Neidio i'r prif gynnwy

Brachytherapi prostad

Brachytherapi prostad

Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth ar fracitherapi’r prostad. Bydd y daflen yn esbonio beth yw hyn a sut caiff ei berfformio. Bydd hefyd yn dweud wrthych am sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu dioddef. Rhoddir rhifau ffôn cyswllt ar ddiwedd y daflen. 

Beth yw bracitherapi prostad?

Mae bracitherapi yn fath o radiotherapi sy’n defnyddio ‘hadau’ ymbelydrol sy’n cael eu gosod yn y prostad. Mae’n driniaeth ar gyfer canser y prostad cyfnod cynnar. Mae hadau ymbelydrol bychain o ïodin (I125) yn cael eu mewnblannu’n uniongyrchol yn chwarren y prostad. Maen nhw’n aros yn eu lle yn barhaol ac yn rhoi lefelau isel o ymbelydredd ar gyfer oddeutu blwyddyn.

Mae pob hedyn yn 5mm o hyd.

Beth sy’n digwydd adeg bracitherapi’r prostad?

Mae bracitherapi’r prostad yn weithred dau gam. Yn gyntaf, byddwch yn cael asesiad anesthetig ac yna’r mewnblaniad hadau.

Asesiad anesthetig

Bydd angen i chi fynd i Felindre i gael asesiad anesthetig gwpl o wythnosau cyn i chi gael y mewnblaniad. Y rheswm dros hyn yw er mwyn i’r anesthetydd gyfarfod â chi a sicrhau na fydd unrhyw broblemau gyda’r anesthetig.

Y mewnblaniad

Byddwn yn rhoi sebon arbennig i chi olchi am ychydig o ddiwrnodau cyn y mewnblaniad. Bydd hyn yn helpu i leihau’r risg o heintiad ar ôl y mewnblaniad.

Mae’r mewnblaniad yn cael ei osod o dan anesthetig cyffredinol. Mae’n cymryd tua thair awr. Bydd cathetr yn cael ei osod i mewn i’ch pledren.  

Mae’r hadau’n cael eu gosod trwy ddefnyddio nodwyddau main sy’n cael eu rhoi trwy’r perinëwm (y croen rhwng y ceillgwd a’r anws). Bydd yr hadau’n aros yn eu lle pan fydd y nodwyddau’n cael eu tynnu allan. Caiff tua 80 o hadau eu gosod.

Bydd eich cathetr yn cael ei dynnu ar ôl y mewnosodiad, a byddwch yn cael eich symud i’r ward i wella o’r anesthetig.   Bydd rhai pobl yn gorfod aros dros nos, felly dylech ddod â bag dros nos gyda chi.

Cyn i chi adael yr ysbyty, byddwn yn rhoi gwybodaeth i chi ynglŷn â rheoli eich sgîl-effeithiau. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi ynglŷn â’ch apwyntiadau dilynol a meddyginiaeth.

Beth yw'r sgîl-effeithiau?

Yn syth ar ôl y mewnblaniad, efallai y byddwch yn sylwi ar:

  • Waed yn eich wrin – mae hyn yn gyffredin. Mae yfed llawer o ddŵr yn helpu. 
  • Teimlad o losgi wrth basio dŵr.
  • Cleisio ac anghysur lle mae’r hadau wedi cael eu gosod – gall tabledi lladd poen gwan a bath cynnes leddfu hyn.

Gall sgîl-effeithiau gynnwys:

  • Angen pasio dŵr yn aml ac ar frys 
  • Llif wrin gwael a all fod yn anodd ei ddechau
  • Teimlad o losgi wrth basio dŵr
  • Poen ar flaen y pidyn 
  • Angen ysgarthu’n aml
  • Anghysur rhefrol a gwaedu achlysurol 

Mae sgîl-effeithiau’r driniaeth yn dueddol o fod yn fwy difrifol 1-2 wythnos ar ôl y mewnblaniad. Byddan nhw’n setlo’n raddol dros y misoedd wedi hynny. I rai dynion, gall gymryd 9-12 mis i’r sgîl-effeithiau setlo’n gyfan gwbl. Mae ychydig o risg i rai dynion y byddant yn dioddef anymataliad wrinol parhaol, er mae hyn yn llai na 2%.

Beth alla i ei wneud i helpu fy symptomau wrinol?

