Neidio i'r prif gynnwy

Radiotherapi ar gyfer canserau gynaecolegol

Radiotherapi ar gyfer canserau gynaecolegol

 

 

Bydd y llyfryn hwn yn eich helpu i ddeall beth fydd yn digwydd i chi pan fyddwch yn dod i Ysbyty Felindre i gael triniaeth radiotherapi.

 

Bydd y llyfryn yn esbonio sut mae eich triniaeth yn cael ei chynllunio a’i rhoi. Bydd yn trafod sgîl-effeithiau y gallech eu dioddef, a bydd yn dweud wrthych sut i gael mwy o wybodaeth a chymorth.

 

Darperir geirfa ym mhen blaen y llyfryn hwn i’ch helpu i ddeall unrhyw eiriau a all fod yn anghyfarwydd i chi. 

 

Mae rhifau ffôn cyswllt ar ddiwedd y llyfryn hwn.

 

Gobeithio y bydd yn ateb eich cwestiynau. Holwch ni os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill nad ydym wedi ymdrin â nhw.

 

Dewch â rhestr o’r holl feddyginiaethau rydych yn eu cymryd gyda chi bob tro rydych yn dod i Felindre.

 

 

 

Ni chaniateir ysmygu ar dir na thu mewn i Ysbyty Felindre. Os oes angen help arnoch i roi’r gorau i ysmygu, gofynnwch i ni.

 

 

Mae’r wybodaeth hon yn seiliedig ar dystiolaeth a chaiff ei hadolygu’n flynyddol.

Cynnwys

                                                                           Tudalen

 

Cyflwyniad                                                           1

Geirfa                                                                  3

Beth yw radiotherapi?                                           4

Y tîm radiotherapi                                                 4

Trefniadau cludiant                                               6

Cynllunio eich radiotherapi allanol                         6

Dechrau radiotherapi allanol                                 9

Radiotherapi mewnol                                           13

gydag anesthetig                                           13

heb anesthetig                                              15

Sgîl-effeithiau radiotherapi                                    16

Sgîl-effeithiau hirdymor                                        19

Cael rhyw yn ystod triniaeth                                  19

Ar ôl i driniaeth ddod i ben                                    20

Rhifau ffôn cyswllt                                                22

Llinellau cymorth a gwefannau                             23

             

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Geirfa

 

Anesthetig: ffordd o wneud i chi gysgu neu i beidio â theimlo unrhyw anghysur tra bod archwiliad yn mynd rhagddo

 

Cyfrif gwaed: caiff sampl o waed ei chymryd a’i phrofi i gyfrif nifer y mathau gwahanol o gelloedd gwaed sydd gennych

 

Cemotherapi: triniaeth ar gyfer canser drwy ddefnyddio cyffuriau

 

Radiotherapi allanol: caiff ymbelydredd ei roi drwy beiriant y tu allan i’r corff

 

Hysterectomi: llawdriniaeth i dynnu’r groth ac o bosibl, yr ofarïau a cheg y groth

 

Radiotherapi mewnol: caiff tiwb (neu diwbiau) ei osod yn y corff a chaiff ymbelydredd ei roi y tu mewn i’r corff

 

Ffisegydd – unigolyn sy’n gyfrifol am gynllunio technegol o ran triniaeth radiotherapi

 

Radiograffydd therapiwtig unigolyn a fydd yn cynllunio neu’n rhoi eich triniaeth radiotherapi

 

Pelydrau-x, electronau, pelydrau gama: mathau o ymbelydredd

 

 

 

 

Beth yw radiotherapi?

Mae eich meddyg wedi penderfynu y byddech yn elwa o gwrs o radiotherapi i’ch croth, ceg y groth neu’r fagina.

 

Y driniaeth fwyaf cyffredin ar gyfer canser ceg y groth a’r groth yw radiotherapi. Gellir ei roi naill ai yn allanol, yn fewnol neu’r ddau.

 

Mae radiotherapi yn driniaeth ar gyfer canser sy’n defnyddio ymbelydredd ynni uchel, pelydrau-x fel arfer.  Mae math a chyfanswm yr ymbelydredd byddwch yn ei gael yn cael ei gyfrifo’n ofalus i niweidio’r celloedd canser. Mae hyn yn eu hatal rhag rhannu’n iawn, felly maen nhw’n cael eu dinistrio. Mae eich triniaeth yn cael ei chynllunio i osgoi cymaint o feinwe iach â phosibl. Fodd bynnag, effeithir ar ychydig o feinwe iach, sy’n achosi sgîl-effeithiau. Byddwn yn dweud mwy wrthych am hyn ar dudalen 16.

