyddwch chi’n dod i Ysbyty Felindre i gael eich triniaeth radiotherapi. Bydd yn esbonio sut mae’ch triniaeth yn cael ei rhoi a'r sgil-effeithiau y gallech eu cael. Mae hefyd rifau cyswllt ar gyfer rhagor o wybodaeth a chymorth.

Cyn dechrau eich radiotherapi

Byddwch chi fel arfer yn dod i adran cleifion allanol Felindre ar y dydd Llun yr wythnos cyn bod eich triniaeth radiotherapi i fod i ddechrau. Yn yr apwyntiad hwn, byddwch yn cwrdd â'ch ymgynghorydd neu aelod o'i dîm. Bydd y meddyg yn esbonio eich triniaeth radiotherapi a'r sgil-effeithiau posibl. Byddwn ni’n gofyn ichi lofnodi ffurflen ganiatâd. 

Byddwch chi hefyd yn cyfarfod ag aelodau o'r tîm radiotherapi a’r staff nyrsio. Byddwn ni’n dangos y peiriant triniaeth ichi a'r ward lle byddwch chi’n aros. Gofynnwch unrhyw gwestiynau sydd gennych am eich triniaeth a’ch arhosiad yn Felindre.

Dechrau eich triniaeth

Byddwn ni’n dod â chi i Ysbyty Felindre o Ysbyty Athrofaol Cymru ar y dydd Sul cyn dechrau triniaeth ddydd Llun. Byddwn ni’n mynd â chi i'ch ystafell yn yr Uned Ddydd Cemotherapi.

Byddwch chi’n cael wyth triniaeth radiotherapi. Fe fydd y driniaeth gyntaf fore dydd Llun. Yna byddwch chi’n cael dwy driniaeth y dydd am bedwar diwrnod. Mae’r triniaethau’n cael eu rhoi o leiaf chwe awr ar wahân; un yn y bore ac un yn y prynhawn. Bydd eich triniaeth olaf yn cael ei rhoi brynhawn dydd Iau ac yna byddwn ni'n mynd â chi yn ôl i Ysbyty Athrofaol Cymru. 

Yn ystod eich arhosiad yn Ysbyty Felindre byddwn ni’n cymryd pob gofal angenrheidiol i leihau'r risg y byddwch chi’n dod i gysylltiad ag unrhyw heintiau. Mae Ysbyty Felindre i ffwrdd o lawer o adeiladau felly byddwch chi’n gallu agor ffenestri’ch ystafell ac yfed y dŵr o’r tapiau, ond dŵr potel sydd orau.

Yn ystod eich triniaeth

Bydd porthor yn mynd â chi i'r ystafell driniaeth. Byddwn ni’n gofyn ichi dynnu’ch dillad heblaw eich dillad isaf. Hoffem ofyn i fenywod wisgo bra chwaraeon (bra meddal heb glaspau metel). Byddwn ni’n eich cadw chi dan orchudd gymaint â phosibl. Byddwch chi’n gorwedd ar eich cefn ar wely caled gyda sbwng o dan eich pen a chynhalydd o dan eich pengliniau. Byddwn ni’n sicrhau eich bod mor gyffyrddus â phosibl gan fod angen ichi aros yn llonydd ar gyfer y driniaeth.

Mae’r driniaeth radiotherapi yn cael ei rhoi i'ch corff cyfan, felly mae angen inni fesur eich pen, eich gwddf, eich ysgwyddau, eich canol, eich cluniau, eich pengliniau a’ch fferau. Byddwn ni’n tapio dyfeisiau mesur bach i wahanol bwyntiau o'ch corff er mwyn inni sicrhau bod yr ymbelydredd yn cael ei roi'n gyfartal trwy'ch corff. 

Bydd y peiriant triniaeth ar ei ochr yn wynebu'r gwely. Er mwyn eich rhoi yn y safle cywir, bydd goleuadau'r ystafell yn cael eu pylu, a bydd y gwely'n cael ei osod yn y pelydryn golau sy'n dod o'r peiriant triniaeth. Mae'r golau hwn yn dangos i ble bydd yr ymbelydredd yn mynd. 

Gosodir sgrin bersbecs gyda darnau pres wrth ochr y gwely. Rydyn ni’n addasu'r darnau pres fel eu bod wrth ymyl eich pen a'ch brest. Mae hyn yn sicrhau bod y dos i'ch pen a'ch ysgyfaint yn gywir i chi. 

