Neidio i'r prif gynnwy

Gofalu am eich croen yn ystod radiotherapi

Gofalu am eich croen yn ystod radiotherapi

 

Mae’n bosibl y byddwch yn datblygu adwaith ar eich croen yn ystod eich triniaeth radiotherapi. Bydd y daflen hon yn rhoi gwybod i chi sut i ofalu am eich croen yn ystod eich triniaeth.

 

Mae adweithiau ar y croen fel arfer yn datblygu ar ôl tua phythefnos o driniaeth. Un o’r arwyddion cyntaf y byddwch yn sylwi arnynt o bosibl yw cochni ysgafn a gallai eich croen deimlo’n gynnes. Mae croen pawb yn wahanol felly bydd pawb yn ymateb yn wahanol i’r driniaeth. Ni fydd croen rhai pobl yn adweithio rhyw lawer, yn dibynnu ar y rhan o’r corff sy’n cael ei thrin.

 

Mae rhai mathau o sebon a gel cawod yn cynnwys cemegolion, a allai lidio eich croen a gwneud yr adwaith ar eich croen yn waeth. Dylech ddefnyddio sebon neu gel cawod mwyn ac osgoi unrhyw gynhyrchion â phersawr cryf. Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio’r cynhyrchion canlynol:

 

  • Sebon a gel cawod Simple
  • Sebon a gel cawod Dove
  • Sebon a gel cawod Neutralia
  • Sebon a gel cawod Nivea

 

Gellir defnyddio cynhyrchion eraill hefyd.  Gofynnwch i’ch radiograffyddion os allwch chi ddefnyddio eich sebon neu eich gel arferol.

Cyngor cyffredinol

Dilynwch y cyngor hwn i gadw eich croen mewn cyflwr da. Mae’r cyngor hwn ar ofalu am y croen ond yn berthnasol i’r rhan o’r croen sy’n cael ei thrin. Gallwch ddefnyddio eich cynhyrchion arferol ar weddill eich corff.

 

  • Golchwch yr ardal sy’n cael ei thrin gyda dŵr cynnes.
  • Sychwch yr ardal sy’n cael ei thrin yn ofalus. Peidiwch â rhwbio’r ardal.
  • Er mwyn lleithio’r ardal sy’n cael ei thrin, rydym yn argymell eich bod yn defnyddio eli Epaderm, ddwywaith y dydd.
  • Peidiwch â rhoi unrhyw beth rhy boeth na rhy oer ar yr ardal sy’n cael ei thrin. Peidiwch â defnyddio poteli dŵr poeth na phaciau oer.
  • Mae’n bosibl y byddwch yn teimlo’n fwy cyffyrddus yn gwisgo dillad llac os yw eich croen yn ddolurus.
  • Peidiwch â gadael i’r ardal sy’n cael ei thrin ddod i gysylltiad â heulwen cryf.
  • Gallwch fynd i nofio os nad yw eich croen yn ddolurus neu wedi torri.  Gwiriwch gyda’ch radiograffyddion, gan y byddant yn gallu rhoi cyngor unigol i chi.

 

Rhowch wybod i’r radiograffyddion sy’n eich trin os fydd yr adwaith ar eich croen yn mynd yn ddolurus neu os fydd pothelli’n ymddangos ar eich croen. Byddant yn rhoi cyngor i chi ac yn eich atgyfeirio at ein radiograffyddion adolygu os bydd angen. Gallwn argymell mathau eraill o elïau a rhwymynnau i esmwytho eich croen a’i helpu i iachau.

 

Os ydych yn dioddef o ecsema neu soriasis, dylech barhau i ddefnyddio eich elïau arferol.

 

Gofalu am y croen yn ystod radiotherapi i’r wyneb, y pen a’r gwddf

 

  • Dilynwch y cyngor cyffredinol ar dudalen 2.
  • Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio eli Epaderm ddwywaith y dydd o ddechrau eich triniaeth. Mae’n bosibl y bydd angen i chi roi’r eli ymlaen yn fwy aml wrth i’r adwaith ar y croen fynd yn waeth.
  • Os fydd pothelli yn dechrau ymddangos ar eich croen neu os fydd eich croen yn dechrau pilio, rhowch wybod i’r radiograffyddion sy’n eich trin neu eich radiograffyddion adolygu cyn gynted â phosibl. Byddant yn gallu rhoi gwybod i chi am elïau eraill i’w defnyddio.
  • Os fydd yr adwaith ar eich croen yn mynd yn ddolurus iawn, gallai achosi poen neu deimlo’n anghysurus. Gall eich meddyg neu eich radiograffyddion adolygu ragnodi cyffuriau lleddfu poen i geisio gwella hyn.
  • Gallwch eillio’r ardal sy’n cael ei thrin ond rydym yn eich cynghori i ddefnyddio eilliwr trydanol neu eilliwr batri. Peidiwch â defnyddio unrhyw bersawr neu eli ar ôl eillio.
  • Y peth gorau yw osgoi defnyddio colur ar yr ardal rydym yn ei thrin.
  • Dylech osgoi gwisgo unrhyw ddillad a allai rwbio’r ardal sy’n cael ei thrin fel coleri, teis neu ddillad tynn.
  • Gallwch barhau i olchi eich gwallt ond dylech ddefnyddio siampŵ ysgafn neu siampŵ i fabanod.
  • Dylech osgoi triniaethau gwallt fel pyrmiau neu liwio’r gwallt yn ystod eich triniaeth. Rydym yn argymell eich bod yn aros hyd nes bod eich croen wedi iachau’n gyfan gwbl ar ôl triniaeth.
  • Peidiwch â defnyddio sychwyr gwallt neu gymhorthion steilio â gwres eraill os ydych yn cael triniaeth i’ch pen. Gallwch eu defnyddio os ydych yn cael triniaeth i’ch wyneb neu’ch gwddf.
  • Fel arfer, rydym yn argymell i chi beidio â nofio os ydych yn cael radiotherapi i’r pen neu’r gwddf.

