Neidio i'r prif gynnwy

Skin conditions

Cyflyrau’r croen

Radiotherapi ar gyfer eich croen yn Ysbyty Felindre

Bydd y llyfryn hwn yn eich helpu i ddeall beth fydd yn digwydd pan fyddwch chi’n dod i Ysbyty Felindre i gael triniaeth radiotherapi i'ch croen.

Bydd y llyfryn yn esbonio sut mae’ch triniaeth yn cael ei chynllunio a'i rhoi. Bydd yn trafod sgil-effeithiau y gallech eu cael a bydd yn dweud wrthoch chi am sut i gael rhagor o wybodaeth a chymorth.

Mae yna eirfa ym mlaen y llyfryn hwn i’ch helpu i ddeall unrhyw eiriau a allai fod yn anghyfarwydd.

Rhoddir rhifau ffôn cyswllt ar ddiwedd y llyfryn.

Gobeithio bod hyn yn ateb eich cwestiynau. Gofynnwch inni os oes gennych gwestiynau eraill nad ydyn ni wedi’u cynnwys.

Ni chaniateir ysmygu ar dir Ysbyty Felindre nac o fewn yr ysbyty. Os oes arnoch chi angen help i roi'r gorau iddi, gofynnwch inni.

Geirfa

Diferion gwrthfiotig - diferion a fydd yn helpu i atal heintiau yn eich llygad

Electronau a Phelydrau-X - mathau o ymbelydredd

Argraff - copi o siâp eich wyneb er mwyn i fwgwd gael ei wneud

Anesthetig lleol - diferion a fydd yn fferru'ch llygad ac yn eich atal rhag teimlo unrhyw anghysur yn eich llygad

Oncolegydd Clinigol - y meddyg ymgynghorol sy'n gyfrifol am eich triniaeth

Radiograffydd therapiwtig - person a fydd yn cynllunio neu'n rhoi triniaeth radiotherapi

Radiograffydd Arbenigol Croen – yn cynllunio’ch triniaeth radiotherapi

Beth yw radiotherapi?

Mae radiotherapi yn driniaeth ar gyfer canser sy’n defnyddio ymbelydredd. Pelydrau-X neu electronau egni uchel yw'r ymbelydredd.

Sut mae radiotherapi yn gweithio?

Mae'n gweithio trwy niweidio unrhyw gelloedd canser ac yn atal y celloedd canser rhag ymrannu'n iawn, fel eu bod yn cael eu dinistrio. Mae radiotherapi hefyd yn effeithio ar gelloedd normal, ond fe all y rhain wella.

Y tîm radiotherapi sy’n gofalu amdanoch

Yr enw ar y meddyg sy'n gyfrifol am eich gofal yw’r Oncolegydd Clinigol. Y meddyg yma, neu un o'u tîm, fydd yn rhagnodi’ch triniaeth radiotherapi. Y radiograffwyr therapiwtig fedd yn rhoi eich triniaeth ichi.

Ysbyty addysgu yw Felindre felly fe allai’ch tîm gynnwys radiograffydd dan hyfforddiant, myfyriwr nyrsio neu fyfyriwr meddygol. Os nad ydych chi am i fyfyriwr fod yn bresennol yn ystod eich apwyntiad yn y clinig neu’ch apwyntiad i gael triniaeth, dywedwch wrth eich meddyg neu’ch radiograffydd.

Byddwn ni’n gofyn am eich enw, eich cyfeiriad a’ch dyddiad geni bob tro y byddwch chi’n dod i'r adran radiotherapi. Y rheswm am hyn yw bod ein staff wedi'u hyfforddi i ailwirio’ch manylion personol er mwyn osgoi unrhyw ddryswch.

Mae Radiograffwyr Gwybodaeth a Chymorth ar gael i roi gwybodaeth, cyngor a chymorth i chi a'ch teulu. Gallwch chi neu'ch teulu siarad â nhw dros y ffôn (mae'r rhif ffôn ar dudalen 12). Neu gallwch ofyn am gael eu gweld nhw yn ystod unrhyw un o'ch apwyntiadau.

