Neidio i'r prif gynnwy

Radiotherapi yng Nghanolfan Ganser Felindre

Mae'r llyfryn hwn yn rhoi gwybodaeth i chi am driniaeth radiotherapi a gewch yng Nghanolfan Ganser Felindre.

 

Rhestrir rhifau ffôn cyswllt ar ddiwedd y llyfryn.

 

Cofiwch ddod â rhestr o'ch meddyginiaethau cyfredol bob tro y byddwch yn dod i Felindre.

 

Mae gwybodaeth i gleifion hefyd ar gael ar wefan Felindre. Ewch i: https://felindre.gig.cymru/canolfan-ganser-felindre/

 

Ni chaniateir ysmygu ar dir Canolfan Ganser Felindre nac y tu mewn i’r ganolfan. Os hoffech gael cymorth i roi'r gorau iddi, gofynnwch.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Beth yw Radiotherapi?

Mae eich meddyg wedi penderfynu y byddech yn elwa o gwrs o driniaeth radiotherapi.

 

Mae radiotherapi yn driniaeth ar gyfer canser gan ddefnyddio ymbelydredd egni uchel, pelydrau-x fel arfer. Cyfrifir y math o ymbelydredd a faint a gewch i ddifrodi’r DNA mewn celloedd canser. Mae hyn yn eu hatal rhag rhannu'n iawn fel eu bod yn cael eu dinistrio. Mae eich triniaeth wedi'i chynllunio i osgoi cymaint o feinwe iach â phosibl. Fodd bynnag, effeithir ar rywfaint o feinwe iach a all achosi sgil-effeithiau. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei hesbonio gan eich meddyg ac efallai y byddwch yn derbyn llyfryn ar wahân yn ymwneud â'ch canser

 

Tîm Radiotherapi Felindre

Gelwir y meddyg sy'n gyfrifol am eich gofal yn Oncolegydd Clinigol. Bydd yn rhagnodi eich triniaeth radiotherapi. Caiff y driniaeth ei chynllunio gan dîm o ffisegwyr a radiograffwyr cynllunio.

 

Byddwch yn cwrdd â thîm o radiograffwyr therapiwtig:

  • Radiograffwyr cynllunio – sy’n gwneud eich sgan cynllunio CT.
  • Radiograffwyr triniaeth – sy’n rhoi eich triniaeth i chi.
  • Radiograffwyr adolygu, gwybodaeth a chymorth – sy’n rhoi cyngor i chi ar unrhyw sgil-effeithiau. Gallant hefyd ragnodi meddyginiaeth i helpu. Byddant yn darparu gwybodaeth a chyngor ar unrhyw bryderon ymarferol, ariannol neu emosiynol a allai fod gennych yn ystod eich triniaeth.

 

Mae Felindre yn ysbyty addysgu felly gall eich tîm gynnwys myfyrwyr dan hyfforddiant. Os nad ydych am i fyfyriwr fod yn bresennol yn ystod eich apwyntiadau, rhowch wybod i ni.

 

Cludiant i Felindre ac oddi yno

Os oes angen cludiant ysbyty arnoch, rhowch gymaint o rybudd â phosibl i ni drefnu hyn ar eich cyfer. Mae galw mawr am gludiant felly bydd angen i chi fod yn barod i aros am beth amser i gael eich codi a mynd â chi adref. Gall rhai grwpiau cymorth lleol drefnu cludiant hefyd. Gall cleifion ar fudd-daliadau penodol hawlio costau teithio. Gofynnwch pan fyddwch yn dod am eich triniaeth.

 

Gwybodaeth i roi gwybod i ni amdani cyn dechrau

Mae'n bwysig nad ydych yn beichiogi yn ystod eich triniaeth oherwydd gall radiotherapi niweidio babi sy'n datblygu. Os tybiwch eich bod yn feichiog, dywedwch wrth y radiograffwyr ar unwaith.

 

Os oes gennych ddyfais electronig cardiaidd (CIED) fel rheolydd calon neu ddiffibriliwr, rhaid i chi ddweud wrth eich meddyg neu radiograffydd cyn neu yn ystod eich apwyntiad cynllunio cyntaf.

