Neidio i'r prif gynnwy

Radiotherapy treatment for thyroid eye disease

Triniaeth radiotherapi ar gyfer clefyd thyroid y llygaid

Triniaeth radiotherapi ar gyfer clefyd thyroid y llygaid yn Ysbyty Felindre

Bydd y llyfryn hwn yn eich helpu i ddeall beth fydd yn digwydd pan fyddwch chi’n dod i ysbyty Felindre i gael triniaeth radiotherapi ar gyfer clefyd thyroid y llygaid.

Bydd y llyfryn yn esbonio sut mae’ch triniaeth yn cael ei chynllunio a'i rhoi. Bydd yn trafod sgil-effeithiau y gallech eu cael a bydd yn dweud wrthoch chi am sut i gael rhagor o wybodaeth a chymorth. Gall eich triniaeth amrywio ychydig o'r hyn sydd yn y llyfryn hwn. Bydd eich meddyg yn esbonio’ch triniaeth yn fanwl ichi cyn i'r driniaeth ddechrau.

Os oes gennych unrhyw anawsterau o ran iaith neu gyfathrebu neu anawsterau personol eraill rhowch wybod inni.

Mae geirfa ar gael ym mlaen y llyfryn hwn i’ch helpu i ddeall unrhyw eiriau a allai fod yn anghyfarwydd.  

Rhoddir rhifau ffôn cyswllt ar ddiwedd y llyfryn.

Gobeithio bod hyn yn ateb eich cwestiynau.  Gofynnwch inni os oes gennych gwestiynau eraill nad ydyn ni wedi’u cynnwys.

Dewch â rhestr o'r holl feddyginiaethau rydych chi’n eu cymryd bob tro y byddwch chi’n dod i Felindre.

Ni chaniateir ysmygu ar dir Ysbyty Felindre nac o fewn yr ysbyty. Os oes arnoch chi angen help i roi'r gorau iddi, gofynnwch inni.

Mae'r wybodaeth hon yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn cael ei hadolygu'n flynyddol.

Geirfa

Ffurflen ganiatâd - Cyn inni roi unrhyw driniaeth ichi byddwn yn gofyn ichi lofnodi ffurflen yn dweud eich bod yn cytuno i'r driniaeth ac yn deall beth mae'n ei olygu. 

Sganiwr CT - peiriant sy'n defnyddio pelydrau-X i dynnu lluniau manwl o'ch ymennydd.

Yr Ystafell Fowldio - Dyma lle mae’ch mwgwd triniaeth yn cael ei wneud. 

Radiograffwyr - Y staff sy'n gwneud masgiau triniaeth ac yn gweithio'r peiriannau radiotherapi. Maen nhw'n gwisgo topiau gwyn gyda choleri glas.

Gwely triniaeth - Gwely caled rydych chi’n gorwedd arno yn ystod y driniaeth.

Mwgwd triniaeth - Mwgwd plastig sy'n ffitio dros eich pen ac yn eich cadw'n llonydd yn ystod eich triniaeth. 

Cynllun triniaeth - Mae hwn yn disgrifio sut y caiff y peiriannau eu lleoli i roi eich triniaeth.

Cynllunio triniaeth - Mae'r broses hon yn cynnwys yr holl baratoadau ar gyfer eich radiotherapi ac mae'n cynnwys gwneud mwgwd triniaeth yn yr ystafell fowldio a sgan CT.

Beth yw clefyd thyroid y llygaid?

Mae clefyd thyroid y llygaid fel arfer yn digwydd i bobl sydd â thyroid gorweithredol. Er hynny, mae’n gallu datblygu cyn i'r thyroid fynd yn orweithredol neu ar ôl i'r thyroid gael ei drin yn llwyddiannus. 

Mae clefyd thyroid y llygaid yn cael ei achosi gan chwyddo a llid yn y braster a'r cyhyrau y tu ôl i'r llygad.

Mewn achosion difrifol, mae'r llygad yn cael ei wthio ymlaen gan ei gwneud hi'n anodd i'r llygad gau'n iawn ac weithiau achosi golwg dwbl. 