Cludiant yn ôl ac ymlaen i Felindre

Mae cludiant ysbyty ar gael ond mae'r rhan fwyaf o bobl yn defnyddio’u cludiant eu hunain. Os byddwch chi’n penderfynu yr hoffech chi ddefnyddio cludiant yr ysbyty, rhowch gymaint o rybudd â phosibl er mwyn inni drefnu hyn ar eich rhan. Mae galw mawr am gludiant felly bydd angen ichi fod yn barod i aros am beth amser i gael eich codi i fynd â chi adref. Mae’r lleoedd yn gyfyngedig felly ystyriwch deithio ar eich pen eich hun. Gall rhai grwpiau cymorth lleol hefyd drefnu cludiant (gweler y rhifau cyswllt ar dudalen 12). Hefyd, mae cleifion ar fudd-daliadau penodol yn cael hawlio costau teithio. Gofynnwch pan fyddwch chi’n dod i gael eich triniaeth.

Faint o driniaethau fydd arna i eu hangen?

Bydd eich meddyg yn dweud wrthoch chi faint o driniaethau sydd eu hangen arnoch. Gallech gael rhwng un a deg o driniaethau, neu gall fod yn fwy. Mae radiotherapi’n cael ei roi unwaith y dydd, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Fe allech chi ddechrau’ch triniaeth unrhyw ddydd o'r wythnos.

Cynllunio’ch radiotherapi

Mae radiotherapi yn cael ei gynllunio ar gyfer pob claf yn unigol. Apwyntiad yn yr adran gynllunio fydd eich ymweliad cyntaf. Mae hon yn nhu blaen yr ysbyty. Bydd eich meddyg neu'r radiograffydd arbenigol croen yn edrych ar y rhan o'ch croen sydd angen triniaeth. Bydd yn esbonio’ch triniaeth ac yn dweud wrthoch chi am y sgil-effeithiau y gallech eu cael. Bydd hefyd yn gofyn ichi lofnodi ffurflen ganiatâd. Gofynnwch unrhyw gwestiynau neu trafodwch unrhyw bryderon sydd gennych.

Bydd eich meddyg neu'ch radiograffydd arbenigol croen yn defnyddio pen marcio (fel pen blaen ffelt) i dynnu llun o amgylch y fan ar eich croen sydd angen y driniaeth radiotherapi.

Area of skin circled with felt penLlun o'r fan driniaeth wedi'i dynnu ar y croen

Mae'n bwysig iawn nad ydych chi’n golchi'r marciau i ffwrdd, er mwyn inni weld yn hawdd ble i’ch trin chi pan fyddwch chi’n dod i gael eich triniaeth.

Mygydau triniaeth

Os yw'r rhan o'ch corff sydd angen triniaeth yn anwastad, fel eich trwyn, efallai y bydd angen ichi wisgo mwgwd. Bydd hwn yn cael ei wneud yn unswydd i’ch ffitio chi. Byddwn ni’n gofyn ichi ddod i'r ystafell fowldio yn ein hadran gynllunio i wneud eich mwgwd.

Bydd y radiograffwyr yn yr ystafell fowldio yn rhoi eli arbennig dros y fan mae'r meddyg wedi'i nodi. Gall hyn deimlo ychydig yn oer. Yna rhoddir ail eli ar ei ben. Bydd yn 'caledu' mewn ychydig funudau. Bydd y radiograffydd yn tynnu'r 'mwgwd' hwn a gallwch fynd adref. Mae’r argraff hon yn cael ei defnyddio i wneud y mwgwd y byddwch chi’n ei wisgo i gael eich triniaeth.

Mould Room face impressionArgraff o wyneb

Small mask ready to wearMwgwd bach yn barod i'w wisgo

Triniaeth yn agos i’ch llygaid

Os oes arnoch chi angen triniaeth ar un o'ch amrannau neu fan sy'n agos iawn at eich llygad, mae angen inni amddiffyn eich llygad rhag yr ymbelydredd. I wneud hyn rydyn ni’n defnyddio tarian lygad fewnol sydd fel lens gyffwrdd fawr.

I ffitio’r darian lygad fewnol byddwn ni’n fferru’ch llygad yn gyntaf drwy ddefnyddio diferion sy'n cynnwys anesthetig lleol. Bydd y darian lygad yn cael ei gosod yn ofalus dros eich llygad (yn debyg i lens cyffwrdd). Mae’r darian yn cael ei gadael yn ei lle tra byddwch chi’n cael eich triniaeth. Gall hyn deimlo'n rhyfedd ac yn anghyffyrddus ond ni fydd yn brifo.

