Neidio i'r prif gynnwy

Information leaflet on stereotactic radiotherapy (SRT)

Taflen wybodaeth ynghylch Radiotherapi Stereotactig (SRT) i'ch Ymennydd

Mae'r daflen hon yn dweud wrthoch chi am fath o driniaeth radiotherapi o’r enw radiotherapi stereotactig. Bydd y daflen yn esbonio sut mae’ch triniaeth yn cael ei chynllunio a'i rhoi. Bydd yn trafod sgil-effeithiau y gallech eu cael a bydd yn dweud wrthoch chi am sut i gael rhagor o wybodaeth a chymorth. Rhoddir rhifau ffôn cyswllt ar ddiwedd y daflen.

Gobeithio bod y daflen yn ateb eich cwestiynau.  Gofynnwch i ni os oes gennych gwestiynau eraill nad ydyn ni wedi’u cynnwys.

Mae yna eirfa ym mlaen y llyfryn hwn i’ch helpu i ddeall unrhyw eiriau a allai fod yn anghyfarwydd.  

Dewch â rhestr o'r holl feddyginiaethau rydych chi’n eu cymryd, gyda'r dosau, pan fyddwch chi’n dod i gael eich triniaeth radiotherapi.

Ni chaniateir ysmygu ar dir Ysbyty Felindre nac o fewn yr ysbyty. Os oes arnoch chi angen help i roi'r gorau iddi, gofynnwch inni.

Mae'r wybodaeth hon yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn cael ei hadolygu'n flynyddol

Geirfa

Sganiwr CT - peiriant sy'n defnyddio Pelydr-X i wneud sganiau manwl o'ch corff 

Sganiwr MRI - peiriant sy'n defnyddio magnetedd i dynnu lluniau manwl o'ch corff

Maes triniaeth - Mae pob man y mae'r peiriant triniaeth yn pwyntio ato ar eich mwgwd yn cael ei alw’n faes triniaeth.

LA - Dyma'r peiriant triniaeth radiotherapi lle byddwch chi'n cael eich triniaeth (sydd hefyd yn cael ei alw’n gyflymydd llinol neu Linac).

Oncolegydd - meddyg sy'n arbenigo mewn rhoi triniaeth radiotherapi.

Radiograffydd Adolygu – radiograffydd sydd wedi cael hyfforddiant ychwanegol i'ch helpu i ymdopi â sgil-effeithiau radiotherapi ac sy'n gallu rhagnodi meddyginiaeth i chi.

Beth yw radiotherapi stereotactig (SRT)?

Mae'n fath o driniaeth radiotherapi fanwl gywir sy’n cael ei rhoi i ran fach o'r ymennydd i ddinistrio celloedd annormal.  Mae’r cwrs o driniaeth yn cael ei roi mewn dosau cyfartal o’r enw ffracsiynau. Rydyn ni'n rhoi’r cwrs fel hyn am fod hynny’n lleihau effaith yr ymbelydredd ar feinwe normal eich ymennydd. Mae hefyd yn helpu i leihau'r risg o sgil-effeithiau hwyr. Mewn rhai achosion bydd cwrs llawn y driniaeth yn cael ei roi mewn un ffracsiwn ac weithiau mae hyn yn cael ei adnabod fel radiolawdriniaeth stereotactig neu SRS.  Bydd eich Oncolegydd yn siarad â chi am faint o driniaethau y bydd eu hangen.

I sicrhau eich bod yn yr un osgo yn union ar gyfer pob triniaeth, bydd angen ichi wisgo mwgwd arbennig (cragen) yn ystod y driniaeth. Mae'r rhan fwyaf o gleifion yn teimlo bod y gragen driniaeth yn eithaf cyffyrddus i'w gwisgo yn ystod eu sesiynau triniaeth. 

Mae'n bwysig iawn nad ydych chi’n feichiog nac yn beichiogi yn ystod eich cwrs radiotherapi. 