 

Mae modd rhoi triniaeth radiotherapi ar ei phen ei hun, ar ôl llawdriniaeth neu yn hytrach na llawdriniaeth. Mae modd ei rhoi ynghyd â chemotherapi neu ar ei ôl hefyd.

 

 

Y tîm radiotherapi fydd yn gofalu amdanoch

Oncolegydd clinigol yw’r meddyg sy’n gyfrifol am eich gofal. Bydd ef neu hi, neu un o aelodau’r tîm, yn penderfynu ar eich triniaeth radiotherapi. Bydd yn cael ei gynllunio gan dîm o ffisegwyr a radiograffwyr cynllunio. Radiograffwyr therapiwtig fydd yn rhoi’r driniaeth i chi.

 

Mae Felindre yn ysbyty addysgu, felly efallai y bydd eich tîm yn cynnwys radiograffydd sy’n fyfyriwr, myfyriwr nyrsio neu fyfyriwr meddygol. Dywedwch wrthym os nad ydych eisiau i fyfyriwr fod yn bresennol.

 

Byddwn yn gofyn am eich enw, cyfeiriad a dyddiad geni bob tro rydych yn dod i’r adran radiotherapi. Y rheswm dros hyn yw bod ein staff wedi’u hyfforddi i ailwirio eich manylion personol er mwyn osgoi unrhyw ddryswch.

 

Yn ystod eich triniaeth, byddwch yn cael eich gweld mewn clinig adolygu. Mae nifer yr achlysuron y byddwch yn cael eich gweld yn dibynnu ar hyd a math y driniaeth rydych yn ei chael, yn ogystal â sut rydych chi’n teimlo. Yn y clinigau hyn, byddwch yn gweld radiograffydd adolygu arbenigol neu feddyg. Gallech hefyd weld deietegydd, os oes angen.

 

Mae gan eich radiograffwyr adolygu arbenigol hyfforddiant ychwanegol i’ch cynghori ynglŷn â’r ffordd orau i fynd i’r afael ag unrhyw sgîl-effeithiau triniaeth. Gallan nhw hefyd roi presgripsiwn ar gyfer meddyginiaeth i helpu. Yn ystod y clinig, byddwch yn cael cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau a thrafod unrhyw broblemau sydd gennych. Mae’n amser da i ofyn am unrhyw bresgripsiynau amlroddadwy y mae eu hangen arnoch.

 

Mae radiograffwyr gwybodaeth a chymorth ar gael hefyd i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i chi a’ch teulu. Gallwch chi neu eich teulu siarad â nhw dros y ffôn (mae’r rhif ffôn ar dudalen 22). Gallwch hefyd ofyn i’r radiograffwyr cynllunio neu drin wneud yr apwyntiad ar eich rhan.

 

 

 

 

Faint o driniaethau fydd eu hangen arnaf?

Mae radiotherapi fel arfer yn cael ei roi i chi o ddydd Llun i ddydd Gwener fel claf allanol. Byddwch yn cael pum wythnos o radiotherapi allanol. Os ydych hefyd yn cael triniaeth fewnol, caiff ei rhoi ar ddiwedd eich triniaeth allanol. Mae’n arferol cael hyd at bum triniaeth fewnol.

 

 

Cael cemotherapi gyda radiotherapi

Bydd eich meddyg yn trafod gyda chi p’un ai cemotherapi yw un o’ch dewisiadau triniaeth. Os ydych yn cael cemotherapi, byddwn yn esbonio’r rhan hon o’ch triniaeth ac yn rhoi gwybodaeth ysgrifenedig i chi.

 

 

Cludiant i Felindre ac oddi yno

Mae cludiant ar gael gan yr ysbyty, ond mae’r rhan fwyaf o bobl yn defnyddio eu cludiant eu hunain. Os hoffech ddefnyddio cludiant yr ysbyty, rhowch ddeuddydd o rybudd i ni drefnu hyn i chi. Mae galw mawr am gludiant, felly bydd angen i chi fod yn barod i aros am beth amser i gael eich casglu a’ch dychwelyd adref. Gall rhai grwpiau cymorth lleol drefnu cludiant hefyd (gweler rhifau ffôn cyswllt ar dudalen 22).