Bydd eich radiograffwyr yn tynnu’r darian lygad ar ôl y driniaeth. Byddwn ni’n rhoi diferion gwrthfiotig yn eich llygad a’i orchuddio â gorchudd bach i atal unrhyw lwch rhag mynd i'ch llygad (bydd eich llygad yn ddideimlad felly fyddech chi ddim yn teimlo'r llwch).

Cadwch y dresin hwn ymlaen am o leiaf awr. Byddai'n beryglus gyrru neu weithredu peiriannau gyda'r dresin ymlaen. Arhoswch nes bydd y teimlad yn dychwelyd i'ch llygad.

Dechrau eich triniaeth

Os nad ydych chi wedi cael mwgwd wedi'i wneud, fe allech chi ddechrau’ch triniaeth ar yr un diwrnod â'ch apwyntiad cynllunio. Os nad yw hyn yn bosibl, byddwn ni’n rhoi apwyntiad ichi ddechrau’ch triniaeth ymhen ychydig ddyddiau ar ôl eich apwyntiad cynllunio.

Y radiograffwyr sy'n eich trin fydd yn gwneud eich apwyntiadau. Rydyn ni'n ceisio bod yn hyblyg a rhoi amser sy'n addas ichi. Ond efallai y bydd y peiriant triniaeth yn brysur ac efallai na fydd hyn yn bosibl.

Rhowch wybod inni os oes gennych unrhyw anghenion arbennig a allai effeithio ar eich apwyntiadau, megis:

  • angen cludiant
  • cael unrhyw driniaeth arall (cemotherapi er enghraifft)
  • anawsterau personol (fel cyfrifoldebau gofalu)

Yn ystod eich triniaeth gyntaf

Ar eich apwyntiad cyntaf i gael triniaeth, byddwn ni’n gofyn ichi roi’ch caniatâd ar gyfer triniaeth eto.

Mae dau beiriant y gallech chi gael eich triniaeth arnyn nhw. Os ydych chi’n cael triniaeth Pelydr-X byddwch chi’n cael eich trin ar beiriant o'r enw DXR. Os ydych chi ar DXR, rhowch eich enw i'r derbynnydd yn yr adran cleifion allanol yn nhu blaen yr ysbyty pan fyddwch chi’n cyrraedd i gael triniaeth.

Os ydych chi'n cael triniaeth electronau, cyflymydd llinol fydd eich peiriant chi, neu LA yn fyr. Ewch i fynedfa'r adran radiotherapi yng nghefn yr ysbyty a rhowch eich enw i'r derbynnydd yno.

Yn yr ystafell driniaeth byddwch chi’n gorwedd ar y gwely triniaeth mewn osgo gyffyrddus. Bydd eich radiograffwyr yn gosod y peiriant yn unol â'ch marciau. Bydd y radiograffwyr yn gadael yr ystafell i droi'r peiriant ymlaen. Maen nhw'n eich gwylio chi'n ofalus ar fonitorau teledu. Os ydych chi angen iddyn nhw ddod i mewn tra bo’r peiriant ymlaen, gallwch chwifio'ch llaw. Byddan nhw’n diffodd y peiriant ac yn dod i mewn atoch chi. Mae modd ailddechrau’r driniaeth pan fyddwch chi'n gyffyrddus eto.

Dim ond ychydig funudau y bydd eich triniaeth yn ei gymryd a fyddwch chi ddim yn teimlo dim. Rydyn ni'n chwarae cerddoriaeth i helpu'r amser i basio. Mae croeso ichi ddod â'ch cryno ddisgiau eich hun.

Mae'r peiriant DXR yn dawel pan fydd ymlaen. Fe allai bwyso'n ysgafn ar eich croen. Ddylai hyn ddim bod yn boenus. 

Treatment on DXR machineCael triniaeth ar DXR

Mae'r peiriant LA yn gwneud sŵn suo pan fydd ymlaen. Fydd e ddim yn cyffwrdd â'ch croen ond fe fydd yn dod yn eithaf agos atoch. 

Radiotherapy electron treatmentCael triniaeth electronau ar gyflymydd llinol

Sgil-effeithiau’r driniaeth

Mae radiotherapi yn achosi adwaith yn y croen; efallai y bydd y fan sy'n cael ei thrin yn mynd yn goch ac yn cosi. Os oes crachen yn y fan hon, efallai y bydd yn gwaedu ychydig. Dywedwch wrth eich radiograffwyr os ydych chi’n poeni am adwaith eich croen ac fe fyddan nhw’n eich cynghori ar sut i ofalu am eich croen yn ystod eich triniaeth.

