Neidio i'r prif gynnwy

High dose Bracitherapu (HDR)

Bracitherapi cyfradd dos uchel (HDR)

Bracitherapi cyfradd dos uchel (HDR)

 

Beth yw bracitherapi HDR?

Mae bracitherapi yn fath o radiotherapi sy’n cael ei dargedu'n fanwl ac sy’n gallu cael ei ddefnyddio i drin canser y prostad gyda'r bwriad o'i wella. Mae dos uchel o ymbelydredd yn cael ei roi dros funudau i'r chwarren brostad, gan gadw’r dos i'r feinwe normal o'i amgylch mor isel â phosibl.  Mae ffynhonnell ymbelydrol fach (pelen iridiwm) yn teithio trwy nodwyddau sydd wedi'u gosod yn uniongyrchol yn y prostad tra bo’r claf o dan anesthetig.  

 

Pwy all gael bracitherapi HDR?

Mae modd defnyddio bracitherapi HDR i drin cleifion sydd â’r canlynol:

 

 Canser y prostad risg isel

Mae hyn yn golygu PSA < 10, sgôr Gleason o 6, a chyfnod T sy'n hafal i lai na T2a.

Yn y sefyllfa hon cynigir dwy driniaeth bracitherapi ichi, wythnos ar wahân. Fel arfer does dim angen hormonau a radiotherapi pelydrau allanol ychwanegol, er y gall hormonau fod yn ddefnyddiol weithiau am ryw dri mis i grebachu'r prostad.

Canser y prostad risg canolig

T2, Gleason 7, PSA 10 – 20.

Byddwch chi’n cael cynnig un driniaeth bracitherapi a ddilynir ryw 2-3 wythnos wedyn gan dair wythnos o radiotherapi pelydrau allanol. Cyn ichi gael bracitherapi, bydd angen 3-4 mis o bigiadau hormonau arnoch er mwyn cynyddu effeithiolrwydd y driniaeth.

 

Canser y prostad risg uchel

T3 neu T4, Gleason 8 neu fwy, PSA yn fwy nag 20.

Byddwch chi’n cael cynnig un driniaeth bracitherapi ac yna ryw 2-3 wythnos wedyn hyd at 4½ wythnos o radiotherapi pelydrau allanol. Cyn ichi gael bracitherapi, bydd arnoch chi angen hyd at chwe mis o driniaeth hormonau ac mae hyn yn debygol o barhau am hyd at dair blynedd ar ôl cwblhau’r radiotherapi er mwyn cynyddu effeithiolrwydd y driniaeth.

 

Gall rhai pethau eraill effeithio ar eich addasrwydd i gael bracitherapi:

Os oes gennych chi brostad mawr iawn efallai na fydd yn bosibl gosod y nodwyddau’n llwyddiannus heibio esgyrn y pelfis.

Os na allwch chi gael anesthetig.

Os ydych chi mewn mwy o berygl o waedu (e.e. ar warfarin neu foddion teneuo gwaed)

Os oes gennych chi symptomau wrinol difrifol yn barod (er enghraifft llif gwan neu broblemau gwagio'r bledren yn iawn) oherwydd fe allai hyn gynyddu'r tebygolrwydd y bydd angen cathetr ar ôl y driniaeth.

Os oes gennych chi broblemau symudedd difrifol yn eich cluniau

 

Beth yw'r manteision a'r anfanteision?

Manteision:

Mae bracitherapi yn caniatáu i'r prostad a’r canser gael eu trin â dosau uwch o ymbelydredd na radiotherapi pelydrau allanol yn unig, a allai wella'r tebygolrwydd y bydd y driniaeth yn llwyddiannus.

Mae'r dos o ymbelydredd i'r fan amgylchynol iach (y bledren a'r coluddyn) yn is ac fe allai hyn leihau'r risg o sgil-effeithiau.

Mae’r adferiad yn aml yn gyflym ac fel arfer gallwch ddychwelyd i'ch gweithgareddau arferol o fewn wythnos.

