Rydym yn cynnig Ffisiotherapi i bob claf mewnol. Yn ystod yr amser hwn rydym yn darparu rhaglenni adsefydlu unigol, sy'n canolbwyntio ar y claf i wneud y gorau o swyddogaeth a chefnogi rhyddhau o'r ysbyty. Ein nod yw annog annibyniaeth er mwyn cynorthwyo unigolion i reoli eu symptomau a sgil effeithiau canser a'i driniaeth fel:
Rydym yn cynnig gwasanaeth cleifion allanol i bob safle tiwmor. Rydym yn cynnal asesiadau un i un ac ymyrraeth triniaeth yn dibynnu ar eich anghenion, gall y gwasanaethau hyn fod wyneb yn wyneb neu drwy rithwir. Yn ogystal, rydym ar hyn o bryd yn gallu cynnig mewnbwn Ffisiotherapi mewn clinigau amlddisgyblaethol ar gyfer canserau'r Ysgyfaint, Niwrolegol a Gynaecoleg. Rhaid i bob atgyfeiriad fod trwy weithiwr gofal iechyd proffesiynol, siaradwch â'ch tîm os ydych chi'n teimlo y byddech chi'n elwa o gael eich atgyfeirio i'r gwasanaeth Ffisiotherapi.
Mae gennym hefyd wasanaeth ffisiotherapi pwrpasol newydd ar gyfer unrhyw ferched sy'n cael triniaeth ar gyfer canser gynaecolegol. Nod hyn yw ceisio helpu a chefnogi merched trwy eu triniaeth a rhoi cyngor ar unrhyw sgîl-effeithiau y gallent eu profi. Cysylltwch â'r adran ffisiotherapi i gael mwy o wybodaeth.