Yn yr achosion gwaethaf, efallai y bydd eich golwg yn cael ei effeithio. Mae hyn yn cael ei achosi am fod blaen y llygad (cornbilen) yn sychu neu gan bwysau ar y nerf optig sy'n cludo negeseuon o'r llygad i'r ymennydd.

Beth yw radiotherapi?

Mae'r math hwn o driniaeth yn defnyddio pelydr-x pwerus. Mae'r pelydrau pelydr-x yn cael eu cyfeirio at socedi'r llygaid a byddan nhw hefyd yn trin hanner y llygad ei hun.

Pam mae radiotherapi yn cael ei ddefnyddio i drin clefyd thyroid y llygaid?

Gall radiotherapi leihau'r celloedd sy'n achosi'r llid ac felly leihau'r chwydd y tu ôl i'r llygad.

Sut mae radiotherapi yn cael ei roi?

Mae radiotherapi yn cael ei roi gan beiriant radiotherapi yn adran radiotherapi ysbyty Felindre. Mae'r pelydrau-x pwerus sydd eu hangen ar gyfer y driniaeth yn cael eu cynhyrchu gan beiriant o’r enw cyflymydd llinol. Mae’r peiriannau hyn weithiau yn cael eu hadnabod fel Lin. Accs. neu LA ac maen nhw wedi'u rhifo. Ysbyty Felindre yw’r unig ysbyty yn y De-ddwyrain sydd â’r peiriannau hyn. Dyna pam y byddwch chi’n cael eich trin yng Nghaerdydd, hyd yn oed os oes gennych chi ysbyty sy’n nes at adref.

I gael eich triniaeth, byddwch yn gorwedd ar wely triniaeth yn gwisgo mwgwd triniaeth. 

Cyn ichi allu dechrau’ch triniaeth, rhaid iddi gael ei chynllunio'n ofalus. Bydd hyn yn golygu y bydd angen inni wneud mwgwd triniaeth ichi. Bydd angen ichi wisgo'r mwgwd hwn wrth gael eich triniaeth. Bydd eich mwgwd yn cael ei wneud yn yr ystafell fowldio.

Cynllunio triniaeth

Mae'n bwysig iawn wrth gael radiotherapi eich bod yn gorwedd yn llonydd ac yn yr un osgo bob dydd y byddwch chi’n cael eich trin. Oherwydd hyn, mae’r cynllunio ar gyfer eich triniaeth yn dechrau gydag ymweliad â'r ystafell fowldio.

Beth fydd yn digwydd yn yr ystafell fowldio?

Yma bydd eich radiograffwyr yn gwneud mwgwd triniaeth sy'n ffitio siâp eich pen ac yn eich cadw yn yr un osgo ar gyfer eich triniaethau.

Beth yw mwgwd triniaeth?

Mwgwd plastig yw'r mwgwd triniaeth y byddwch chi'n ei wisgo am ychydig funudau bob dydd pan fyddwch chi'n cael eich radiotherapi. Bydd yn gorchuddio blaen eich wyneb a'ch pen. Mae'r ddalen blastig yn llawn tyllau felly byddwch chi bob amser yn gallu anadlu yr un fath ag arfer trwy'ch trwyn a'ch ceg. 

Sut mae'r masgiau'n cael eu gwneud?

I wneud mwgwd triniaeth mae angen inni eich gosod ar wely arbennig er mwyn ichi allu gorwedd mor syth â phosib. Bydd gennych chi ddolenni i ddal gafael ynddyn nhw a phadiau bach sy'n gorffwys yn gyffyrddus ond yn gadarn ar eich ysgwyddau. Bydd hyn yn eich cadw yn yr osgo gywir ar gyfer y driniaeth.

Gwneud y mwgwd

Byddwn yn defnyddio darn o blastig cynnes (nid poeth) i gymryd argraff o'ch pen, o'ch gên neu ran uchaf eich gwddf dros eich wyneb i ben eich pen. 

Pa mor hir fydd hyn yn ei gymryd?

Mae'n cymryd rhyw 20 munud i wneud yr argraff, ond rydyn ni’n gofyn ichi ganiatáu awr ar gyfer eich apwyntiad cyfan. Y rheswm am hyn yw efallai y byddwch chi wedyn yn cael sgan CT yn gwisgo'ch mwgwd.

