Neidio i'r prif gynnwy

Taflen wybodaeth ar driniaeth Radiotherapi Stereotactig ar y Corff (SBRT) i'r ysgyfaint

Taflen wybodaeth ar driniaeth Radiotherapi  Stereotactig ar y Corff (SBRT) i'r ysgyfaint

 

Gelwir hefyd yn Radiotherapi Abladol Stereotactig (SABR)

 

Mae'r daflen hon yn dweud wrthych am driniaeth radiotherapi i'r ysgyfaint o'r enw 
Radiotherapi Stereotactig ar y Corff (SBRT).  Rhestrir rhifau ffôn cyswllt ar ddiwedd y llyfryn.

 

Cofiwch ddod â rhestr o'ch meddyginiaethau cyfredol bob tro y byddwch yn dod i Felindre. Mae gwybodaeth i gleifion hefyd ar gael ar wefan Felindre:https://felindre.gig.cymru/canolfan-ganser-felindre/

 

Ni chaniateir ysmygu ar dir Canolfan Ganser Felindre nac y tu mewn i’r ganolfan. Gofynnwch os hoffech gael cymorth i roi'r gorau iddi.

 

Mae'n bwysig nad ydych yn beichiogi yn ystod eich triniaeth oherwydd gall radiotherapi niweidio babi sy'n datblygu. Os ydych yn meddwl y gallech fod yn feichiog, dywedwch wrth y radiograffwyr ar unwaith.

 

Os oes gennych chi reolydd calon neu ddyfais gardiaidd wedi’i mewnblannu (ICD) rhaid i chi ddweud wrth eich meddyg neu radiograffydd cyn neu yn ystod eich apwyntiad cynllunio cyntaf.

 

Beth yw Radiotherapi Stereotactig ar y Corff (SBRT)?

Mae'n fath o driniaeth radiotherapi pan roddir dosau uwch dros lai o sesiynau triniaeth i ardal benodol o'ch ysgyfaint. Gelwir y sesiynau hyn yn ffracsiynau ac fel arfer rhoddir pob ffracsiwn bob yn ail ddiwrnod (dydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener) am dair, pump, neu wyth triniaeth. Rydyn ni'n ei roi fel hyn oherwydd ei fod yn lleihau effaith yr ymbelydredd ar feinwe normal eich ysgyfaint. Mae hefyd yn helpu i leihau'r risg o sgîl-effeithiau hirdymor.

 

Cynllunio eich radiotherapi

I gynllunio eich radiotherapi, bydd angen i chi gael sgan CT. Bydd gofyn i chi fynd i’r adran Gynllunio sydd o flaen Ysbyty Felindre (mae parcio ar gael). Mae'r sgan hwn yn rhoi darlun manwl i'ch meddyg o'r rhan o’r ysgyfaint sydd angen triniaeth.

 

Os ydych eisoes wedi llofnodi eich ffurflen gydsynio ar gyfer triniaeth, efallai mai dim ond eich radiograffwyr cynllunio y byddwch yn eu gweld. Byddant yn esbonio popeth sy'n mynd i ddigwydd i chi. Os nad ydych wedi llofnodi eich ffurflen gydsynio, bydd angen i chi weld eich meddyg. Bydd eich meddyg yn esbonio manteision a risgiau radiotherapi ac yn gofyn i chi lofnodi ffurflen gydsynio. Trafodwch unrhyw bryderon sydd gennych cyn i chi lofnodi'r ffurflen gydsynio. 

 

Efallai y bydd angen i ni chwistrellu ychydig o liw (a elwir yn gyferbyniad) trwy nodwydd i mewn i’ch llaw neu fraich cyn i chi gael eich sgan. Mae'r lliw yn helpu i ddangos y pibellau gwaed ac union leoliad yr ardal y mae angen i ni ei thrin. Ni ddylai achosi unrhyw effeithiau gwael. Fodd bynnag, dywedwch wrth eich radiograffwyr cynllunio os ydych erioed wedi cael adwaith niweidiol i'r lliw pan gawsoch eich sganio o'r blaen.

 

Byddwn yn gofyn ichi ddadwisgo i'ch canol ac yn rhoi gŵn i chi ei gwisgo. Byddwn yn gofyn i chi dynnu eich breichiau allan o'r gŵn a byddwn yn cynnal eich urddas drwy eich gorchuddio pryd bynnag y bo modd. Byddwn yn gofyn i chi orwedd ar fwrdd gwastad (wing board) gyda handlenni i ddal gafael arnynt fel bod eich breichiau uwch eich pen. Efallai y gofynnir i chi orwedd ar 'fag ffa' mawr (vac bag). Bydd hyn yn eich helpu i aros yn yr ystum iawn. Os byddwch yn teimlo’n anghyfforddus, dywedwch wrth y radiograffwyr gan y byddwch yn gorwedd yn yr ystum hwn drwy gydol eich triniaeth.