 

Cynllunio eich Radiotherapi

Ewch i flaen yr ysbyty (gweler y map isod) a mynd drwy'r adran cleifion allanol, lle dangosir i chi ble mae'r adran cynllunio radiotherapi.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ar gyfer eich sgan cynllunio gofynnir i chi orwedd yn llonydd ar soffa galed, i'ch helpu i gadw i’ch safle, byddwn yn defnyddio mowldiau plastig a chlustogau sbwng/rwber, y gellir eu hail-leoli yn eich sgan cynllunio.  Ni ellir newid y safle hwn yn ystod y driniaeth, felly mae'n bwysig eich bod yn gyfforddus, rhowch wybod i'r radiograffwyr os nad ydych, fel y gellir gwneud addasiadau. Os yw gorwedd yn fflat yn boenus i chi, mae'n bwysig dod â meddyginiaeth lleddfu poen gyda chi.

 

Bydd y soffa'n cael ei symud drwy'r twll yn y peiriant a gall stopio mewn safleoedd gwahanol i gymryd y sgan cynllunio. Bydd y radiograffwyr yn gadael yr ystafell i droi'r peiriant ymlaen ond byddant bob amser yn eich gwylio. Gellir stopio’r sgan unrhyw bryd drwy roi gwybod i'r radiograffwyr drwy godi eich braich neu drwy chwifio. Nid ydych yn gweld nac yn teimlo unrhyw beth yn ystod y sgan.

 

Dyma un o'r sganwyr CT y mae Canolfan Ganser Felindre yn eu defnyddio i gynllunio triniaeth.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae gan wahanol ardaloedd triniaeth wahanol safleoedd gosod.

 

Pen a gwddf/Ymennydd - Bydd mwgwd yn cael ei wneud i ffitio'ch wyneb. Gwneir hyn gan ddefnyddio plastig arbennig wedi'i gynhesu, y bydd yn mowldio i siâp eich wyneb ar ôl iddo oeri. Mae'r llun isod yn enghraifft o gragen pen, mae yna dyllau fel y gallwch chi barhau i anadlu'n rhwydd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Y fron – Bydd eich breichiau uwch eich pen, ond bydd eich symudedd yn cael ei wirio ymlaen llaw, a gellir addasu offer i wneud hyn yn haws.

image001

 

Pelfis – Byddwch yn gorwedd ar eich cefn ar y soffa gyda'ch breichiau ar draws eich brest. Mae’n bwysig iawn eich bod yn yfed digon o ddŵr cyn dod i’ch apwyntiadau, yn enwedig os yw’ch apwyntiad yn y bore. Bwytewch fel arfer.

 

Prostate RT

 

Ysgyfaint/oesoffagws/stumog/pancreas – bydd eich breichiau'n mynd uwch eich pen, gan orffwys ar ddarn o offer i’ch cynnal, ond os nad yw hyn yn bosibl, mae opsiynau eraill.

 

Wingboard 002

 

Aelodau’r corff - Efallai y bydd rhai pobl yn cael eu gosod gan ddefnyddio bag gwag sy'n glustog fawr gyda ffa y tu mewn, bron fel ‘memory foam’. Unwaith y byddwch yn y safle cywir bydd yr aer yn cael ei dynnu a bydd eich safle yn barod i ffitio iddo ar gyfer eich triniaeth.

bean bag, planning staff 002

 

Asgwrn cefn – efallai y gofynnir i chi orwedd ar eich cefn gyda chlustogau o dan eich pen a'ch pengliniau, fel y llun o driniaeth pelfis. Os ydych chi'n cael trafferth gyda phoen pan fyddwch chi'n gorwedd yn wastad, dewch â meddyginiaeth lleddfu poen gyda chi.

 

Rydym yn cynllunio eich triniaeth i weddu i chi a gall fod yn wahanol i'r rhai a eglurir yn y llyfryn hwn.