 

 

Cynllunio eich triniaeth radiotherapi allanol

Er mwyn sicrhau y caiff eich radiotherapi ei gynllunio’n gywir, bydd angen i chi gael sgan CT. Bydd y sgan yn rhoi llun manwl i’ch meddyg o’r man y mae angen ei drin.

Byddwn yn trefnu apwyntiad i chi ddod i’r adran gynllunio sydd ym mhen blaen Ysbyty Felindre.

 

Yn yr apwyntiad hwn, byddwch fel arfer yn gweld eich meddyg i drafod buddion a risgiau radiotherapi. Bydd yn gofyn i chi lofnodi ffurflen ganiatâd, os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny. Eich penderfyniad chi yw cael y driniaeth, felly trafodwch unrhyw broblemau neu gwestiynau am y driniaeth gyda’ch meddyg neu unrhyw weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall sy’n gofalu amdanoch cyn i chi lofnodi’r ffurflen ganiatâd. 

 

Os ydych chi eisoes wedi llofnodi eich ffurflen ganiatâd i gael triniaeth yn ystod eich apwyntiad claf allanol, efallai mai’r radiograffwyr cynllunio yn unig y byddwch yn eu gweld. Byddant yn esbonio popeth fydd yn digwydd i chi.

 

Hoffem fod gennych bledren sy’n gyfforddus o lawn ar gyfer eich apwyntiad cynllunio.

  • Mae angen i chi wacáu eich pledren
  • Yna yfed 200 – 300ml (2 ½ cwpan) o ddŵr tua 60 munud cyn eich apwyntiad

 

Bydd angen i chi wneud hyn ar gyfer pob un o’ch apwyntiadau triniaeth

 

Caiff y sgan ei roi tra byddwch chi’n gorwedd yn y safle angenrheidiol ar gyfer eich triniaeth. Mae’r sgan yn cymryd rhyw 20 munud fel arfer.

Efallai y byddwn yn gofyn i chi dynnu rhai o’ch dillad fel y gall eich radiograffydd weld eich pelfis. Byddwn yn gofyn i chi orwedd ar y gwely, sy’n eithaf caled, gyda’ch breichiau wedi’u gosod ar draws eich brest. Dywedwch wrth y radiograffwyr os nad ydych yn gyfforddus oherwydd bydd angen i chi aros fel hyn, ac anadlu’n arferol, wrth i ni gwblhau’r sgan. Bydd angen i chi fod fel hyn am bob diwrnod o’ch triniaeth.

 

Yn ystod y sgan, ni fyddwch yn gweld nac yn teimlo dim. Bydd y radiograffwyr yn gadael yr ystafell i droi’r sganiwr ymlaen, ond byddan nhw’n cadw llygad agos arnoch drwy ffenestr fawr.

 

 

Llun sganiwr CT

 

Mae’n bosibl y bydd angen i ni wneud un neu fwy o farciau ar eich croen i’w defnyddio fel pwyntiau cyfeirio ar gyfer eich triniaeth. Mae’n ddefnyddiol i ni farcio’r pwyntiau cyfeirio hyn yn barhaol, ond byddwn yn gofyn am eich caniatâd cyn gwneud hynny.  

 

Byddwn yn rhoi dot bychan trwy osod inc du o dan eich croen gyda blaen nodwydd ddi-haint. Mae’n farc parhaol, ond mae mor fychan â brychni. Bydd hyn yn golygu bod gennym farciau cywir i’ch rhoi yn y safle cywir ar gyfer eich triniaeth bob dydd, fel eich bod chi’n gallu ymolchi yn ystod eich triniaeth.

 

Llun marc inc parhaol

 

Wedi i hyn gael ei wneud, gallwch fynd adref.

 

 

Dechrau radiotherapi

Yn ystod eich apwyntiad cynllunio, byddwn yn gofyn a yw’n well gennych gael eich triniaeth yn y bore neu’r prynhawn. Byddwn yn ceisio trefnu eich apwyntiadau i gyfateb â’r amser sydd orau gennych, ond ni allwn warantu y bydd hyn yn digwydd. Dywedwch wrthym os oes gennych unrhyw anghenion arbennig a all effeithio ar eich apwyntiadau, fel:

  • angen cludiant
  • cael unrhyw driniaeth arall (cemotherapi er enghraifft)
  • anawsterau personol (casglu plant o’r ysgol)
  • anawsterau o ran iaith

 

Mae pryd fyddwch yn dechrau eich triniaeth yn dibynnu ar yr amser mae’n ei gymryd i gynllunio eich triniaeth a’r apwyntiad rhydd nesaf ar y peiriant triniaeth. Os ydych i gael cemotherapi ynghyd â radiotherapi, byddwn yn trefnu i’r apwyntiadau ddechrau ar yr un diwrnod.