Mae'n debygol mai dim ond am ddiwrnod y bydd angen ichi fod yn yr ysbyty ac weithiau dros nos.

Does dim deunydd ymbelydrol ar ôl yn y prostad, felly mae'n ddiogel ichi fod o gwmpas pobl eraill, gan gynnwys plant a menywod beichiog.

 

Anfanteision:

Gall achosi problemau wrinol, problemau’r coluddyn a phroblemau codiad.

Mae angen anesthetig.

Gall gymryd mwy o amser cyn ichi wybod a yw eich triniaeth wedi bod yn llwyddiannus.

Os bydd eich canser yn dychwelyd ar ôl bracitherapi, mae hi fel arfer yn amhosibl cael llawdriniaeth: mewn sefyllfa felly mae modd defnyddio hormonau i drin y canser.

 

Beth mae triniaeth yn ei olygu?

Cyn y driniaeth

Byddwch chi’n cael apwyntiad asesu gyda'ch oncolegydd i drafod y driniaeth, a hefyd gyda’r tîm anesthetig i sicrhau eich bod yn ffit i gael anesthetig.

 

Byddwch chi’n cael rhywfaint o olch antiseptig Octenisan. Defnyddiwch hwn i olchi'r perinëwm (y fan rhwng y pidyn a'r anws) am ddau ddiwrnod cyn y driniaeth.

 

Bydd gwely yn cael ei gadw ichi ar y ward. Ar fore'r driniaeth, gofynnir ichi ddefnyddio enema i sicrhau bod eich rectwm yn wag. Mae hyn yn ein helpu i gael lluniau clir o'ch prostad gan ddefnyddio'r sganiwr uwchsain.

 

Byddwch chi’n cael cwrs o wrthfiotigau ataliol i leihau'r risg o haint ar ôl y driniaeth. I'r rhan fwyaf o gleifion bydd hyn yn golygu cymryd dau wrthfiotig (ciprofloxacin a metronidazole) ddwy awr cyn y driniaeth, chwe awr ar ôl y driniaeth ac eto wedyn fore trannoeth. Rhowch wybod i'ch tîm os oes gennych alergedd i unrhyw wrthfiotigau.

 

Byddwch chi hefyd yn cael presgripsiwn ar gyfer tamsulosin sy'n helpu i ymlacio'r prostad a gwella llif yr wrin. Mae’r dos cyntaf yn cael ei gymryd dri diwrnod cyn y driniaeth bracitherapi, a byddwch chi hefyd yn cael cwrs pedair wythnos i fynd ag e adref gyda chi pan fyddwch chi’n gadael.

Bydd yr anesthetydd yn rhoi anesthetig ichi felly byddwch chi’n cysgu drwy gydol y driniaeth, bydd hyn fel arfer yn para rhwng tair a phedair awr

Unwaith y byddwch chi yn y theatr byddwch chi’n cael cathetr wedi'i osod drwy'r pidyn ac i mewn i'r bledren i ddraenio'r wrin.

 

Bydd chwiliedydd uwchsain yn cael ei osod yn y pen ôl (anws) a bydd y sgan uwchsain yn cael ei ddefnyddio i osod hyd at 20 o nodwyddau yn y prostad yn ofalus. Mae'r nodwyddau'n cael eu gosod yn y croen rhwng gwaelod y pidyn a'r anws (perinëwm).

 

Unwaith y bydd hyn wedi'i wneud bydd eich oncolegydd a'r tîm ffiseg yn defnyddio'r sgan i gynllunio'r driniaeth bracitherapi.

 

Triniaeth

Unwaith y bydd y cynllun triniaeth wedi'i gwblhau byddwch chi’n cael eich symud tra byddwch chi'n dal o dan anesthetig i'r ystafell driniaeth bracitherapi a bydd y driniaeth yn cael ei rhoi gan Radiograffwyr Arbenigol.

 

Yn ystod y driniaeth mae tiwb trosglwyddo ynghlwm wrth bob un o'r nodwyddau sydd wedi'u gosod yn y prostad. Mae ffynhonnell ymbelydrol sydd ynghlwm wrth flaen gwifren yn cael ei throsglwyddo i bob un o'r nodwyddau a'i thynnu yn ei thro yn awtomatig, gan beiriant o'r enw Flexitron.