Ar ôl y mewnblaniad, gall yr wrethra (y tiwb sy'n arwain o'r bledren trwy'r prostad a'r pidyn) fynd yn llidus. Gall hyn ei gwneud hi'n anodd i chi droethi.

  • Mae yfed dau litr y dydd (dŵr, sudd ffrwythau neu ddiod ffrwythau) yn helpu i leddfu rhai o’r symptomau. 
  • Ni ddylech yfed te, coffi a diodydd cola gan fod y rhain yn cynnwys caffein, sy’n gallu adfywio’ch pledren a gwneud rhai o’r symptomau’n waeth.
  • Gall yfed 1 - 2 gwydraid o sudd llugaeron y dydd helpu i leihau’r risg o haint yr wrin. 
  • Os ydych yn codi’n aml yn ystod y nos i basio dŵr, ceisiwch yfed llai am ychydig oriau cyn mynd i’r gwely a chael llymeidiau o ddŵr os oes angen yn ystod y nos. 
  • Gall eistedd i lawr i basio dŵr helpu os yw eich llif wrin yn wael.  
  • Os oes angen i chi aros cyn i wrin ddechrau llifo, gall cael bath cynnes helpu. 

Beth fydd yn digwydd os na allaf droethi ar ôl y mewnblaniad?

Mae canran fach o ddynion yn methu â phasio dŵr yn ystod yr wythnosau sy’n dilyn y driniaeth, a gall fod angen gosod cathetr. 

Os nad ydych yn gallu pasio dŵr, dylech gysylltu â’ch meddyg teulu neu ysbyty lleol ar unwaith. Os byddwch yn cael cathetr wedi’i osod, byddem yn argymell ei fod yn aros yn ei le am 4 i 6 wythnos i ganiatáu i’ch prostad wella ymhellach. Cysylltwch â ni cyn gynted ag y bo modd i ddweud bod gennych gathetr. 

Oes angen i mi gymryd unrhyw dabledi ar ôl y mewnblaniad?

Byddwn yn rhoi gwrthfiotig (Ciprofloxacin) i chi am bum niwrnod. Mae angen i chi ddechrau cymryd hwn ddiwrnod cyn y mewnblaniad.

Rydym yn argymell eich bod chi’n cymryd cyffur o’r enw Tamsulosin ar ddiwrnod y mewnblaniad ac am dri mis ar ôl hynny. Bydd hyn yn gwneud pasio dŵr yn haws. Gall eich meddyg teulu ddarparu presgripsiwn amroddadwy.

Byddwn hefyd yn rhoi ibwproffen i chi i helpu i leddfu unrhyw anghysur ar ôl gosod y mewnblaniad. Os yw’r rhain yn anaddas ar eich cyfer, rhowch wybod i’ch meddyg.

Fydda i’n ymbelydrol ar ôl gosod y mewnblaniad?

Er bod yr hadau’n ymbelydrol, nid ydych chi. Mae’r ymbelydredd bron i gyd yn cael ei amsugno yn eich prostad. Fodd bynnag, dylech osgoi cyswllt agos â phlant ifanc a menywod beichiog am y chwe mis cyntaf:

  • Ni ddylai plant eistedd drws nesaf i chi nac ar eich côl am gyfnod hir o amser. Gallwch eu cofleidio am ychydig funudau bob dydd, a gallan nhw aros yn yr un ystafell â chi mor hir ag y dymunwch.

  • Ni ddylai menywod beichiog eistedd yn agos iawn atoch, er enghraifft, ar yr un gwely, am gyfnodau hir o amser. Gallan nhw aros yr un ystafell â chi mor hir ag y dymunwch, a gallwch eu cyfarch fel arfer.

Am ba hyd y mae’r hadau hyn yn ymbelydrol?

Mae’r hadau hyn yn cynhyrchu ymbelydredd am tua blwyddyn, ond byddan nhw’n parhau yn chwarren y prostad yn barhaol.

A all unrhyw un o’r hadau syrthio allan?

Mae’r hadau wedi cael eu mewnosod yn barhaol yn y prostad, ond mae ychydig o risg y gallai hedyn gael ei basio yn eich wrin neu yn ystod gweithgaredd rhywiol yn yr wythnosau cyntaf ar ôl y mewnblaniad. Ni ddylai eich triniaeth fod yn llai effeithiol os yw’r hadau’n syrthio allan. 