Beth fydda i’n ei deimlo?

Mae'r plastig yn gynnes wrth iddo fynd ymlaen. Dyw hyn ddim yn anghyffyrddus ac mae rhai pobl yn ei chael yn eithaf braf. Byddwch chi’n teimlo ei fod yn cael ei ymestyn dros eich wyneb a'i osod yn ei le. Byddwch chi'n teimlo'r mwgwd yn cael ei fowldio dros bont eich trwyn, eich gên a thros eich clustiau. Bydd y mwgwd yn cael ei adael ymlaen am 10 munud i oeri'n llwyr, yna bydd yn cael ei dynnu. 

Gwisgo'r mwgwd

Beth mae rhaid imi ei wneud?

I gael ffit dda gyda'r mwgwd triniaeth, bydd yn ddefnyddiol os byddwch chi:

  • yn eillio neu’n trimio'ch barf yn agos 
  • ddim yn defnyddio chwistrell gwallt pan fyddwch chi'n dod i’r apwyntiad hwn.
  • yn gwisgo dillad llac y gellir eu tynnu'n hawdd.

Beth sy'n digwydd pan fydda i’n cael y sgan CT?

Unwaith y bydd eich mwgwd triniaeth wedi'i wneud, bydd arnoch chi angen sgan cynllunio CT yn gwisgo'ch mwgwd. Dyw hi ddim bob amser yn bosibl gwneud hyn ar yr un diwrnod. Efallai y byddwn ni’n rhoi apwyntiad arall ichi gael eich sgan CT yn gwisgo'ch mwgwd.

Ar gyfer y sgan CT byddwch chi’n gorwedd ar y gwely yn yr un osgo â phan gafodd eich mwgwd ei wneud.

Pryd fydda i’n gweld fy meddyg?

Bydd eich ymgynghorydd, neu un o'u tîm, yn cwrdd â chi cyn ichi gael unrhyw radiotherapi. Byddan nhw’n esbonio'r driniaeth, yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych ac yn gofyn ichi lofnodi ffurflen ganiatâd.  Os byddwch chi’n newid eich meddwl ar ôl llofnodi'r ffurflen ganiatâd, rhowch wybod inni a fyddwn ni ddim yn bwrw ymlaen â'r driniaeth.

Sut bydda i’n gwybod pryd i ddod ar gyfer fy apwyntiad triniaeth?

Byddwn ni’n rhoi llythyr ichi gyda'ch apwyntiad triniaeth cyntaf pan fyddwch chi’n dod i'r ystafell fowldio. Bydd hwn yn dweud wrthoch chi beth yw dyddiad ac amser eich apwyntiad cyntaf ac ar ba beiriant radiotherapi y byddwch chi’n cael eich trin. Bydd hyn ychydig wythnosau ar ôl eich apwyntiadau cynllunio. 

Os cewch chi broblem o ran amser yr apwyntiad (er enghraifft, trefniadau gofal plant neu eich gwaith), yna ffoniwch y clerc trefnu a rhowch wybod inni. Byddwn ni’n gwneud ein gorau i'ch helpu. Mae rhif ffôn y clerc trefnu ar gael ar ddiwedd y llyfryn hwn.

Sut bydda i’n cyrraedd ysbyty Felindre?

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn dod gyda'u cludiant eu hunain. Gall rhai grwpiau cymorth lleol drefnu cludiant hefyd. Mae’r rhifau cyswllt yng nghefn y llyfryn hwn. 

Os oes arnoch chi angen ambiwlans, dywedwch wrth y staff radiotherapi a gallan nhw drefnu hyn i chi. Efallai mai car fydd y cludiant ambiwlans. Mae angen dau ddiwrnod o rybudd arnon ni i drefnu cludiant ambiwlans ichi. 

Mae’r lle yn gyfyngedig ar y gwasanaeth cludiant ambiwlans. Os na allwch chi ymdopi ar eich pen eich hun, dywedwch wrthon ni er mwyn inni geisio trefnu ichi ddod â rhywun gyda chi ar y cludiant ambiwlans. 

