Neidio i'r prif gynnwy

Acordion Treial Clinigol

22/12/20
Cam 1

Mae  Cam 1 o’r Treialon yn profi triniaeth ganser neu gyffur newydd sydd eisoes wedi cael eu profi yn helaeth yn y labordy. Dyma'r tro cyntaf y bydd y driniaeth yn cael ei defnyddio i drin pobl ac fel arfer, mae’n cynnwys nifer fach o gleifion. Ei nod yw cael gwybod:

  • Yr amrediad o ddosau diogel
  • Y sgîl-effeithiau
  • Sut mae'r corff yn ymdopi gyda'r cyffur

Os yw'r driniaeth yn ddiogel, yna bydd yn parhau i'r cam nesaf ac yn cael ei threialu yng ngham 2 o’r treialon.

22/12/20
Cam 2

Mae Cam 2 o’r Treialon yn cynnwys grŵp mwy o gleifion ac yn anelu at ddarganfod:

  • Effeithiolrwydd y driniaeth ar y canser / symptomau
  • y mathau o ganser y mae’n cael yr effaith fwyaf arnynt
  • mwy o wybodaeth am y sgîl-effeithiau
  • y dos gorau a mwyaf diogel i’w ddefnyddio

Os yw'r canlyniadau yn gadarnhaol, bydd y driniaeth yn mynd ymlaen i gam 3 o’r treialon

22/12/20
Cam 3

Mae cam 3 o’r treialon yn cynnwys cannoedd o gleifion, ac yn anelu at:

  • gymharu effeithiolrwydd triniaethau mwy newydd gyda pherfformiad triniaethau safonol
  • gymharu dosau neu ffyrdd o roi triniaethau safonol
  • benderfynu pa mor dda y mae'r cyffur yn gweithio ac am ba mor hir y mae'r effeithiau'n parhau
  • barhau i gasglu gwybodaeth am sgîl-effeithiau
22/12/20
Cam 4

Mae cam 4 o’r treialon yn cael eu gwneud ar ôl i’r cyffur gael ei ddangos i fod yn effeithiol a’i fod wedi cael ei drwyddedu, a'i nod yw pennu

  • pa mor dda mae’r cyffur yn gweithio pan gaiff ei ddefnyddio yn fwy eang nag mewn treialon clinigol
  •  risgiau a manteision tymor hir y cyffur
  • mwy am sgîl-effeithiau prin posibl a diogelwch y cyffur

Mae ein Huned Treialon Clinigol hen sefydlu yma yng Nghanolfan Canser Felindre wedi bod yn rhedeg ers 1994. Gweithio gyda Clinigwyr Canser, rydym yn cymryd rhan mewn dros 200 o dreialon clinigol cenedlaethol a rhyngwladol, ac mae ganddynt thimau ymchwil arbenigol i gynnwys y rhan fwyaf o safleoedd canser.

Os hoffech unrhyw wybodaeth bellach, cysylltwch â'r Uned Treialon Clinigol ar 02920 316222.