 

Ar ôl y driniaeth

Unwaith y bydd y driniaeth wedi'i chwblhau, bydd y tiwbiau'n cael eu datgysylltu, bydd y nodwyddau'n cael eu tynnu o'r prostad a gosodir dresin ar y croen rhwng y coesau.

Byddwch chi’n cael eich symud i'r ystafell ddadebru a bydd yr Anesthetydd yn eich deffro.

 

Unwaith y byddwch chi wedi gwella'n ddigonol byddwch chi’n cael eich trosglwyddo i'r ward gyda'r cathetr yn dal yn ei le.

 

Efallai y bydd angen ichi aros i mewn dros nos ar ôl y driniaeth, ond mae'r rhan fwyaf o gleifion yn mynd adref yr un diwrnod. Mae'n gyffredin pasio gwaed yn yr wrin ar ôl y driniaeth. Mae’r cathetr yn cael ei ddefnyddio i olchi'r bledren allan yn araf gyda hylif o fag i atal clotiau rhag ffurfio.

 

Unwaith y bydd y gwaedu wedi gwella digon bydd y tîm yn tynnu'r cathetr ac os byddwch chi’n gallu pasio wrin byddwch chi’n cael mynd adref.

 

Ddylech chi ddim gyrru am 24 i 48 awr ar ôl yr anesthetig. Gofynnwch i aelod o'r teulu neu ffrind fynd â chi adref, neu trafodwch gyda'ch tîm meddygol er mwyn trefnu cludiant ysbyty

Byddwch chi’n cael paracetamol ac ibuprofen i helpu gydag unrhyw boen, a chwrs pedair wythnos o tamsulosin i helpu i wella llif yr wrin. Rydyn ni’n eich cynghori i gael presgripsiwn amlroddadwy o'r tamsulosin am ddau fis gan eich meddyg teulu.

Efallai y byddwch chi’n sylwi ar rywfaint o waed yn eich wrin am ychydig ddyddiau ar ôl eich triniaeth. Efallai y byddwch chi hefyd yn cael rhywfaint o anghysur a chleisiau yn y fan lle cafodd y nodwyddau eu gosod. Efallai y bydd cael eich corff i lawr hefyd yn teimlo ychydig yn anghyffyrddus. Dylai hyn setlo ar ôl ychydig ddyddiau.

Os bydd angen ichi gael radiotherapi pelydrau allanol ar ôl eich bracitherapi, bydd hyn fel arfer yn dechrau ryw 2-3 wythnos ar ôl y bracitherapi.

 

Beth ddylwn i chwilio amdano ar ôl y driniaeth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, cysylltwch â'r tîm gan ddefnyddio un o'r rhifau isod.

Nyrs Glinigol Arbenigol Wroleg

029 2061 5888 estyniad 4639/4681 – 9 am i 5 pm. Gadewch neges os nad oes neb ar gael i gymryd eich galwad. Bydd rhywun yn eich ffonio yn ôl.

Llinell gymorth triniaeth

029 2061 5888 a gofynnwch am y llinell gymorth triniaeth. Ar gael 24 awr.

Os oes gennych unrhyw un neu ragor o’r symptomau isod cysylltwch â’ch tîm neu ewch i’r adran damweiniau ac achosion brys agosaf:

  • Os yw eich wrin yn waedlyd iawn neu os oes clotiau ynddo, gallai hyn olygu bod gennych chi waedu yn eich prostad. Efallai y bydd angen triniaeth ar gyfer hyn cyn gynted â phosibl.
  • Os byddwch chi'n sydyn yn methu pasio dŵr, gallai hyn fod yn ataliad wrinol acíwt. Bydd angen triniaeth ar gyfer hyn cyn gynted â phosibl.
  • Os oes gennych dymheredd uchel (mwy na 38ºC neu 101ºF) gydag oerfel neu hebddo, gall hyn fod yn arwydd o haint.