 

Aelod o staff yn gorwedd ar ‘wing board’

Aelod o staff yn gorwedd ar fag ffa

 

Bydd y radiograffwyr yn esbonio i chi a oes angen i chi ddal eich gwynt neu anadlu'n normal yn ystod eich sgan. Ni fyddwch yn gweld nac yn teimlo unrhyw beth yn ystod y sgan heblaw am y soffa yn symud yn araf. Bydd y radiograffwyr yn gadael yr ystafell i droi'r sganiwr ymlaen, ond byddant yn eich gwylio'n agos iawn trwy ffenestr fawr.

 

Bydd angen i ni dynnu llun tri marc ar eich croen y byddwn yn eu defnyddio fel pwyntiau cyfeirio ar gyfer eich triniaeth. Mae’n ddefnyddiol i ni farcio’r pwyntiau cyfeirio hyn yn barhaol, a byddwn yn gofyn am eich caniatâd cyn gwneud hynny. Byddwn yn gwneud tri dot bach trwy ddefnyddio blaen nodwydd di-haint i osod inc du ychydig o dan eich croen. Mae'n farc parhaol ond mae mor fach â brycheuyn haul. Bydd hyn yn golygu bod gennym farciau cywir i'ch gosod yn yr ystum cywir ar gyfer eich triniaeth bob dydd, fel y gallwch ymolchi yn ystod y driniaeth. Llun o farc parhaol.

Pa mor hir fydd hyn yn ei gymryd?

Mae'r sgan yn cymryd tua 15-20 munud, ond gofynnwn i chi ganiatáu awr ar gyfer eich apwyntiad cyfan.

 

Pryd fyddaf yn dechrau’r driniaeth?

Bydd delweddau’r sgan yn cael eu defnyddio i greu cynllun triniaeth ar gyfer eich anghenion chi. Mae’r driniaeth fel arfer yn dechrau 2-3 wythnos ar ôl eich apwyntiad cynllunio. 

Dechrau eich triniaeth

Dewch i gefn yr ysbyty i'r fynedfa radiotherapi (mae lleoedd parcio ar gael). Rhowch eich enw i'r derbynnydd a bydd yn dangos i chi ble i aros. Pan fyddwch chi'n cael eich galw, bydd y radiograffwyr yn dangos i chi ble gallwch chi ddadwisgo i'ch canol a newid i’ch gŵn.  Cyn pob triniaeth byddwn yn gofyn i chi sut rydych yn teimlo. Dywedwch wrthym os ydych yn cael unrhyw broblemau cyn dechrau eich triniaeth. Ym mhob ymweliad triniaeth, bydd y radiograffwyr yn gofyn i chi orwedd yn yr un ystum ag yr oeddech ar gyfer eich sgan cynllunio CT. Byddant yn sicrhau eich bod mor gyfforddus â phosibl. Byddant yn pylu'r goleuadau i'ch addasu i'r union ystum. Rhoddir eich triniaeth wrth i'r peiriant symud o'ch cwmpas. Ni fydd yn cyffwrdd â chi o gwbl. Arhoswch mor llonydd â phosibl yn ystod eich triniaeth.

Ystum triniaeth ar y peiriant triniaeth (Byddwch yn cael eich gorchuddio cymaint â phosib)

Bydd y radiograffwyr yn gadael yr ystafell i droi'r peiriant ymlaen. Rhoddir y driniaeth gan ddefnyddio un neu ddau arc triniaeth. Mae arc yn gylch cyflawn o'r peiriant. Gall y peiriant symud clocwedd a gwrthglocwedd i roi’r driniaeth. Os defnyddir dwy arc, bydd y peiriant yn symud yn wrthglocwedd ac yn glocwedd i roi eich triniaeth i chi. Bydd y radiograffwyr yn tynnu lluniau cyn y driniaeth felly gall hyn gymryd ychydig o amser cyn i'r peiriant ddechrau rhoi eich triniaeth i chi. Mae'r delweddau hyn yn cael eu cymryd i wirio eich bod yn yr ystum cywir ar gyfer y driniaeth (ni chânt eu defnyddio i weld pa mor dda y mae'r driniaeth yn gweithio). Mae'r radiograffwyr yn eich gwylio'n ofalus ar fonitorau teledu. Os cewch unrhyw broblemau yn ystod y driniaeth, gellir diffodd y peiriant ar unrhyw adeg. Ni fyddwch yn teimlo unrhyw beth pan fyddwch yn cael eich triniaeth, er efallai y byddwch yn clywed y peiriant yn gwneud sŵn. Bydd eich apwyntiad yn cymryd tua 20-30 munud.

