Neidio i'r prif gynnwy

Radiotherapi i blant

Radiotherapi i blant

Bydd y llyfryn hwn yn eich helpu i ddeall beth fydd yn digwydd pan fydd eich plentyn yn dod i ysbyty Felindre i gael triniaeth radiotherapi. 

Bydd y llyfryn yn esbonio sut mae eich triniaeth yn cael ei chynllunio a’i rhoi. Bydd yn trafod sgîl-effeithiau posibl, a bydd yn rhoi gwybod i chi sut i gael rhagor o wybodaeth a chymorth. 

Mae rhifau ffôn cyswllt ar ddiwedd y llyfryn hwn.

Gobeithio y bydd yn ateb eich cwestiynau. Holwch ni os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill nad ydym wedi eu hateb.

Mae geirfa ar du blaen y llyfryn hwn i’ch helpu i ddeall unrhyw eiriau a allai fod yn anghyfarwydd i chi.

Ni chaniateir ysmygu y tu mewn i Ysbyty Felindre nac mewn unrhyw le ar dir yr ysbyty. Os oes angen help arnoch i roi’r gorau i ysmygu, gofynnwch i ni.

Mae gwybodaeth i gleifion ar gael ar wefan Felindre
Ewch i: www.wales.nhs.uk/cancercentre

Gyda diolch i Danni

Mae’r wybodaeth hon wedi’i seilio ar dystiolaeth ac yn cael ei hadolygu’n flynyddol

Rhestr termau

Hufen dyfrllyd - hufen lleithio nad yw'n cynnwys persawr ac nad yw fel rheol yn llidro'r croen

Cemotherapi - triniaeth ar gyfer canser sy'n defnyddio cyffuriau

Treial clinigol - astudiaeth ar fuddion a diogelwch triniaethau newydd posibl

Cyflymydd Llinol (Linac neu ALl) - peiriant sy'n defnyddio ymbelydredd egni uchel i roi triniaeth radiotherapi

Ffisegydd - person sy'n cynllunio triniaeth radiotherapi yn dechnegol

Radiograffydd therapiwtig - person a fydd yn cynllunio neu'n rhoi triniaeth radiotherapi

Ble mae ysbyty Velindre?

Mae ysbyty Velindre yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd. Gweler y map a'r cyfarwyddiadau i ysbyty Velindre ar dudalen 19.

Beth yw radiotherapi?

Mae eich meddyg wedi penderfynu y byddai eich plentyn yn elwa o gwrs o radiotherapi.  Bydd eich meddyg yn egluro beth fydd yn digwydd yn ystod eich triniaeth.

Mae radiotherapi yn driniaeth ar gyfer canser sy’n defnyddio ymbelydredd ynni uchel, pelydrau-x fel arfer.  Mae math a dos yr ymbelydredd byddwch yn ei gael yn cael eu cyfrifo’n ofalus i niweidio’r celloedd canser.  Mae hyn yn eu hatal rhag rhannu’n iawn, felly maen nhw’n cael eu dinistrio. Mae’r driniaeth yn cael ei chynllunio i osgoi cymaint o feinwe iach â phosibl. Fodd bynnag, effeithir ar ychydig o feinwe iach, sy’n achosi sgîl-effeithiau. Gellir rhoi triniaeth radiotherapi ar ei ben ei hun, ar ôl llawdriniaeth neu yn lle llawdriniaeth. Gellir ei roi hefyd gyda neu ar ôl cemotherapi.

Y tîm radiotherapi

Bydd tîm o feddygon a radiograffyddion therapiwtig yn gofalu amdanoch chi a’ch plentyn.

Mae Felindre yn ysbyty addysgu, felly efallai y bydd eich tîm yn cynnwys radiograffydd sy’n fyfyriwr, myfyriwr nyrsio neu fyfyriwr meddygol. Os nad ydych eisiau i fyfyriwr fod yn bresennol, rhowch wybod i ni.

Bydd eich radiograffyddion yn gofyn i’ch plentyn neu i chi am ei enw, cyfeiriad a dyddiad geni bob tro rydych yn dod i gael triniaeth radiotherapi. Mae ein staff wedi cael eu hyfforddi i wirio eich manylion personol sawl gwaith i osgoi unrhyw ddryswch.

Helpu eich plentyn i ddeall radiotherapi

Cyn i’ch plentyn ddod i gael radiotherapi, bydd arbenigwr chwarae yn gweithio gyda’ch plentyn i helpu i esbonio beth fydd yn digwydd pan fydd yn cael radiotherapi. Byddwch fel arfer yn cyfarfod â’r arbenigwr chwarae yn yr Ysbyty Plant yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Yn Felindre, mae tîm arbennig o radiograffyddion ar gael i blant i’w helpu i ddeall beth fydd yn digwydd yn yr adran radiotherapi.  Byddwch yn cwrdd ag un radiograffydd o’r tîm hwn yn eich apwyntiad cynllunio; hwn fydd eich radiograffydd penodol a fydd yn helpu i gael eich plentyn i ymddiried ynddo ef/ynddi hi.