 

Byddwn yn anfon llythyr atoch gyda dyddiad ac amser eich apwyntiad a pha beiriant triniaeth y byddwch yn ei gael.  Mae’n bosibl y byddwn yn eich ffonio er mwyn rhoi manylion eich apwyntiad i chi. Byddwn yn rhoi cerdyn i chi gyda gweddill amserau eich apwyntiadau pan fyddwch yn dod ar gyfer eich triniaeth gyntaf.

 

Os oes gennych broblem gyda’ch apwyntiad, ffoniwch y clerc trefnu radiotherapi cyn gynted â phosibl. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 22. Os yw’r peiriant ateb yn dod ymlaen, gadewch eich enw a’ch rhif ffôn yn araf ac yn eglur. Byddwn yn eich ffonio’n ôl cyn gynted â phosibl.

 

Yn eich apwyntiad triniaeth radiotherapi cyntaf

Os ydych yn glaf allanol pan fyddwch yn dod ar gyfer eich triniaeth gyntaf, dewch i fynedfa’r adran radiotherapi, sydd yng nghefn Ysbyty Felindre. Rhowch eich enw a’ch llythyr i’r derbynnydd yn yr ystafell aros radiotherapi. Bydd yn rhoi gwybod i radiograffwyr y peiriant triniaeth eich bod wedi cyrraedd. Bydd hefyd yn dweud wrthych ble i eistedd ac aros, neu’n eich cyfeirio chi yn syth at eich peiriant triniaeth.

 

Os ydych yn glaf preswyl, bydd un o borthorion yr ysbyty fel arfer yn dod i’ch casglu chi a mynd â chi i’r peiriant triniaeth. Gallwch gael triniaeth unrhyw adeg o’r dydd, gan ddibynnu ar pryd mae slot rhydd ar y peiriant triniaeth.

 

Os ydych i gael cemotherapi ar yr un diwrnod â’ch radiotherapi, caiff eich cemotherapi ei roi i chi’n gyntaf fel arfer ac yna, byddwch yn cael eich radiotherapi.

 

Bydd eich radiograffwyr yn siarad â chi cyn i chi gael eich triniaeth gyntaf. Byddwn yn esbonio beth fydd yn digwydd yn ystod eich triniaeth ac yn dweud wrthych beth yw’r sgîl-effeithiau posibl y gallech eu dioddef. Byddwn yn rhoi taflen wybodaeth i chi ynglŷn â gofalu am eich croen yn ystod eich triniaeth. Byddwn hefyd yn rhoi rhestr lawn o apwyntiadau i chi, gan esbonio amseroedd eich adolygiadau ac unrhyw ddyddiau pa na fyddwch yn cael triniaeth.

 

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn teimlo’n bryderus bryd hyn, felly gofynnwch unrhyw gwestiynau sydd gennych. Byddwn yn gwneud ein gorau i dawelu eich meddwl. Efallai y bydd angen i chi ail-lofnodi eich ffurflen ganiatâd cyn i chi gael eich triniaeth gyntaf.

 

Mae mathau gwahanol o beiriannau triniaeth, ond mae’r rhan fwyaf o bobl yn cael eu triniaeth ar Gyflymwr Unionlin (L.A. neu Lin Acc yn fyr). Mae gan bob un rif, felly, er enghraifft, gallech gael eich triniaeth ar LA 4 neu LA 5. Efallai bod y peiriannau LA yn edrych ac yn swnio’n wahanol, ond yr un yw’r driniaeth maen nhw’n ei rhoi.

                                       

 

Yn ystod eich triniaeth radiotherapi

Yn yr ystafell driniaeth LA, byddwn yn gofyn i chi orwedd ar y gwely yn yr un modd ag y gwnaethoch ar gyfer eich apwyntiad cynllunio. Bydd y radiograffwyr yn eich rhoi chi yn eich lle’n ofalus gan ddefnyddio’r marciau cyfeirio parhaol a wnaed adeg cynllunio ac yn symud y peiriant. Pan fyddwch yn y man cywir, byddwn yn gofyn i chi aros yn llonydd ac anadlu’n arferol.