 

Efallai y bydd gennych farciau ar eich croen i helpu'r radiograffwyr i'ch lleoli ar gyfer eich triniaeth radiotherapi. Mae'r rhain fel arfer yn farciau parhaol bach a elwir yn aml yn datŵs. Os ydych chi'n poeni am gael marciau parhaol ar eich croen, trafodwch hyn gyda'ch radiograffydd.

 

 

Tatŵ triniaeth barhaol

 

 

Yn ystod eich sgan cynllunio efallai y byddwch yn cael pigiad o liw i'ch gwythïen, a elwir yn gyferbyniad. Gall hyn helpu'r meddyg i weld rhai ardaloedd yn gliriach wrth iddo gynllunio'ch triniaeth.

 

Gall eich apwyntiad cynllunio bara hyd at 2 awr oherwydd unrhyw baratoadau sydd eu hangen ymlaen llaw. Dylai'r sgan cynllunio ei hun bara 15-30 munud yn unig.

 

Gellir rhoi triniaeth yr un diwrnod, ychydig ddyddiau neu ychydig wythnosau ar ôl eich sgan cynllunio CT yn dibynnu ar y rheswm dros eich triniaeth, bydd eich oncolegydd yn esbonio hyn i chi. Efallai y cewch eich apwyntiad cyntaf yn eich apwyntiad cynllunio. Os na, caiff ei anfon yn y post atoch.

 

Cael eich Radiotherapi

Mae tri phrif fath o beiriannau sy'n darparu radiotherapi yn Felindre. Efallai eu bod yn edrych ychydig yn wahanol, ond maent yn gweithio yn yr un modd.

Text Box: Mae tri phrif fath o beiriannau sy'n darparu radiotherapi yn Felindre. Efallai eu bod yn edrych ychydig yn wahanol, ond maent yn gweithio yn yr un modd.

 

 

 

Mae'r adran radiotherapi yng nghefn Canolfan Ganser Felindre. Gyrrwch i gefn yr ysbyty lle mae maes parcio gyda pharcio penodol i gleifion. Ewch i mewn i'r dderbynfa radiotherapi i gofrestru a byddwch yn cael eich cyfeirio at eich peiriant triniaeth.

 

Fel arfer rhoddir radiotherapi dros nifer o sesiynau triniaeth; bydd nifer y sesiynau yn dibynnu ar y math o ganser sydd gennych a nod y driniaeth.

 

Gall pob sesiwn driniaeth gymryd rhwng 10 a 30 munud. Mae'r rhan fwyaf o'r amser yn cael ei dreulio yn eich rhoi yn yr un safle ag yr oeddech ynddo ar gyfer eich sgan cynllunio CT. Mae'r driniaeth ei hun, fel arfer dim ond yn cymryd ychydig funudau.

 

Er mwyn eich rhoi yn y safle cywir, bydd y radiograffwyr yn defnyddio'r marciau ar eich croen a wnaed yn eich sgan cynllunio. Mae'n bwysig eich bod yn teimlo'n gyfforddus gan y bydd angen i chi orwedd yn llonydd ar gyfer eich triniaeth. Unwaith y byddwch yn y safle cywir, bydd y radiograffwyr yn gadael yr ystafell i droi'r peiriant ymlaen. Byddant yn eich gwylio ar gamera. Gellir atal y driniaeth unrhyw bryd drwy roi gwybod i'r radiograffwyr drwy godi eich braich neu drwy chwifio.

 

Ni fyddwch yn gweld nac yn teimlo unrhyw beth pan fydd y peiriant wedi'i droi ymlaen, ond efallai y byddwch yn clywed sŵn suo wrth i'r peiriant symud o'ch cwmpas. Gall y radiograffwyr dynnu rhai lluniau neu sganiau ar eich diwrnod cyntaf ac yn rheolaidd trwy eich triniaeth. Defnyddir y lluniau a'r sganiau hyn i sicrhau bod y driniaeth yn cael ei rhoi'n gywir yn hytrach na dangos sut mae'r driniaeth yn mynd.