Byddwch chi a’ch plentyn yn cael gweld y peiriant triniaeth os dymunwch.  Os hoffech weld y peiriant, bydd eich radiograffydd penodol yn trefnu hyn ar eich cyfer.  Mae DVD (copïau caled a dolen ar wefan Felindre) a llyfryn i blant ar radiotherapi ar gael.

Beth os yw fy mhlentyn yn rhy ifanc i aros yn llonydd?

Efallai y bydd angen i ni drefnu i’ch plentyn gael eu sgan cynllunio a’u triniaeth radiotherapi o dan anesthetig cyffredinol ysgafn. Efallai y bydd angen gwneud hyn os yw eich plentyn yn rhy ifanc i ddeall bod angen iddo ef neu iddi hi aros yn llonydd iawn a bod ar ei ben ei hun am ychydig funudau. 

Os oes angen i’ch plentyn gael anesthetig yn ystod pob ymweliad, bydd angen i chi fod yn Felindre yn gynnar yn y bore. Ni fydd eich plentyn yn gallu cael unrhyw fwyd na diod o ganol nos y noson cyn y driniaeth. Bydd angen i’ch plentyn wella’n llwyr o’r anesthetig cyn gadael yr ysbyty.

Cynllunio triniaeth eich plentyn

Mae triniaeth radiotherapi yn cael ei chynllunio ar gyfer pob claf yn unigol. Bydd gofyn i chi ddod i apwyntiad yn yr adran gynllunio. Mae hon yn nhu blaen yr ysbyty.

Fel arfer, byddwch chi a’ch plentyn yn gweld y meddyg fydd yn trin eich plentyn yn yr apwyntiad hwn i esbonio’r driniaeth â’r sgîl-effeithiau posibl y gallai eich plentyn eu dioddef; os ydych yn hapus i’ch plentyn gael triniaeth, byddwn yn gofyn i chi lofnodi ffurflen ganiatâd. Gofynnwch unrhyw gwestiynau neu trafodwch unrhyw bryderon gyda’r meddyg.

Ymweld â’r ystafell fowldio

Os yw eich plentyn angen triniaeth i ardal eu pen neu wddf, byddant angen cael mwgwd wedi’i wneud iddynt i’w wisgo yn ystod eu triniaeth.  Bydd y mwgwd yn cael ei wneud yn yr ystafell fowldio.

Beth yw mwgwd triniaeth?

Mwgwd plastig yw’r mwgwd triniaeth y bydd eich plentyn yn ei wisgo am ychydig o funudau pob dydd pan fyddant yn cael eu triniaeth radiotherapi.  Bydd yn gorchuddio tu blaen eu hwyneb a’u pen, ond mae’r deunydd plastig yn llawn tyllau, felly bydd eich plentyn yn gallu anadlu’n normal trwy eu trwyn a’u ceg. 

Sut mae’r mygydau’n cael eu gwneud?

I wneud mwgwd triniaeth, mae angen i ni roi eich plentyn ar wely arbennig er mwyn iddo orwedd mor syth â phosibl. Bydd ganddynt handlenni i’w dal a phadiau bach sy’n gorffwys yn gyffyrddus ond yn gadarn ar eu hysgwyddau. Bydd hyn yn cadw eich plentyn yn y safle cywir ar gyfer y driniaeth.
 

Danni having a mask made

Danni yn cael y mwgwd wedi’i wneud

Bydd y mwgwd plastig yn dechrau fel dalen o blastig sy’n cael ei gynhesu ac yna, bydd yn cael ei ymestyn dros ên neu ran uchaf gwddf eich plentyn, dros ei wyneb ac i dop ei ben. Bydd eich plentyn yn teimlo’r mwgwd yn cael ei ymestyn dros ei wyneb a’i roi yn ei le. Bydd yn teimlo’r mwgwd yn cael ei fowldio dros bont ei drwyn, ei ên a dros ei glustiau. Bydd y mwgwd yn cael ei adael am 10 munud i oeri’n llwyr, yna bydd yn cael ei dynnu i ffwrdd.

Faint o amser fydd yn ei gymryd?

Gan ddibynnu ar ba mor hawdd fydd hi i’ch plentyn aros yn llonydd, mae’n cymryd rhyw 20 munud i wneud y mwgwd. Ond caniatewch awr ar gyfer eich apwyntiad cyfan gan y bydd angen i’ch plentyn gael sgan cynllunio CT wedyn yn gwisgo ei fwgwd.

