Neidio i'r prif gynnwy

Diet meddal

Diet meddal

Mae'r daflen hon ar gyfer pobl sy'n profi anawsterau llyncu. Gallai hyn fod oherwydd eich salwch neu eich triniaeth.  Mae'r daflen yn awgrymu syniadau ar gyfer prydau ar gyfer bwydydd meddalach.

Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt y dietegwyr ar ddiwedd y daflen hon.   

Efallai y bydd y cyngor canlynol yn helpu:

  • Ceisiwch fwyta bwydydd sy’n gallu cael eu stwnshio fyny’n rhwydd.
  • I’ch helpu i lyncu, gwnewch yn siŵr nad ydy eich bwyd yn sych drwy ychwanegu grefi neu saws. 
  • Gwnewch yn siŵr bod gennych chi ddiod wrth law, y gallwch eich sipian yn araf wrth fwyta. 
  • Cofiwch gynnwys amrywiaeth eang o fwydydd bob dydd. 

Os yw eich meddyg neu eich dietegydd wedi argymell eich bod chi’n cymryd ychwanegion maethol, dylech eu cymryd rhwng prydau.    

Awgrymiadau – bwyd a diod

Brecwast

  • Grawnfwyd e.e. Uwd, cornflakes, Weetabix neu Ready Brek gyda digon o laeth
  • Iogwrt
  • Pwdinau llaethog
  • Sudd ffrwythau neu ffrwythau meddal e.e. afal wedi’i stwnshio neu ei stiwio, neu fanana wedi’i stwnshio 
  • Bara – os ydych chi’n gallu bwyta bara, tynnwch y crystiau 

Byrbrydau rhwng prydau

  • Diod llaethog e.e. coffi wedi’i wneud gyda llaeth, Ovaltine, Horlicks neu siocled yfed
  • Cacen feddal er enghraifft sbwng gyda chwstard 
  • Bisgedi wedi’u meddalu mewn llaeth neu eu dipio mewn te 
  • Pwdin meddal – gweler y rhestr o bwdinau

Prydau ysgafn

  • Ŵy wedi'i sgramblo neu ei botsio, omled neu gwstard ŵy sawrus
  • Corn-bîff neu bysgod tun wedi’u stwnshio (dim esgyrn)
  • Sbageti tun
  • Caws blodfresych neu facaroni – tun neu wedi'i wneud gartref
  • Tatws wedi'u pobi neu wedi'u stwnshio (dim croen) gyda llenwad meddal fel ŵy neu tiwna mayonnaise

Prif brydau

  • Briwgig eidion, cig oen, porc, cyw iâr neu dwrci gyda grefi neu saws 
  • Pastai bugeiliaid, hash corn-bîff neu bastai caws a thatws
  • Caserol neu stiw – efallai y bydd angen i chi blïo'r cig sydd wedi'i goginio 
  • Pysgod wedi'u ffiledu e.e. tiwna tun, cacennau pysgod, hadog neu leden
  • Pasta gyda bolognaise neu saws caws
  • Risotto llysiau
  • Cyri gwreiddlysieuyn gyda reis

Awgrym: Bydd sawsiau yn helpu i wneud eich bwyd yn llai sych.  Dewiswch o grefi, saws gwyn, saws caws neu bersli, neu defnyddiwch gawl tew heb ei deneuo. 

Gweinwch gyda thatws stwnsh a llysiau (coginiwch tan yn feddal a stwnsiwch os oes angen) 

Pwdinau

  • Pwdinau llaeth e.e. pwdin reis cartref, tun neu dapioca, semolina neu gwstard paced
  • Ffrwythau wedi'u stiwio neu eu stwnshio e.e. bananas, gellyg, ffrwythau tun meddal
  • Cwstard ŵy neu crème caramel
  • Pwdin sbwng neu Dreiffl
  • Jeli llaeth, blancmange neu Mouse
  • Fromage frais neu iogwrt

Rhagor o wybodaeth

Os hoffech chi ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r dietegwyr ar: 
Ffôn: 029 2061 5888 est 2214 
E-bost: Velindre.Dietitians@wales.nhs.uk

Mae’r daflen hon wedi cael ei hysgrifennu gan y dietegwyr yng Nghanolfan Ganser Felindre.  Mae’r daflen wedi cael ei chymeradwyo gan weithwyr iechyd proffesiynol a chleifion. Mae’r daflen yn cael ei hadolygu a’i diweddaru bob blwyddyn. 

Paratowyd Chwe 210 
Adolygwyd Tach 2019