Pam rydych chi’n gofyn imi roi fy enw, fy nghyfeiriad a’m dyddiad geni mor aml?

Byddwn ni’n gofyn am eich enw, eich cyfeiriad a’ch dyddiad geni bob tro y byddwch chi’n dod i'r adran radiotherapi. Y rheswm am hyn yw bod ein staff wedi'u hyfforddi i ailwirio'ch manylion personol yn gyson er mwyn osgoi unrhyw ddryswch.

Pryd fydda i’n cael fy nhriniaeth?

Mae eich radiotherapi yn cael ei roi unwaith y dydd, o ddydd Llun i ddydd Gwener (ond nid gwyliau banc). Gall eich triniaeth ddechrau ar unrhyw ddydd o'r wythnos.

Byddwch chi’n cael deg diwrnod o driniaethau radiotherapi (pythefnos).

Beth ddylwn i ei wneud ar ddiwrnod cyntaf fy nhriniaeth?

Pan fyddwch chi’n dod i gael eich triniaeth gyntaf, dewch at y fynedfa radiotherapi sydd yng nghefn Ysbyty Felindre. Rhowch eich enw a’ch llythyr i'r derbynnydd yn yr ystafell aros radiotherapi. Bydd y derbynnydd yn rhoi gwybod i radiograffwyr y peiriannau triniaeth eich bod chi wedi cyrraedd. Bydd yn dweud wrthoch chi ble i eistedd ac aros neu'n eich cyfeirio'n syth at eich peiriant triniaeth. 

Bydd eich radiograffwyr yn esbonio'r driniaeth a'r sgil-effeithiau posibl. Efallai y byddwn ni’n gofyn ichi lofnodi'r ffurflen ganiatâd eto. Byddwn ni hefyd yn gwirio bod eich holl apwyntiadau eraill wedi'u gwneud ar eich rhan. Os ydych chi’n fenyw ac o dan 55 oed, byddwn ni hefyd yn gofyn ichi a ydych chi’n feichiog.

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn teimlo'n bryderus ar yr adeg hon felly gofynnwch unrhyw gwestiynau sydd gennych. Fe wnawn ni’n gorau glas i dawelu’ch meddwl.

Beth fydd yn digwydd yn yr ystafell driniaeth?

Yn yr ystafell driniaeth, byddwn yn gofyn ichi orwedd ar y gwely yn gwisgo'ch mwgwd, a hynny yn yr un osgo ag oeddech chi ynddi ar gyfer eich sgan CT. Bydd y radiograffwyr yn eich gosod yn ofalus ac yn symud y peiriant fel ei fod yn union yn y lle iawn ar gyfer eich triniaeth. 

Mae'r gwely'n cael ei symud yn nes at y peiriant ac mae goleuadau'r ystafell yn cael eu pylu. Mae pelydryn golau yn disgleirio allan o'r peiriant i ddangos y pelydrau-X. Mae hyn yn helpu’ch radiograffydd i osod y pelydryn triniaeth yn union yn y man cywir ar gyfer eich triniaeth. Unwaith y byddwch chi yn yr osgo gywir, byddwn ni’n gofyn ichi orwedd yn llonydd ac anadlu'n normal.

Mae eich triniaeth yn cael ei rhoi mewn dau belydr-x, un o boptu i’ch pen. Yr enw ar bob un o'r pelydrau hyn yw maes triniaeth. Mae'r meysydd wedi'u nodi ar eich mwgwd triniaeth a'ch cynllun triniaeth. 

Pan fyddwch chi yn yr osgo gywir, mae'r radiograffwyr yn gadael yr ystafell i droi'r peiriant ymlaen. Maen nhw'n eich gwylio chi'n ofalus ar fonitorau teledu. Fyddwch chi ddim yn teimlo dim byd pan fyddwch chi’n cael eich triniaeth, er ei bod yn bosibl y byddwch chi’n clywed y peiriant yn suo.

Ar ôl y maes cyntaf, mae’r peiriant triniaeth yn cael ei symud i safle'r ail faes triniaeth. Pan fydd eich triniaeth wedi dod i ben, mae'r gwely'n cael ei ostwng, mae'ch mwgwd yn cael ei dynnu a gallwch chi adael yr ystafell driniaeth.