 

Gall eich triniaeth gael ei chyflwyno o onglau gwahanol. Ar ddiwrnod cyntaf eich triniaeth, byddwn yn gwirio eich lleoliad ym mhob un o’r onglau hyn cyn gadael yr ystafell i ddechrau eich triniaeth.

 

Gall y peiriant gael ei reoli a’i symud i’r onglau triniaeth gwahanol gan y radiograffwyr y tu allan i’r ystafell. Pan mae’r peiriant yn symud, gall ddod yn agos atoch ond ni fydd yn cyffwrdd â chi. Pan mae’r peiriant yn cael ei droi ymlaen, ni fyddwch yn teimlo dim, ond efallai y byddwch yn ei glywed yn hymian.

 

Bydd y radiograffwyr yn eich gwylio’n ofalus ar sgriniau teledu. Os byddwch yn teimlo’n anghyfforddus tra bo’r peiriant ymlaen, codwch eich llaw. Gallwn ddiffodd y peiriant ac ailgychwyn y driniaeth pan fyddwch yn gyfforddus eto.

 

Llun peiriant triniaeth LA

 

Fel arfer, ar ddiwrnod cyntaf eich triniaeth, ac yn rheolaidd wedi hynny, byddwn yn tynnu lluniau o’r man sy’n cael ei drin. Mae’r delweddau yn ein helpu i benderfynu a oes angen i ni wneud unrhyw addasiadau i’ch lleoliad neu driniaeth. 

 

Bydd angen i chi orwedd yn llonydd ar y gwely driniaeth am tua 10-15 munud. Bydd y driniaeth ei hun (pan fyddwch yn clywed sŵn hymian) fel arfer yn cymryd ychydig funudau yn unig.

 

Pan fydd eich triniaeth wedi gorffen, bydd y gwely ar lefel uchel, felly arhoswch yn llonydd hyd nes i’r radiograffwyr ostwng y gwely. Gallwch wedyn ddod oddi ar y gwely a gadael yr ystafell driniaeth.

 

 

Triniaeth radiotherapi mewnol

Ar ôl eich radiotherapi allanol, mae’n bosibl hefyd y byddwch yn cael radiotherapi mewnol. Mae’r math hwn o radiotherapi’n cynnwys gosod tiwbiau yn eich croth, ceg y groth a’r fagina. Caiff y rhain eu cysylltu â ffynhonnell ymbelydrol sy’n gallu rhoi dos uchel o ymbelydredd yn y man hwn heb niweidio’r feinwe iach gyfagos.

 

Microselectron yw’r enw ar y peiriant sy’n rhoi’r driniaeth hon. Mae modd rhoi’r driniaeth hon gydag anesthetig neu hebddo. Bydd eich meddyg yn esbonio pa driniaeth y byddwch yn ei chael.

 

 

 

 

 

Triniaeth fewnol gydag anesthetig

Os ydych yn cael triniaeth i’ch croth, byddwch yn cael anesthetig. Bydd yn caniatáu i’r meddyg eich archwilio heb unrhyw anghysur. Bydd angen tri achos o driniaeth arnoch. Caiff y rhain eu rhoi unwaith yr wythnos, ar ddydd Iau fel arfer.

 

Bydd angen i chi fynd i glinig asesu cyn anesthetig. Bydd yr anesthetydd yn esbonio eich triniaeth.

 

Yn ystod y driniaeth hon, caiff un tiwb ei roi yn eich croth a chaiff dau diwb eu gosod yn ymyl ceg y groth. Gwneir hyn yn y theatr llawdriniaeth.

 

Tra byddwch yn cysgu, byddwn yn mynd â chi i’r ystafell driniaeth drws nesaf. Caiff y tiwbiau eu hatodi i beiriant triniaeth. Pan gaiff y peiriant triniaeth ei droi ymlaen, bydd y ffynhonnell ymbelydrol yn teithio o’r peiriant i’r tiwbiau o amgylch eich croth a cheg eich croth.

 

 

 

Ar ôl eich triniaeth, bydd eich meddyg yn tynnu’r tiwbiau. Byddwn yn mynd â chi i’r ward pan fyddwch wedi dod dros yr anesthetig.

 

 

Bydd y driniaeth gyfan yn cymryd tua 10 munud.