 

Beth sy'n digwydd wedyn?

Mynd yn ôl i weithgareddau arferol:

Fel arfer gallwch ailddechrau gweithgareddau arferol ychydig ddyddiau ar ôl eich triniaeth. Siaradwch â'ch tîm i gael cyngor mwy penodol am eich sefyllfa neu’ch galwedigaeth unigol.

 

Eich apwyntiad dilynol

Byddwch chi’n cael apwyntiad gyda'ch meddyg neu’ch nyrs ychydig wythnosau ar ôl eich triniaeth. Byddan nhw’n monitro pa mor dda rydych chi’n gwella ar ôl y driniaeth ac yn gofyn am unrhyw sgil-effeithiau. 

 

Dylai’ch lefel PSA ostwng yn raddol i'w lefel isaf (nadir) ar ôl 18 mis i ddwy flynedd. Mae pa mor gyflym mae hyn yn digwydd, a pha mor isel mae eich lefel PSA yn disgyn, yn amrywio rhwng dynion. Os cewch chi driniaeth hormonau yn ogystal â bracitherapi HDR, efallai y bydd eich PSA yn cwympo'n gyflymach. Bydd rhywfaint o PSA yn dal i ymddangos mewn profion oherwydd gall celloedd prostad iach gynhyrchu symiau bach o PSA o hyd.

 

Un arwydd y gallai’ch canser fod wedi dychwelyd yw os yw eich lefel PSA wedi codi 2ng/ml neu fwy uwchlaw ei lefel isaf, neu os yw wedi codi ar gyfer tri neu bedwar prawf PSA yn olynol.

Os bydd eich lefel PSA yn dechrau codi, siaradwch â'ch meddyg neu’ch nyrs am ba driniaeth a allai fod yn addas i chi.

 

Beth yw'r sgil-effeithiau?

Fel pob triniaeth, gall bracitherapi HDR achosi sgil-effeithiau. Bydd y rhain yn effeithio ar bob unigolyn yn wahanol, ac efallai na fyddwch chi’n cael yr holl sgil-effeithiau posibl. Cyn ichi ddechrau triniaeth, siaradwch â'ch meddyg, eich nyrs neu’ch radiograffydd am y sgil-effeithiau. Mae gwybod beth i'w ddisgwyl yn gallu’ch helpu i ddelio â nhw.

Efallai y byddwch chi’n cael mwy o sgil-effeithiau os byddwch chi’n cael bracitherapi HDR a radiotherapi pelydrau allanol gyda'i gilydd – er nad yw hyn bob amser yn digwydd. Gall y sgil-effeithiau hyn ddigwydd fisoedd neu hyd yn oed flynyddoedd ar ôl y driniaeth.

Efallai y byddwch chi hefyd yn cael mwy o sgil-effeithiau os oedd gennych chi broblemau cyn y driniaeth. Er enghraifft, os oedd gennych chi broblemau wrinol, problemau codiad neu broblemau’r coluddyn yn barod, efallai y byddwch chi’n gweld bod y rhain yn waeth ar ôl bracitherapi HDR.

Blinder a lludded

Efallai y byddwch chi'n teimlo'n flinedig am yr ychydig ddyddiau cyntaf ar ôl y driniaeth wrth ichi wella o'r anesthetig. Gall effaith ymbelydredd ar y corff wneud ichi deimlo'n flinedig am fwy o amser, yn enwedig os ydych chi ar therapi hormonau hefyd. Os ydych chi'n codi lawer yn ystod y nos i basio dŵr, gall hyn hefyd wneud ichi deimlo'n flinedig yn ystod y dydd.

Lludded yw blinder eithriadol a all effeithio ar eich bywyd bob dydd. Gall effeithio ar eich lefelau egni, eich cymhelliant a'ch emosiynau. Gall lludded barhau ar ôl i'r driniaeth ddod i ben a gall bara sawl mis.

