Neidio i'r prif gynnwy

Treialon Clinigol

Treialon Clinigol yn Felindre

Mae ein Huned Treialon Clinigol sefydledig yma yng Nghanolfan Canser Felindre wedi bod yn rhedeg ers 1994. Rydym yn gweithio gyda Chlinigwyr Canser, ac yn cymryd rhan mewn dros 200 o dreialon clinigol cenedlaethol a rhyngwladol; mae gennym hefyd dimau ymchwil arbenigol i ymdrin â’r rhan fwyaf o safleoedd canser.

Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Uned Treialon Clinigol ar 02920 316222

Ynghylch treialon clinigol

Mae ymchwil yn hanfodol os yw triniaethau canser yn mynd i gael eu datblygu, a gofal iechyd yn mynd i gael ei wella. Treialon Clinigol yw un o'r camau olaf mewn gwaith ymchwil manwl a gofalus ac mae’n broses a reolir yn wyddonol ar gyfer asesu triniaethau newydd posibl.  Mae Treialon Clinigol yn hanfodol i brofi y tu hwnt i amheuaeth effeithiolrwydd triniaethau newydd.

Mae triniaethau canser newydd yn cael eu profi yn gyntaf yn y labordy, ac os yw’n ymddangos y gallant helpu efallai i drin canser penodol, maent yn cael eu profi mewn lleoliad treial clinigol.  Mae llawer o dreialon yn cymharu triniaethau newydd yn erbyn triniaethau safonol cyfredol. Mae gan bob treial clinigol set o feini prawf cymhwysedd er mwyn sicrhau dilysrwydd gwyddonol a diogelwch cleifion.  Mae hyn yn golygu nad yw pob claf yn gymwys ar gyfer treialon. Fodd bynnag, os bydd claf yn cael ei ystyried yn gymwys, byddant yn cael cynnig gwybodaeth am y treial gan gynnwys beth mae’r treial yn gobeithio ei gyflawni, pa driniaethau ac ati fydd yn cael eu defnyddio a sut, pa weithdrefnau fydd yn cael eu cynnwys, a pha mor aml y bydd disgwyl iddynt fynd i’r ysbyty. Bydd cleifion hefyd yn cael nifer o gyfleoedd i ofyn cwestiynau, ac os ydynt yn hapus i gymryd rhan, byddant wedyn yn llofnodi’r ffurflen ganiatâd. Nid oes rhaid i gleifion gymryd rhan mewn treialon a gellir sicrhau iddynt na fydd hyn yn effeithio ar safon y gofal maent yn ei dderbyn.

Os bydd claf yn penderfynu cymryd rhan mewn treial clinigol ac yn rhoi caniatâd, byddant yn cael eu monitro'n ofalus iawn. Gellir gwneud hyn mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys archwiliadau rheolaidd yn yr ysbyty lle byddant yn cael eu gweld gan eu meddyg a / neu nyrs ymchwil, profion gwaed a sganiau. Mae hefyd yn bwysig sôn, cyn y bydd yr ysbyty yn cytuno i gynnal treial clinigol, mae'n cael ei asesu'n llawn gan banel moeseg y DU sy'n pennu'r diogelwch a sicrhau bod y cwestiynau ymchwil y mae’r treial yn ceisio eu hateb yn foesegol.

Nod yr Uned Treialon Clinigol yw:

  • Sicrhau mynediad i ymchwil o safon i gleifion
  • Rhoi gwybodaeth ar dreialu i gleifion, perthnasau a gweithwyr proffesiynol y GIG
  • Darparu gofal o safon ar gyfer cleifion sy’n cymryd rhan yn yr ymchwil
  • Darparu cefnogaeth ymchwil rhagorol i glinigwyr a thimau canser i hwyluso ymchwil
  • Cyd-drefnu treialon cenedlaethol a rhyngwladol yng Nghanolfan Ganser Felindre ac mewn ysbytai eraill ar draws De-ddwyrain Cymru
  • Casglu gwybodaeth ymchwil gywir
  • Cynnal cysylltiadau agos gyda sefydliadau ymchwil cenedlaethol a chwmnïau fferyllol
  • Hyrwyddo ymchwil canser ar draws De-ddwyrain Cymru

Er mwyn i driniaeth newydd gael trwydded gyffuriau yn y DU a chael ei defnyddio mewn lleoliad clinigol, mae’n rhaid iddi fynd drwy bob un o’r 4 cam a dangos ei bod yn ddiogel ac yn effeithiol.

Canolfan Ganser Felindre, Heol Felindre, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 2TL
Ffôn: 029 2061 5888