 

Mae’n bosibl y byddwch yn gwaedu ychydig o’ch fagina ar ôl eich triniaeth. Mae’n bosibl hefyd y byddwch ychydig yn anghyfforddus. Gallwn roi cyffuriau lleddfu poen i chi os bydd hyn yn digwydd.

 

 

Byddwch yn gallu mynd adref yn ddiweddarach ar yr un diwrnod os nad oes llawer o waedu a’ch bod yn teimlo’n dda.

 

 

Radiotherapi mewnol heb anesthetig

Os ydych wedi cael hysterectomi, byddwch yn cael radiotherapi mewnol heb anesthetig. Bydd angen pum triniaeth arnoch. Caiff y rhain eu rhoi unwaith y dydd am bum niwrnod.

 

Mae’r driniaeth hon yn cynnwys gosod tiwb yn eich fagina. Bydd eich radiograffydd yn cynnal archwiliad mewnol yn eich apwyntiad triniaeth fewnol cyntaf er mwyn penderfynu ar y maint cywir o diwb i chi.

 

Mae’r ystafell drin wedi’i sgrinio er mwyn preifatrwydd. Byddwn yn gofyn i chi dynnu eich dillad isaf ac i orwedd ar y gwely. Bydd eich radiograffydd yn gosod y tiwb yn eich fagina. Yna caiff y tiwb ei atodi i’r peiriant triniaeth a chaiff y peiriant ei droi ymlaen. Bydd y ffynhonnell ymbelydrol yn teithio o’r peiriant i’r tiwb yn eich fagina.

 

 

 

Cylinder:

Cylinder:

 

 

Tube

 

 

 

 

 
 

 

 

Diagram o ble y caiff y tiwb ei osod

 

Ar ôl eich triniaeth, bydd eich radiograffydd yn tynnu’r tiwbiau’n ofalus.

Bydd y driniaeth gyntaf yn cymryd tua 15 munud.

 

 

Sgîl-effeithiau radiotherapi

Nid ydych fel arfer yn dioddef sgîl-effeithiau ar unwaith, ond mae ymateb pawb yn wahanol. Mae rhai pobl yn dioddef ychydig iawn o sgîl-effeithiau. Mae unrhyw effeithiau y byddwch yn eu dioddef fel arfer yn dechrau ar ôl tua 2 wythnos o driniaeth. Mae’r sgîl-effeithiau yn effeithio ar rannau’r corff rydym yn eu trin yn unig. Byddwn yn rhoi llawer o gymorth a chyngor i chi ofalu a rheoli’r effeithiau.

 

Mae radiotherapi yn parhau i weithio tu mewn i’ch corff am hyd at 10 diwrnod ar ôl i chi orffen eich triniaeth, felly bydd unrhyw sgîl-effeithiau rydych yn eu dioddef yn parhau am y cyfnod hwn hefyd. Ar ôl 10 diwrnod, byddwch yn dechrau teimlo’n well, ond mae amser gwella pawb yn wahanol.

 

Blinder

Gall radiotherapi eich gwneud chi deimlo’n fwy blinedig na’r arfer. Dylech wrando ar eich corff a gorffwys os oes angen i chi wneud, ond parhewch â’ch gweithgareddau arferol os ydych yn teimlo y gallwch wneud hynny. Mae rhai pobl yn teimlo y gall ychydig o ymarfer corff helpu gyda’u blinder. Mae rhai pobl yn gallu parhau i weithio, ond mae rhai eraill y teimlo eu bod nhw’n rhy flinedig.

 

Adweithiau’r croen

Gan ddibynnu ar faint o driniaeth sydd ei hangen arnoch, mae’n bosibl y bydd eich croen yn mynd yn binc ac yn gynnes. Efallai y bydd eich adwaith yn datblygu ymhellach, gyda’r croen yn mynd yn sych ac yn cosi. Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio sebon mwyn, fel y brand ‘Simple’. Rydym hefyd yn argymell defnyddio eli dyfrllyd i leithio eich croen. Byddwn yn dweud mwy wrthych ynglŷn â sut i edrych ar ôl eich croen adeg eich triniaeth gyntaf.

 

Dolur rhydd

Gall radiotherapi i’ch pelfis achosi dolur rhydd. Byddwn yn awgrymu newidiadau i’ch deiet neu’n rhoi tabledi i chi er mwyn helpu hyn. Gall dolur rhydd achosi anghysur a phoen yn yr abdomen. Soniwch am hyn wrth radiograffydd eich clinig adolygu neu’ch meddyg os bydd hyn yn broblem.