Problemau wrinol

Yn union ar ôl y driniaeth mae colli gwaed yn yr wrin yn gyffredin. Mae hyn fel arfer yn setlo o fewn ychydig ddyddiau ar ôl y driniaeth. Yn anaml iawn, efallai y bydd angen eich trosglwyddo i'r tîm wroleg i helpu i setlo'r gwaedu.

Gall bracitherapi HDR achosi problemau wrinol, gan gynnwys:

  • Llid yr wrethra a'r bledren (systitis ymbelydredd) a all achosi pigo neu losgi pan fyddwch chi’n pasio wrin.
  • Angen pasio dŵr yn amlach (amledd wrinol)
  • Angen pasio dŵr ar frys (brys wrinol)
  • Anhawster gwagio'r bledren yn iawn (cadw wrin).

Yn anaml, efallai y bydd angen i rai cleifion gael cathetr am gyfnod o fisoedd ar ôl bracitherapi ac ar ôl hynny mae’n gallu cael ei dynnu fel arfer.

 

Problemau codiad

Gall bracitherapi HDR a radiotherapi pelydrau allanol achosi problemau o ran cael codiad a chadw codiad (camweithrediad codiad). Gall hyn waethygu'n raddol dros nifer o flynyddoedd, yn enwedig os ydych chi'n cael y ddwy driniaeth ynghyd â hormonau.

Efallai y byddwch chi’n fwy tebygol o gael trafferth cael codiad os oedd gennych chi unrhyw broblemau codiad cyn y driniaeth.

Efallai y bydd rhai cleifion yn colli teimlad ar hyd y pidyn a gallan nhw hefyd brofi llai o semen yn ystod eu halldafliad.

I rai cleifion, mae triniaethau ar gael a allai eu helpu i adennill eu codiad (siaradwch â'ch meddyg neu’ch nyrs os hoffech chi drafod hyn) er nad yw hyn bob amser yn llwyddiannus.

 

Ffrwythlondeb

Gall bracitherapi eich gwneud yn anffrwythlon, sy'n golygu na fyddwch chi’n gallu cael plant yn naturiol. Ond mae yna siawns o hyd y gallech chi wneud rhywun yn feichiog ar ôl cael bracitherapi. Mae’n bosibl y gallai’r ymbelydredd effeithio ar eich sberm, a gall hyn fod yn niweidiol i unrhyw blant sy’n cael eu cenhedlu, er bod y risg o hyn yn isel iawn. Os yw hyn yn berthnasol i chi, defnyddiwch ddulliau atal cenhedlu i osgoi cael plentyn am gyfnod ar ôl y driniaeth.

 

Problemau’r coluddyn

Mae'r risg o broblemau’r coluddyn yn isel mewn pobl sy'n cael bracitherapi HDR. Ond rydych chi'n fwy tebygol o gael problemau os byddwch chi hefyd yn cael radiotherapi pelydrau allanol

Gall problemau’r coluddyn gynnwys:

  • pasio mwy o wynt
  • ysgarthion rhydd a dyfrllyd (dolur rhydd)
  • llid, poen a gwaedu yn y pen ôl (proctitis).

Mae gwaedu o'r pen ôl yn sgil-effaith brin ar ôl cael bracitherapi HDR. Gall hefyd fod yn arwydd o gyflyrau eraill yn y coluddyn fel clwyf y marchogion, ond mae'n bwysig profi nad canser y coluddyn sydd yno, felly dywedwch wrth eich nyrs neu'ch meddyg teulu am unrhyw waedu. Efallai y byddan nhw’n gwneud profion i ganfod beth sy'n achosi’r gwaedu. Byddan nhw hefyd yn gallu dweud wrthoch chi am driniaethau a all helpu.

 

 

Mae'r wybodaeth hon hefyd ar gael yn Saesneg.

 

 

 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol.  Mae'r wybodaeth yn y daflen hon yn seiliedig ar dystiolaeth.  Fe'i cymeradwywyd gan feddygon, nyrsys a chleifion.  Caiff ei hadolygu a'i diweddaru bob dwy flynedd.

 

 

Velindre University NHS Trust

Wedi’i adeiladu ganIechyd a Gofal Digidol Cymru