Cael sgan cynllunio CT 

Peiriant yw sganiwr CT sy’n tynnu lluniau manwl sy’n cael eu defnyddio i gynllunio triniaeth eich plentyn.  Os oes gan eich plentyn fwgwd, bydd y sgan yn cael ei wneud gyda’r plentyn yn gwisgo’r mwgwd. Ni fydd eich plentyn yn teimlo dim wrth gael y sgan, ond bydd angen iddo ef/iddi hi aros yn llonydd iawn. 

Danni having a scan image

Danni yn cael ei sgan CT

Bydd gofyn i’ch plentyn orwedd yn y safle gorau ar gyfer ei driniaeth. Byddwn yn gofyn iddo ef/iddi hi orwedd ar y gwely. Bydd sbwng bach yn cael ei roi o dan ei ben. Bydd angen iddo ef/iddi hi aros yn yr un safle ac anadlu’n normal tra’n cael y sgan CT. 

Efallai y byddwn yn defnyddio marciwr i farcio’r ardal sydd angen ei thrin ar groen eich plentyn. Efallai y bydd angen i ni gymryd rhywfaint o fesuriadau hefyd. Byddwn yn gofyn am ganiatâd gennych chi a’ch plentyn i wneud marciau parhaol ar yr ardal sy’n cael ei thrin, fel bod eich plentyn yn dal i allu ymolchi yn ystod y driniaeth.  

Llun marc inc parhaol

Unwaith y bydd hyn wedi’i wneud, gallwch chi a’ch plentyn fynd adref.

Dechrau triniaeth

Bydd eich plentyn yn cael ei apwyntiad triniaeth cyntaf cyn gynted ag y mae ei gynllun ef/ei chynllun hi yn barod. Efallai y byddwch yn cael gwybod y dyddiad hwn yn ystod eich apwyntiad cynllunio.

Os yw eich plentyn yn ifanc, bydd y tîm yn gofyn os oes gan eich plentyn ddiddordeb arbennig (er enghraifft, pêl-droed neu Barbie) fel eu bod yn gallu gwneud siart lliwgar, personol ar gyfer eich plentyn. Bob tro mae eich plentyn yn dod i gael triniaeth radiotherapi, bydd ef/hi yn dewis sticer i’w roi ar y siart. Mae hyn yn rhoi rhywbeth i’ch plentyn edrych ymlaen ato wrth iddynt fynd trwy eu triniaeth. Gall eich plentyn ddod â’i hoff dâp neu CD i wrando arnynt hefyd yn yr ystafell driniaeth. 

Danni with chart

Danni gyda’i siart

Y driniaeth radiotherapi gyntaf

Pan fyddwch yn dod ar gyfer triniaeth gyntaf eich plentyn, dewch i fynedfa’r adran radiotherapi sydd yng nghefn yr ysbyty. Rhowch eich enw a’ch llythyr i’r derbynnydd yn yr ystafell aros. Bydd y derbynnydd yn dweud wrthych ble i eistedd ac aros, neu’n eich cyfeirio chi’n syth at beiriant triniaeth eich plentyn.

Bydd eich radiograffyddion yn esbonio’r driniaeth ac yn siarad am y sgîl-effeithiau posibl.  Byddwn yn gofyn i chi lofnodi’r ffurflen ganiatâd eto. Gofynnwch unrhyw gwestiynau sydd gennych.

A fydd angen gwneud unrhyw brofion eraill?

Efallai y bydd angen i ni dynnu gwaed; gellir gwneud hyn yn yr Ysbyty Plant yn Ysbyty Athrofaol Cymru, neu yn Felindre.

Tu mewn i’r ystafell driniaeth

Yn yr ystafell driniaeth, bydd gofyn i’ch plentyn orwedd ar y gwely yn yr un modd ag y gwnaeth ar gyfer y sgan cynllunio. 

 
Tu mewn i’r ystafell driniaeth

Pe dymunent, gallwn roi pen darn hir o ruban i’ch plentyn i’w ddal. Tu allan i’r ystafell driniaeth, gall mam neu dad ddal y pen arall. Mae hyn yn helpu eich plentyn i wybod ble rydych chi pan mae ar ei ben ei hun yn yr ystafell driniaeth.