Efallai y bydd angen hyd at dri ymweliad cynllunio cyn ichi ddechrau triniaeth.

Yr ymweliad cynllunio cyntaf - sgan MRI

Efallai y bydd angen ichi gael sgan MRI. Bydd hyn yn cael ei wneud cyn inni wneud eich mwgwd. Bydd yn ein helpu i gynllunio’ch triniaeth.  

Yr ail ymweliad cynllunio - gwneud eich mwgwd.

Mae'r mwgwd sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer eich triniaeth yn cael ei wneud yn yr ystafell fowldio. Mae'r ystafell fowldio yn rhan o'r adran gynllunio ar gyfer triniaeth radiotherapi. Mae wedi’i lleoli ger yr adran cleifion allanol, yn nhu blaen Ysbyty Felindre.

Byddai'n ddefnyddiol pe gallech chi drimio'ch gwallt cyn dod i'r ystafell fowldio. Bydd hyn yn ein helpu i gael ffit dda gyda'r mwgwd triniaeth.

Beth yw mwgwd triniaeth?

Mwgwd plastig yw'r mwgwd triniaeth a byddwch chi'n gwisgo hwn bob dydd pan fyddwch chi'n cael eich triniaeth radiotherapi. Bydd yn gorchuddio'ch pen cyfan i lawr at eich gên. 

Radiotherapy mask for head and neck treatment
Claf mewn mwgwd triniaeth

Sut mae'r mwgwd yn cael ei wneud?

Byddwn ni’n defnyddio plastig cynnes (nid poeth) i wneud argraff o gefn eich pen ac yna blaen eich pen, o'ch talcen i'ch gên. Mae'r ddalen blastig yn llawn tyllau bach, felly byddwch chi'n gallu anadlu yr un fath ag arfer trwy eich trwyn a'ch ceg. 

Mae'r plastig yn gynnes wrth gael ei osod ar eich wyneb a bydd yn cael ei adael i oeri. Dyw hyn ddim yn anghyffyrddus. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei weld yn eithaf braf.

Pa mor hir fydd hyn yn ei gymryd?

Mae'n cymryd tua 45 munud i wneud yr argraff, ond rydyn ni’n gofyn ichi ganiatáu awr ar gyfer eich apwyntiad cyfan.

Y trydydd ymweliad cynllunio – sgan CT

Yn ystod yr apwyntiad hwn, byddwch chi’n trio’ch mwgwd plastig. Yna bydd arnoch chi angen sgan cynllunio CT gyda’r mwgwd ar eich wyneb. 

Yn ystod un o'ch ymweliadau â'r ystafell fowldio neu yn ystod un o’r sesiynau cynllunio, byddwn yn gofyn ichi lofnodi ffurflen i gydsynio i’r driniaeth. Bydd eich meddyg yn esbonio hyn ichi. Gofynnwch unrhyw gwestiynau neu trafodwch unrhyw bryderon sydd gennych.

Pryd fydda i’n dechrau’r driniaeth?

Mae’r driniaeth fel arfer yn dechrau tua phythefnos ar ôl yr ymweliadau cynllunio hyn.  Os oes gennych unrhyw gwestiynau cyn dod i'n gweld, ffoniwch yr ystafell fowldio ar 029 2031 6213 a byddwch chi’n gallu siarad ag aelod o staff yr ystafell fowldio.

Triniaeth

Defnyddir peiriant o’r enw cyflymydd llinellol (linear accelerator neu LA) i roi’r driniaeth ichi.

Bydd pob triniaeth yn cymryd rhwng 30 a 45 munud i'w rhoi. Os mai dim ond un driniaeth rydych chi'n ei chael, fe all gymryd ychydig yn hirach.

Yn ystod pob ymweliad i gael triniaeth bydd eich radiograffwyr yn gosod eich mwgwd triniaeth ac yn sicrhau eich bod mor gyffyrddus â phosibl. Byddan nhw’n symud y peiriant fel ei fod yn y lle iawn ar gyfer eich triniaeth gan ddefnyddio laserau a goleuadau'r ystafell.