 

Systitis

Gall radiotherapi lidio leinin eich pledren. Gall hyn wneud i chi deimlo fel eich bod chi eisiau pasio dŵr yn amlach, a gall losgi. Byddwn yn gofyn i chi yfed mwy o ddŵr na’r arfer i helpu i gadw eich wrin yn wanedig. Os bydd y llosgi’n parhau, mae’n bosibl y bydd angen i’ch radiograffwyr anfon sampl o’ch wrin i’w wirio am haint.

 

Symptomau diwedd y mislif

Gall radiotherapi arwain at ddiwedd y mislif yn gynnar. Mae’n bosibl y byddwch yn chwysu (yn enwedig yn ystod y nos), yn cael chwiwiau poeth, yn gwylltio neu â hwyliau ansad, â fagina sych, diffyg chwant rhywiol neu’n pasio dŵr yn amlach. Gofynnwch os hoffech gyngor ar reoli’r symptomau hyn.

 

 

Anffrwythlondeb

Bydd y radiotherapi’n atal eich ofarïau rhag gweithio ac felly, byddwch yn mynd yn anffrwythlon. Siaradwch â’ch meddyg os ydych yn poeni am y sgîl-effaith hon.

 

 

Fagina sych, fagina sy’n culhau neu’n byrhau

Gallai hyn ddigwydd gan fod meinwe greithiog yn datblygu yn eich fagina. Bydd eich fagina hefyd yn llai llaes. Gallai hyn wneud rhyw yn anghyfforddus. Bydd eich radiograffwyr adolygu’n cynnig cyngor i wella’r sgîl-effaith hon. Byddant yn gofyn i chi p’un a fyddech am ystyried defnyddio ymledwyr.

 

Tiwbiau plastig o feintiau gwahanol yw’r rhain y gallwch eu rhoi yn eich fagina, cyn belled ag sy’n gyfforddus i chi, eu troi’n ofalus a’u tynnu allan. Gallwch eu defnyddio am rhwng pump a deng munud, deirgwaith yr wythnos, ym mhreifatrwydd eich cartref eich hun. Cânt eu defnyddio i ymledu’r fagina a lleihau unrhyw feinwe greithiog.

 

Byddwn yn dweud wrthych am ba hyd y bydd angen i chi eu defnyddio. Os ydych yn cael rhyw unwaith neu ddwywaith yr wythnos, gallwch ddefnyddio’r ymledwr yn llai aml. Gweler tudalen 19 am gyngor ar gael rhyw yn ystod eich triniaeth.

 

Sgîl-effeithiau hirdymor neu barhaol

Gall unrhyw effeithiau hirdymor ddatblygu misoedd neu hyd yn oed flynyddoedd ar ôl i’ch triniaeth ddod i ben. Bydd eich meddyg yn trafod y rhain gyda chi.

 

Er y caiff radiotherapi ei gynllunio’n fanwl, caiff rhan fach o’r meinwe arferol ei drin. Er bod hyn yn anghyffredin, gallai achosi symptomau fel:  

  • Dolur rhydd  
  • Systitis
  • Gwaedu o’ch pledren, eich fagina neu’ch pen-ôl
  • Os ydych wedi cael peils (haemoroidau) yn y gorffennol, gall y radiotherapi eu llidio neu beri iddynt ailymddangos.

 

Gofynnwch i’ch meddyg neu’ch radiograffydd os ydych am gael rhagor o wybodaeth am hyn.

 

Cael rhyw yn ystod triniaeth

Gall triniaeth achosi fagina sych ac i feinwe greithiog ffurfio sy’n culhau ac yn byrhau’r fagina. Bydd defnyddio iraid hydawdd mewn dŵr yn ystod rhyw ac wrth ddefnyddio ymledwr yn lleithio eich fagina ac yn eich gwneud yn fwy cyfforddus.

 

Mae rhai menywod yn teimlo eu bod yn gallu parhau i gael rhyw yn ystod triniaeth. Bydd eraill yn teimlo’n rhy anghyfforddus ac nad ydynt yn barod. Mae pawb yn wahanol. Os ydych yn awyddus i wybod p’un a fyddai cael rhyw’n achosi problem yn ystod eich triniaeth radiotherapi, gofynnwch i’ch meddyg neu’ch radiograffydd am gyngor. Mae pob menyw yn wahanol a bydd angen ei chyngor ei hun arni.