Os yw'r fan o amgylch eich trwyn yn cael ei thrin, mae'n bosibl y byddwch chi’n dioddef crachen a gwaedu o'r tu mewn i'ch trwyn.

Os yw’ch gwefus yn cael ei thrin efallai y byddwch chi’n profi ceg ddolurus. Os bydd hyn yn digwydd dylech osgoi bwyta bwyd a diodydd poeth iawn neu oer iawn.

Os yw eich amrant yn cael ei drin efallai y bydd eich llygad yn mynd yn goch ac yn cosi.

Os ydyn ni’n trin croen eich pen efallai y byddwn ni’n gofyn ichi beidio â golchi'ch gwallt.

Mae'n bwysig bod y fan sy'n cael ei thrin yn cael ei chadw allan o'r haul. Dylech chi wisgo het os yw'r fan sy’n cael ei thrin ar eich pen neu'ch wyneb.

Defnyddiwch y sebonau a'r hufenau sy’n cael eu hargymell gan y radiograffwyr yn unig, a byddwn ni’n rhoi cyngor ichi ar ofal croen ar ddechrau eich triniaeth.

Os oes gennych farciau ar y croen o amgylch y fan rydyn ni’n ei thrin, mae'n bwysig eich bod yn ceisio osgoi eu golchi i ffwrdd. Peidiwch â phoeni os yw'r fan yn gwlychu'n ddamweiniol, dabiwch y fan i’w sychu.

I helpu adwaith eich croen:

  • Peidiwch â defnyddio colur ar y fan sy'n cael ei thrin.
  • Peidiwch ag eillio’r fan sy’n cael ei thrin yn wlyb. Os oes modd, peidiwch
    ag eillio'r fan sy’n cael ei thrin o gwbl. Os oes rhaid ichi eillio
    dylech ddefnyddio eilliwr trydan.
  • Peidiwch â defnyddio persawr neu bersawr eillio ar y fan
    sy’n cael ei thrin.

Gorffen eich triniaeth

Bydd eich radiograffwyr yn dweud wrthoch chi sut i ofalu am eich croen dros yr ychydig wythnosau nesaf. Gall eich croen fynd yn ddolurus iawn. Rhaid ichi fod yn dyner gyda'ch croen nes i'r cochni fynd. Os oes gennych chi grachen, fe allai honno ddisgyn ac ailffurfio sawl tro: mae hyn yn normal. Bydd y croen newydd yn tyfu oddi tani.

Byddwn ni’n rhoi apwyntiad dilynol ichi sawl wythnos ar ôl ichi orffen radiotherapi. Gall hyn fod i weld eich meddyg yn y clinig neu efallai y byddwn ni’n eich ffonio.

Os ydych chi’n poeni am unrhyw beth ynglŷn â'ch triniaeth gallwch gysylltu â'ch radiograffwyr triniaeth neu'r radiograffwyr gwybodaeth a chymorth i gael cyngor. Bydd yr enwau a'r rhif ffôn ar eich ffurflen apwyntiad dilynol.

Os bydd angen ichi newid eich apwyntiad dilynol, ffoniwch ysgrifenyddes eich meddyg a bydd eu rhif nhw’n cael ei roi ichi ar eich ffurflen apwyntiad dilynol.

Byddwn ni’n anfon adroddiad am eich triniaeth at eich meddyg teulu a’ch dermatolegydd unwaith y byddwch chi wedi gorffen.

Rhifau ffôn cyswllt

Ysbyty Felindre 029 2061 5888

Radiograffwyr gwybodaeth, cymorth ac adolygu 029 2061 5888 est 6421

Peiriant triniaeth (DXR) 029 2061 5888 est 6261

Clercod trefnu apwyntiadau Radiotherapi 029 2019 6836

Cludiant o Aberdâr
Gofal Canser Rowan Tree
01443 479369

Cludiant o Ben-y-bont ar Ogwr
Sandville
01656 743344

Cludiant o Ferthyr
Cymorth Canser Merthyr
01685 379633

Llinell gymorth rhadffôn Tenovus 0808 808 1010

Cymorth Canser Macmillan 0808 808 0000
www.macmillan.org.uk

FPI 8       Rhifyn 6       Rhagfyr 2013

Velindre University NHS Trust

Wedi’i adeiladu ganIechyd a Gofal Digidol Cymru