Beth os bydd angen imi symud?

Os ydych chi angen i'r radiograffwyr ddod i mewn atoch tra bo’r peiriant ymlaen, gallwch chwifio'ch llaw. Bydd y radiograffwyr yn diffodd y peiriant ac yn dod i mewn atoch chi. Mae modd ailddechrau’r driniaeth pan fyddwch chi'n gyffyrddus eto.  

Beth yw sgil-effeithiau fy radiotherapi?

  • Efallai y byddwch chi'n teimlo'n flinedig.
  • Gall eich croen fynd ychydig yn sych a phinc yn y fan sy'n cael ei thrin. Yn aml mae'n edrych fel llosg haul ysgafn. Fel arfer mae'n normal eto o fewn pythefnos.
  • Efallai y byddwch chi’n colli clytiau o wallt yn y mannau sy'n cael eu trin, er enghraifft, blaen yr aeliau neu ymyl croen y pen. Nid yw colli gwallt yn gyffredin ac fel arfer mae'n tyfu'n ôl ar ôl i'r driniaeth ddod i ben.

Nid yw rhai sgil-effeithiau yn ymddangos tra byddwch chi’n cael eich radiotherapi ond maen nhw’n gallu datblygu fisoedd neu hyd yn oed flynyddoedd wedyn. Nid yw'r rhain yn gyffredin.

  • Er ein bod ni’n cynllunio’ch triniaeth yn ofalus er mwyn osgoi trin lensys y llygaid, mae yna risg fach iawn y bydd cataractau yn datblygu yn y blynyddoedd i ddod. Mae'r rhain yn cael eu trin yn hawdd.
  • Mae yna risg uwch eithriadol o fach y bydd canser yn datblygu yn y fan sy'n cael ei thrin. Y rheswm am hyn yw’r ymbelydredd sy’n cyrraedd y meinweoedd arferol. Dylid cymharu'r risg eithriadol fach hon â manteision tebygol y driniaeth.
  • Mae yna risg fach iawn o newidiadau yng nghefn y llygad (retina). Mae hyn yn fwy tebygol os ydych chi'n ddiabetig.

Beth sy'n digwydd ar ôl i'm radiotherapi ddod i ben?

Pan fydd eich triniaeth wedi dod i ben, byddwn ni’n rhoi rhifau ffôn cyswllt ichi er mwyn ichi siarad â rhywun os oes gennych unrhyw gwestiynau cyn eich apwyntiad nesaf.

Byddwch chi’n gweld eich offthalmolegydd (meddyg llygaid) yn y clinig i gael eich archwilio ac i asesu effeithiau'r driniaeth. Nid yn Felindre y bydd y clinig hwn. Bydd eich offthalmolegydd yn eich gweld yn gyson i fonitro’ch llygaid.

Rhifau ffôn cyswllt

Ysbyty Felindre 029 2061 5888

Radiograffwyr Adolygu 029 2061 5888 est 6421 

Yr Ystafell Fowldio 029 2031 6213

Radiograffwyr Gwybodaeth a Chymorth 029 2061 5888 est 6428 
                            
Clercod trefnu apwyntiadau Radiotherapi 02920 196836

Cludiant o Aberdâr
Cymorth Canser Cwm Cynon
01443 479369

Cludiant o Ben-y-bont ar Ogwr
Sandville
01656 743344

Cludiant o Ferthyr
Cymorth Canser Merthyr
01685 379633

Cludiant o ran uchaf Cwm Rhymni
CLURV, Bargod
01443 839326

Cludiant o Rondda Cynon Taf
Gwasanaethau Canser Cymunedol
01443 421999

Sefydliadau cymorth

Cymdeithas Thyroid Prydain
Gwefan: www.british-thyroid-association.org/   

Ymddiriedolaeth Elusennol Clefyd Thyroid y Llygaid
TEDCT 
PO BOX 1928
Bryste
BS37 0AX
Llinell Gymorth Genedlaethol: 0844 800 8133 
E-bost: ted@tedct.co.uk
Gwefan: www.tedct.co.uk 

F PI 36       Rhifyn 3       Mehefin 2010