 

Os ydych wedi cael hysterectomi, efallai mai’r peth gorau i’w wneud fydd aros am chwe wythnos cyn cael rhyw. Os nad ydych wedi cael hysterectomi, argymhellwn eich bod yn defnyddio dull atal cenhedlu er mwyn osgoi beichiogrwydd.

 

Peidiwch â phoeni os byddwch yn gwaedu ychydig neu’n sylwi ar beth smotiau ar ôl rhyw. Fodd bynnag, os bydd gwaedu’n drwm neu’n parhau, gofynnwch i’ch meddyg neu’ch radiograffydd am gyngor.

 

Gall ailgychwyn rhyw cyn gynted â phosibl helpu i wella unrhyw leihad mewn synhwyriad rhywiol a achosir gan lawdriniaeth.

 

Os hoffech ragor o wybodaeth am faterion rhywioldeb a achosir gan ganser, cysylltwch â’r tîm gwybodaeth a chymorth neu elusennau cenedlaethol a restrir ar dudalen 22.

 

 

Gorffen eich triniaeth radiotherapi

Tuag at ddiwedd eich triniaeth neu ar ddiwrnod olaf eich triniaeth, byddwn yn rhoi apwyntiad dilynol i chi mewn clinig gyda’ch meddyg. Bydd hyn fel arfer rhwng chwech ac wyth wythnos ar ôl gorffen eich triniaeth. Yn yr apwyntiad hwn, bydd eich meddyg yn archwilio eich fagina yn ofalus iawn. Mae’n bosibl hefyd y byddwch yn cael prawf gwaed ac y byddwn yn gwneud apwyntiad i chi am sgan CT neu archwiliad mewnol o dan anesthetig.

 

Bydd apwyntiadau dilynol yn y dyfodol hefyd yn cynnwys archwiliad o’ch fagina a phrawf gwaed.

 

Byddwn yn rhoi ffurflen ddilynol i chi. Mae hon yn rhoi manylion am eich apwyntiad i chi, yn ogystal ag enwau a rhifau ffôn y radiograffwyr sy’n eich trin a’r radiograffwyr adolygu. Ffoniwch y radiograffwyr os ydych yn poeni am eich triniaeth neu sgîl-effeithiau ar ôl i’ch triniaeth ddod i ben.

 

Os bydd angen i chi newid eich apwyntiad dilynol, ffoniwch swyddfa eich meddyg. Mae rhif ffôn eich meddyg ar waelod eich ffurflen apwyntiad dilynol.

 

Byddwn yn anfon adroddiad o’ch triniaeth at eich meddyg teulu ar ôl i chi orffen.

 

 

 

 

 

 

 

 

Rhifau ffôn cyswllt

Ysbyty Felindre                                      029 2061 5888

 

Clercod trefnu radiotherapi                      029 2019 6836

 

Radiograffwyr                                 029 2061 5888 est. 6428

Gwybodaeth a Chymorth

 

Radiograffwyr adolygu arbenigol     029 2061 5888 est. 6421

 

Cludiant o Aberdâr

The Rowan Tree Cancer Care                01443 479369

 

Cludiant o Ben-y-bont ar Ogwr

Sandville                                                01656 743344     

 

Cludiant o Ferthyr

Cancer Aid Merthyr                                01685 379633

 

Cludiant o Gwm Rhymni Uchaf

CLURV, Bargoed                                   01443 839326

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Llinellau cymorth a gwefannau

 

Tenovus            

Llinell gymorth: 0808 808 1010 Dydd Llun – dydd Gwener 9 - 4.30pm (peiriant ateb a minicom ar gael)

Gwefan: www.tenovus.com

 

 

Cymorth canser Macmillan                               

Llinell gymorth: 0808 800 0000 Dydd Llun – dydd Gwener 9 – 8pm
Ffôn testun: 0808 808 0121

E-bost:        cancerline@macmillan.org.uk
Gwefan:      www.macmillan.org.uk 
 

 

The Sexual Dysfunction Association   

Llinell gymorth:    0870 774 3571

E-bost:                 info@sda.uk.net
Gwefan:               www.sda.uk.net

 

 

Dim Smygu Cymru                       

0800 085 2219

 

 

 

 

 

 

 

F.PI 24                                                           Rhifyn 7                                             Hydref 2010