 

Unwaith y bydd y sesiwn driniaeth wedi dod i ben, bydd y radiograffwyr yn dod yn ôl i'r ystafell. Mae'n bwysig eich bod yn aros yn yr un safle nes bod y radiograffwyr yn dweud wrthych ei bod yn ddiogel codi oddi ar y soffa. Ar ôl hyn, gallwch barhau â’ch diwrnod arferol, neu fynd yn ôl i'r ward os ydych yn glaf mewnol.

 

Os hoffech chi wylio sut mae radiotherapi yn cael ei roi yn Felindre, ewch i’r wefan ganlynol: http://www.youtube.com/user/Velindrecc

 

Rhoddir gwybodaeth sgil-effeithiau i chi naill ai mewn llyfryn/taflen ar wahân, wedi'i hegluro gan eich ymgynghorydd a'i rhoi ar eich ffurflen cydsynio.

 

Os hoffech siarad â rhywun am eich triniaeth radiotherapi, cysylltwch â'r Clinig Adolygu Radiotherapi.

 

Beth allaf ei ddisgwyl ar ôl i'r driniaeth ddod i ben?

Mae gan radiotherapi effaith ohiriedig a bydd y sgil-effeithiau'n parhau hyd yn oed ar ôl i'ch triniaeth ddod i ben. Maent yn tueddu i gyrraedd eu hanterth tua 7 i 14 diwrnod ar ôl eich sesiwn radiotherapi ddiwethaf, felly peidiwch â dychryn os byddant yn gwaethygu.

Mae amseroedd adferiad yn amrywio o berson i berson, ond dylai sgil-effeithiau wella'n raddol dros y 6 i 12 wythnos ganlynol.

 

Yn yr wythnosau ar ôl eich triniaeth, byddwch yn cael eich adolygu gan yr arbenigwyr sydd wedi bod yn gofalu amdanoch. Bydd hyn yn amrywio yn dibynnu ar eich diagnosis a threfn eich triniaeth, ond bydd eich tîm triniaeth yn eich cynghori ar hyn.

 

Mae pawb yn wahanol a gallant ymateb yn wahanol i driniaeth. Os ydych yn pryderu am unrhyw beth ar unrhyw adeg, ar ôl i chi orffen eich triniaeth, cysylltwch â'ch tîm radiotherapi neu'ch meddyg teulu.  Nid yw'n anarferol i bobl fod yn bryderus ac efallai y byddai'n well ceisio cyngor yn hytrach na phoeni.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Rhifau Ffôn Cyswllt ar gyfer Radiotherapi

 

Ar gyfer eich apwyntiadau a chludiant ysbyty:

Clercod trefnu apwyntiadau Radiotherapi          029 2019 6836

 

Am wybodaeth am driniaeth a chyngor: Tîm Adolygu Radiotherapi: 029 2061 5888 est 6421

 

Elusennau lleol sy’n darparu trafnidiaeth:

Cludiant o Aberdâr:

Rowan Tree Cancer Care                01443 479369

 

Cludiant o Ferthyr:

Cancer Aid                                     01685 379633

 

Tîm Gofal Cefnogol yng Nghanolfan Ganser Felindre

Hawliau Budd-daliadau a Lles: 02920 316277

Ar gyfer grwpiau cymorth lleol, gofalwyr/cymorth i deuluoedd, gwasanaethau cyfeillio, gofal ysbrydol a siarad â phlant:  02920 196132

 

Llinellau cymorth a gwefannau

Llinell gymorth cymorth canser Macmillan: 08088080000 9am–8pm Gwefan:www.macmillan.org.uk 
 

Maggie's Cardiff. Llinell Gymorth 9am-5pm:   02922408024

Gwefan:        www.maggie’s.org/southeastwales

 

Tenovus        Llinell Gymorth:    0808 808 1010 8am – 8pm

Gwefan:        www.tenovuscancercare.org.uk

 

Llinell Gymorth Dim Smygu Cymru – Helpa Fi i Stopio: 0808 278 4105

Gwefan:        www.helpafiistopio.cymru 0800 085 2219

 

FPI 1                                                              Rhifyn 17