 

Sgîl-effeithiau tymor byr triniaeth radiotherapi        

Gall sgîl-effeithiau ddatblygu yn ystod y driniaeth neu hyd at 12 wythnos ar ôl eich triniaeth

 

Blinder neu lesgedd

Mae'n eithaf cyffredin teimlo'n fwy blinedig nag arfer am sawl wythnos ar ôl i'ch triniaeth ddod i ben. Mae'n bwysig gorffwys pan fyddwch chi'n teimlo'r angen i wneud hynny a gofyn i'ch teulu a'ch ffrindiau helpu pan allan nhw. Yn raddol, byddwch yn gallu dychwelyd i weithgareddau arferol.

Peswch

Mae'n bosibl y byddwch chi'n datblygu peswch sych coslyd neu’n peswch yn fwy nag arfer. Gall ffisig peswch syml helpu i leddfu'r symptomau. Efallai y byddwch yn poeri mwcws lan a all gynnwys gwaed. Cofiwch ddweud wrth eich radiograffwyr os bydd hyn yn digwydd.

Poen yn y frest

Os yw tiwmor eich ysgyfaint yn agos at wal y frest, gallwch brofi rhywfaint o boen ar ôl eich triniaeth radiotherapi. Mae hyn fel arfer yn ysgafn ac yn lleddfu gyda phoenladdwyr syml, fel paracetamol. Os yw'r boen yn fwy difrifol, cysylltwch â'r tîm adolygu os oes gennych unrhyw bryderon

Prinder anadl a/neu dymheredd uwch

Yn anaml, gall triniaeth radiotherapi i'r ysgyfaint gynhyrchu llid ym meinwe'r ysgyfaint. Gall y llid neu'r 'niwmonitis' hwn achosi symptomau diffyg anadl gwaeth, gwich, twymyn neu beswch.  Cysylltwch â nyrs arbenigol canser yr ysgyfaint neu feddyg i drafod hyn. Os amheuir niwmonitis, efallai y bydd angen cael pelydr-x o’r frest a'ch dechrau ar dabledi steroid trwy'r geg i helpu'ch symptomau a lleihau'r llid.

 

Adweithiau diweddarach (Ar ôl tri mis)

Creithiau ar yr ysgyfaint

Bydd y driniaeth hon yn achosi creithiau ar yr ysgyfant sydd wedi cael triniaeth a gallech fod yn fyr o wynt o ganlyniad i'r driniaeth wrth orffwys neu wrth wneud ymarfer corff.

Poen yn wal y frest/toriadau asennau

Os yw’r tiwmor(au) yn agos at yr asennau, mae'n bosibl y bydd y radiotherapi'n gwanhau'r asennau ac yn achosi poen neu asennau wedi eu torri. I'r rhan fwyaf o gleifion, nid yw hyn yn achosi unrhyw symptomau ac fe'i darganfyddir pan fyddwch yn cael sgan ar ôl y driniaeth.

 

Bydd unrhyw sgil-effaith hirdymor arall sy'n gysylltiedig â'ch triniaeth yn cael ei drafod gyda'ch ymgynghorydd pan fyddwch yn rhoi eich cysyniad.

 

Camau Dilynol

Byddwn yn trefnu eich apwyntiad dilynol i weld eich meddyg yn eich apwyntiad radiotherapi diwethaf. Yn eich apwyntiad dilynol, bydd eich meddyg yn holi am unrhyw sgîl-effeithiau neu symptomau rydych chi wedi'u profi. Efallai bydd eich meddyg yn trefnu sganiau CT neu belydrau-X. Bydd y tîm radiograffwyr adolygu yn eich ffonio'n rheolaidd i ofyn am symptomau. Byddwn yn rhoi gwybod i chi pryd fydd hyn.

 

Rhifau ffôn cyswllt

 

Ar gyfer eich apwyntiadau a chludiant ysbyty:

Clercod trefnu apwyntiadau radiotherapi         029 2019 6836

 

Am wybodaeth a chyngor ar driniaeth:

Tîm Adolygu Radiotherapi: 029 2061 5888 est 6421

 

Cludiant o Aberdâr:

Rowan Tree Cancer Care                        01443 479369

                               

Cludiant o Ferthyr

Cymorth Canser Merthyr                          01685 379633

Llinellau cymorth a gwefannau

Llinell Gymorth Gofal Canser Tenovus                    0808 808 1010

 

Cymorth Canser Macmillan                     0808 808 0000

www.macmillan.org.uk

 

Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint                              0300 003 0555

https://www.blf.org.uk/support-for-you/lung-cancer

 

Dim Smygu Cymru                          0808 274 4179

https://www.helpafiistopio.cymru/

 

Maggie's Caerdydd 9am-5pm Llinell Gymorth:        02922408024

Gwefan:   www.maggie’s.org/southeastwales

 

F.PI 38a