Bydd y radiograffyddion yn symud eich plentyn i’r safle cywir ar gyfer y driniaeth a bydd angen iddynt aros yn llonydd ac anadlu’n normal.  Pan fydd eich plentyn a’r peiriant yn y safle cywir, byddwch chi a’ch radiograffyddion yn gadael yr ystafell am amser byr i droi’r peiriant ymlaen.  Mae triniaeth yn cael ei rhoi o onglau gwahanol, a bydd y radiograffydd yn mynd i’r ystafell i symud y peiriant neu’n ei symud o du allan i’r ystafell. Bydd y driniaeth ond yn cymryd ychydig funudau, a bydd y radiograffyddion yn gwylio eich plentyn yn ofalus ar fonitorau teledu.  Ni fydd eich plentyn yn teimlo dim pan mae’r peiriant ymlaen yn ystod y driniaeth. Mae’r peiriant yn gwneud sŵn hymian pan mae’n cael ei droi ymlaen. Bydd eich radiograffyddion yn gwylio eich plentyn yn ofalus iawn ac os fydd eich plentyn yn symud o gwbl, byddant yn troi’r peiriant i ffwrdd ac yn mynd i mewn i’r ystafell driniaeth.  Pan fydd eich plentyn wedi setlo, gellir troi’r peiriant ymlaen a gorffen y driniaeth.

Danni with a radiographer  
Mam Danni’n dal y rhuban ac yn gwylio 
Danni’n ofalus ar y teledu

Mae’r driniaeth yn cymryd tua 10 munud. Pan mae’r driniaeth wedi gorffen, mae’r radiograffyddion yn gostwng y gwely ac mae eich plentyn yn gallu gadael yr ystafell.

Gweld eich meddyg

Bydd eich meddyg yn yr Ysbyty Plant yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn monitro eich plentyn drwy gydol ei driniaeth. Mae’r meddygon yn Felindre ar gael hefyd os oes angen. 

Sgîl-effeithiau tymor byr

Mae sgîl-effeithiau fel arfer yn dechrau ar ôl tua phythefnos o driniaeth ac yn effeithio ar rannau’r corff rydym yn eu trin yn unig.  Mae radiotherapi yn parhau i weithio tu mewn i’ch corff am hyd at 10 diwrnod ar ôl i chi orffen eich triniaeth, felly gall sgîl-effeithiau barhau am y cyfnod hwn. Ar ôl 10 diwrnod, bydd eich plentyn yn dechrau gwella.

Blinder a gorflinder

Bydd eich plentyn yn debygol o deimlo’n flinedig.  Gallai gwneud tipyn o ymarfer corff, gorffwys ychydig, yfed digon o ddŵr a bwyta deiet iach helpu eich plentyn i deimlo’n llai blinedig.

Adweithiau ar y croen

Efallai y bydd eich croen yn yr ardal sy’n cael ei thrin yn troi’n binc ac yn teimlo’n gynnes ac yn dyner.  Rydym yn annog eich plentyn i barhau i ofalu am ei groen yn y ffordd arferol yn ystod y driniaeth; byddwn yn trafod gofalu am y croen gyda chi yn ystod eich triniaeth gyntaf.

Sgîl-effeithiau penodol

Gall sgîl-effeithiau o gael triniaeth i’r stumog ac ardal y pelfis wneud i chi golli’r chwant am fwyd, teimlo’n sâl a/neu gael dolur rhydd.  Gall triniaeth i’r ymennydd achosi cur pen a chodi cyfog arnoch a hefyd, gwneud i chi golli eich gwallt yn yr ardal sy’n cael ei thrin.  Gall triniaeth i’r frest wneud i chi dagu a bod yn fyr eich gwynt.  Rhowch wybod i’ch meddyg am unrhyw rai o’r sgîl-effeithiau hyn, gan fod meddyginiaeth ar gael a allai helpu.  

Sgîl-effeithiau hwyr

Mae rhai sgîl-effeithiau yn digwydd llawer hwyrach ar ôl y driniaeth. Bydd hyn yn dibynnu ar yr ardal sy’n cael ei thrin a dos yr ymbelydredd sy’n cael ei roi. Bydd eich meddyg yn esbonio unrhyw sgîl-effeithiau hwyr cyn dechrau’r driniaeth.  

Gorffen triniaeth

Bydd eich meddyg yn gweld chi a’ch plentyn yn rheolaidd yn yr Ysbyty Plant.  Os ydych yn poeni am unrhyw beth sy’n ymwneud â thriniaeth eich plentyn, siaradwch â’ch radiograffyddion i gael cyngor.

Rhifau ffôn cyswllt

Ysbyty Felindre 02920 615888

Clercod trefnu radiotherapi 02920 196836

Radiograffyddion gwybodaeth, cefnogi ac adolygu      
029 2061 5888 est 6421

Elusennau sy’n rhoi gwybodaeth am ganser:

Llinell gymorth rhad ac am ddim Tenovus    0808 808 1010
www.tenovus.com

Macmillan 0808 808 2020
www.macmillan.org.uk

Gwefannau i blant:

CLIC Sargent
www.clicsargent.org.uk

Children’s Cancer & Leukaemia Group
www.ukccsg.org

Teenage Cancer Trust
www.teenagecancertrust.org

Teen Info on Cancer
www.click4tic.org.uk

Youth Health Talk
www.youthhealthtalk.org

F.PI 37  Rhifyn 4 Rhag 2013