Byddwn ni’n rhoi'r driniaeth i ddwy ochr eich corff. Pan fydd popeth wedi'i osod yn gywir ar gyfer trin ochr gyntaf eich corff, bydd y radiograffwyr yn gadael yr ystafell i droi'r peiriant ymlaen. Pan fydd y peiriant ymlaen fyddwch chi ddim yn teimlo dim byd, dim ond clywed sŵn suo uchel. Bydd y radiograffwyr yn eich gwylio'n ofalus ar gamerâu teledu. Os ydych chi angen y radiograffwyr, gallan nhw ddiffodd y peiriant a gwirio eich bod yn iawn. Gall y driniaeth ailddechrau pan fyddwch chi'n barod.

Bydd yn cymryd tua deg munud i roi'r driniaeth i bob ochr o'ch corff. Er mwyn helpu i basio'r amser, dewch ag unrhyw gryno-ddisgiau neu gasetiau yr hoffech chi wrando arnyn nhw. 

Pan fydd yr ochr gyntaf wedi'i thrin, mae'r radiograffwyr yn troi'r gwely er mwyn inni drin ochr arall eich corff. Fydd dim angen i chithau symud.

Pan fydd eich triniaeth wedi'i chwblhau, rydyn ni'n tynnu'r dyfeisiau mesur bach oddi ar eich croen a’u rhoi i'n tîm ffiseg feddygol. Mae’r tîm yn cyfrifo'r dos o ymbelydredd y mae eich corff wedi'i gael. Yna byddan nhw’n gwneud unrhyw addasiadau angenrheidiol i'ch triniaeth nesaf, i sicrhau bod dos cyfartal yn cael ei roi dros eich corff. Bydd hyn yn cael ei wneud ym mhob triniaeth felly gall nifer a lleoliad y dyfeisiau mesur sydd eu hangen arnoch newid.

Sgil-effeithiau

Bydd sgil-effeithiau TBI, fel gyda chemotherapi, yn effeithio ar eich corff cyfan. Sgil-effeithiau byrdymor sy'n setlo’n fuan yw:

  • Ceg sych a dolur gwddf
  • Chwyddo yn eich chwarennau poer bob ochr i'ch wyneb am yr ychydig ddyddiau cyntaf
  • Cochni a chosi ar eich croen
  • Cyfog (teimlo'n sâl)
  • Dolur rhydd
  • Colli’ch gwallt – mae hyn yn digwydd ar ôl rhyw bythefnos, ond mae'r gwallt yn aildyfu ymhen ychydig fisoedd.


Sgil-effeithiau hirdymor posibl yw:

  • Niwmonitis gwagleol (cymhlethdodau yn yr ysgyfaint oherwydd llid a chreithiau). Dyma pam rydyn ni’n mesur y dos i'ch ysgyfaint yn ofalus yn ystod eich triniaeth
  • Cataract – mae lens y llygad yn sensitif iawn i'r ymbelydredd. Mae hyn yn hawdd ei drin â llawdriniaeth.
  • Anffrwythlondeb – gall hyn fod yn sgil-effaith barhaol ar ôl cemotherapi a radiotherapi
  • Canser newydd oherwydd y driniaeth a gawsoch. Mae hyn yn anghyffredin iawn ac mae'n effeithio ar ryw 2% yn unig o’r cleifion sy'n cael triniaeth TBI.

Byddwn ni’n trafod y sgil-effeithiau posibl hyn gyda chi.

Mae'r wybodaeth hon yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn cael ei hadolygu'n flynyddol

Rhagor o wybodaeth

Gobeithiwn fod y daflen hon wedi bod yn ddefnyddiol.  Os oes gennych chi, neu eich teulu, unrhyw gwestiynau neu bryderon eraill, cysylltwch â:

Radiograffwyr gwybodaeth, cymorth ac adolygu - 029 2061 5888 est 6421  

Uned Ddydd Cemotherapi (CDU - Ysbyty Felindre) - 029 2061 5888 est 6380

 
FS 37622

F.PI.2         Rhifyn 6         Awst 2016
 

Velindre University NHS Trust

Wedi’i adeiladu ganIechyd a Gofal Digidol Cymru