 

Gofalu am y croen yn ystod radiotherapi i ardal y frest

 

  • Dilynwch y cyngor cyffredinol ar dudalen 2.
  • Gallwch ddefnyddio diaroglydd ar yr ochr sy’n cael ei thrin cyn belled â nad yw’n cynnwys alwminiwm. Rydym yn argymell defnyddio:
      • Bionsen
      • Pitrok natural crystal
  • Bydd defnyddio eli Epaderm ar eich brest yn helpu i leithio’r croen. Nid oes rhaid i chi ddechrau defnyddio’r eli nes eich bod yn dechrau datblygu adwaith ar eich croen.  Fodd bynnag, os byddwch eisiau dechrau defnyddio’r eli o ddechrau eich triniaeth, dylech ei ddefnyddio ddwywaith y dydd.
  • Dylech barhau i wisgo bra cyffyrddus yn ystod eich triniaeth. Gall bra chwaraeon neu fra o arddull top cwta fod yn fwy cyffyrddus. Dylai menywod sydd â brestiau mwy barhau i wisgo bra yn ystod triniaeth, gan fod hyn yn helpu i atal eich croen rhag mynd yn ddolurus o dan y frest.
  • Gwisgwch ddillad cyffyrddus a llac i osgoi rhwbio.
  • Gallwch ddefnyddio eilliwr trydanol neu eilliwr batri i eillio o dan eich cesail. Fodd bynnag, dylech fod yn fwy gofalus os ydych wedi cael llawdriniaeth ar eich brest a’ch cesail, gan y gall hyn achosi diffyg teimlad o dan eich cesail.

 

Gofalu am y croen yn ystod radiotherapi i’r anws, y rectwm neu’r fylfa

 

  • Dilynwch y cyngor cyffredinol ar dudalen 2.
  • Defnyddiwch eli Epaderm ddwywaith y dydd ar yr ardal hon o ddechrau eich triniaeth er mwyn cadw eich croen yn llaith.
  • Wrth i’ch croen fynd yn ddolurus, gallai elïau eraill fod yn fwy defnyddiol. Gofynnwch i’ch radiograffyddion adolygu ddweud wrthych pa fathau o elïau i’w defnyddio neu i drefnu presgripsiwn ar eich cyfer.
  • Mae’n bosibl y byddwch yn fwy cyffyrddus yn gwisgo dillad isaf llac a dillad llac os yw eich croen yn ddolurus.
  • Mae’n bosibl y bydd angen cyffuriau lleddfu poen arnoch os yw’r adwaith ar eich croen yn boenus neu’n anghyffyrddus. Bydd eich meddyg neu eich radiograffyddion adolygu yn dweud wrthych pa gyffur yw’r un gorau.
  • Gofynnwch i gael gweld y radiograffyddion adolygu os yw’r eli rydych yn ei ddefnyddio yn stopio bod yn effeithiol.  Mae gennym lawer o elïau a rhwymynnau gwahanol a allai fod yn fuddiol i chi.
  • Fel arfer, rydym yn argymell i chi beidio â nofio os ydych yn cael radiotherapi i’r rhan hwn o’r corff.

 

Ôl-ofal

Gall yr adwaith ar eich croen waethygu am hyd at bythefnos ar ôl i’ch triniaeth ddod i ben. Bydd y radiograffyddion sy’n eich adolygu neu’n eich trin yn rhoi gwybod i chi os fydd hyn yn debygol o effeithio arnoch chi. Dylech barhau i ddefnyddio eli Epaderm nes bydd yr adwaith ar eich croen yn dechrau gwella. Gallwch barhau â’ch arferion gofal croen arferol unwaith y bydd unrhyw adwaith wedi diflannu’n gyfan gwbl. Gallai pa mor hir y bydd hyn yn ei gymryd ddibynnu ar ba ran o’r corff sydd wedi cael ei thrin.

 

Os ydych angen unrhyw gyngor ar ofalu am eich croen ar ôl i’ch triniaeth ddod i ben, ffoniwch y radiograffyddion sy’n gweithio yn eich clinig adolygu ar 029 2061 5888 est 6421 a siaradwch gydag aelod o’r tîm.

 

Maen nhw ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.30am -5pm. Mae gwasanaeth peiriant ateb yn weithredol pan nad oes neb ar gael. Byddant naill ai’n trefnu i chi ddod i glinig adolygu neu’n eich cynghori i geisio triniaeth yn nes at adref os yw hynny’n haws i chi.

 

Amlygiad i’r haul

Bydd croen sydd wedi’i drin â radiotherapi bob amser yn fwy sensitif i losg haul. Ni fydd hyn yn effeithio ar groen sydd tu allan i’r ardal sydd wedi cael ei thrin. Rydym yn argymell i chi beidio â thorheulo a defnyddio gwelyau haul ar y rhan o’ch corff sydd wedi cael ei thrin yn ystod y flwyddyn gyntaf ar ôl eich triniaeth. Ar ôl hyn, dylech fod yn ofalus iawn a defnyddio eli haul ffactor 30 o leiaf, bob amser.

 

Mae’r wybodaeth hon wedi’i seilio ar dystiolaeth ac yn cael ei hadolygu’n flynyddol

 

 

 

 

 

 

 

FS 37622

 

 

 

 

 

 

 

F.PI 4                                      Rhifyn 16                                Gorffennaf  2013