Head and Neck patient on treatment couch
Claf ar wely triniaeth

Bydd y radiograffwyr yn gadael yr ystafell i droi'r peiriant ymlaen. Mae’r driniaeth yn cael ei rhoi o sawl cyfeiriad, sy’n cael eu hadnabod fel 'meysydd' neu 'belydrau'. Mae'r radiograffwyr yn eich gwylio'n ofalus ar fonitorau teledu. Os cewch unrhyw broblemau yn ystod y driniaeth, gellir diffodd y peiriant ar unrhyw adeg.

Ni fyddwch yn teimlo unrhyw beth pan fyddwch yn cael eich triniaeth, er efallai y byddwch chi’n clywed y peiriant yn gwneud sŵn.

Truebeam treatment machine
Peiriant triniaeth

Sgil-effeithiau

Dydyn ni ddim yn disgwyl ichi gael llawer o sgil-effeithiau am fod y pelydrau triniaeth a'r dos mor fach. Er hynny, efallai y byddwch chi'n teimlo'n flinedig ac o bosibl yn colli rhywfaint o wallt yn y fan sydd wedi'i thrin.
O bryd i'w gilydd mae rhai pobl yn teimlo'n sâl neu'n cael cur pen. Byddwch chi’n cael eich gweld gan un o'r Radiograffwyr Adolygu yn gyson, gan ddibynnu faint o driniaethau y byddwch chi’n eu cael. Byddan nhw’n gallu rhoi cyngor ichi ar sut i ymdopi ag unrhyw sgil-effeithiau.

Efallai y bydd arnoch chi angen cwrs o dabledi steroidau yn ystod eich radiotherapi. Bydd eich Radiograffydd Adolygu yn rhoi gwybod ichi am hyn pan fyddwch chi’n dod i gael y driniaeth gyntaf.

Camau dilynol

Byddwn ni’n rhoi apwyntiad ichi weld eich meddyg yn ystod eich apwyntiad radiotherapi olaf. Bydd hyn ychydig wythnosau ar ôl ichi orffen eich radiotherapi. Bydd y Radiograffydd Adolygu hefyd yn rhoi galwad ffôn ddilynol ichi un wythnos a chwe wythnos ar ôl i'ch radiotherapi ddod i ben. Byddwn yn parhau i'ch ffonio bob rhyw 3-6 mis am y ddwy flynedd canlynol ond byddwn yn rhoi gwybod ichi am y dyddiadau hyn yn nes at yr amser.

Cysylltwch â'r Radiograffwyr Adolygu os oes gennych unrhyw bryderon ar ôl i'ch triniaeth ddod i ben. 

Rhifau ffôn cyswllt

Ysbyty Felindre 02920 615888    

Radiograffwyr yr Ystafell Fowldio 029 2031 6213

Radiograffwyr gwybodaeth, cymorth ac adolygu 029 2061 5888 est 6421

Cludiant o Ben-y-bont ar Ogwr
Sandville
01656 743344

Cludiant o Ferthyr
Cymorth Canser Merthyr
01685 379633

Cludiant o Rondda Cynon Taf
Rowan Tree
01443 479369

Llinellau cymorth a gwefannau

Llinell gymorth canser Tenovus 0808 808 1010
Elusen sy'n cefnogi pobl â chanser a'u teuluoedd
www.tenovuscancercare.org.uk

Cymorth Canser Macmillan 0808 808 0000        
Elusen sy'n darparu gwybodaeth am bob agwedd ar ganser
www.macmillan.org.uk

Dim Smygu Cymru 0800 085 2219
www.helpafiistopio.cymru

FS 37622

F.PI 14          Rhifyn 8        Gorffennaf 2019

Radiotherapy BSI Accreditation image

Velindre University NHS Trust

Wedi’i adeiladu ganIechyd a Gofal Digidol Cymru