Beth sy’n digwydd os ydw i’n pasio hedyn wrth fynd i’r toiled?

Os ydych yn pasio hedyn yn eich wrin, gallwch ei fflysio i lawr y toiled heb unrhyw niwed i chi na’r amgylchedd. Os oes un yn syrthio ar y llawr, codwch ef â phliciwr neu lwy, a’i fflysio i lawr y toiled. Peidiwch â chyffwrdd â’r hedyn â’ch bysedd. Nid oes angen dod yn ôl ag ef i’r ysbyty.ty.

Alla i gael rhyw ar ôl y mewnblaniad?

Gallwch gael rhyw pan fyddwch yn teimlo’n gyfforddus i wneud hynny. Mae ychydig o risg o hedyn unigol yn cael ei basio yn ystod gweithgaredd rhywiol yn ystod yr wythnosau cyntaf. Felly, dylech wisgo condom yn ystod yr wythnosau cyntaf ar ôl y mewnblaniad. Dylech waredu condomau trwy eu lapio ddwywaith a’u gosod yn y bin sbwriel.

Gall eich semen fod yn lliw brown tywyll neu ddu. Mae hyn yn arferol ac yn cael ei achosi gan waedu a ddigwyddodd yn ystod y mewnblaniad. Gall peth alldafliad fod yn boenus, ond mae hyn yn dueddol o setlo gydag amser.

Fydda i’n parhau i allu cael codiad ar ôl cael mewnblaniad hadau?

Gall bracitherapi effeithio ar godiadau, a bydd tua 20-30% o ddynion sy’n cael mewnblaniad hadau yn ei chael hi’n anodd cael codiad wedi hynny. Mae triniaeth ar gael ar gyfer hyn a gall fod yn llwyddiannus yn aml. Cysylltwch â’r Nyrs Arbenigol Wroleg am fwy o wybodaeth. 

Gall bracitherapi hefyd effeithio ar gynhyrchiad semen. Mae’r rhan fwyaf o ddynion yn sylwi bod llai o semen yn dilyn y driniaeth, ac mewn rhai achosion, gall sychu fyny’n gyfan gwbl. Oherwydd hyn, ni fydd y rhan fwyaf o ddynion yn gallu cenhedlu plentyn ar ôl y driniaeth. Mae taflen ar wahân ar gael ar ffrwythlondeb. Gofynnwch i’ch nyrs os hoffech gopi. 

Fydd angen i mi gael sganiau ar ôl y mewnblaniad?

Tua phedair wythnos ar ôl y mewnblaniad, byddwch yn cael sgan CT o’r prostad fel y gallwn weld safle’r hadau.

Sut allwch chi ddweud a yw’r driniaeth wedi gweithio?

Nid oes unrhyw brawf na sgan y gallwn ei wneud yn syth ar ôl y driniaeth i ddweud a yw wedi gweithio. Yn y tymor hir, fodd bynnag, byddwn yn cymryd profion gwaed rheolaidd. Os yw’r rhain yn parhau’n sefydlog, mae’n arwydd da bod canser y prostad dan reolaeth.

Fydda i’n gallu teithio trwy feysydd awyr?

Mae ychydig o risg y gallai’r hadau achosi i larymau diogelwch ganu mewn meysydd awyr. Ar ôl y mewnblaniad, byddwch yn cael cerdyn y dylech gario gyda chi bob amser. Mae’n nodi manylion gweithgaredd ymbelydrol y mewnblaniad.

Gwybodaeth arall

Os digwydd i chi farw o fewn blwyddyn ar ôl gosod yr hadau ïodin, argymhellir eich bod chi’n cael eich claddu yn hytrach na’ch llosgi.

Rhifau ffôn cyswllt

Canolfan Ganser Velindre 029 2061 5888

Nyrs Arbenigol Wroleg 029 2061 5888 est 6991

Ffôn rhydd Tenovus 0808 808 1010
llinell gymorth canser
Dydd Llun - Dydd Gwener 9am - 4.30 ar gyfer ymholiadau cyffredinol ar ganser

Ysgrifennwyd y daflen hon han weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth yn y daflen hon yn seiliedig ar dystiolaeth. Mae’r daflen wedi cael ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Mae’n cael ei hadolygu a’i diweddaru’n flynyddol.

Adolygwyd Ionawr 2010