Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth ariannol

Help gyda’ch sefyllfa ariannol

Os ydych yn cael eich effeithio gan ganser, efallai y byddwch eisoes yn ymwybodol o ba mor ddrud mae cael  eich diagnosio gyda chanser yn gallu bod.  Efallai y byddwch chi neu aelod o'ch teulu yn cael costau ychwanegol fel teithio yn ôl ac ymlaen i'r ysbyty. Efallai bod gennych ofynion dietegol arbennig, a chostau gwresogi ychwanegol oherwydd effeithiau’r driniaeth. Yn ogystal, efallai y bydd gennych lai o incwm. Gallai hyn wneud i chi boeni am sut ydych chi’n mynd i fedru ymdopi gydag effeithiau ariannol canser a thalu biliau o ddydd i ddydd.

Gallai mynd i weld ein cynghorydd budd-daliadau helpu. Gall ein cynghorydd helpu llawer o gleifion i gael mynediad at fudd-daliadau a allai fel arall, fod heb eu hawlio. Os hoffech chi gael eich hatgyfeirio, siaradwch gyda'ch nyrs / ymgynghorydd. Mae llawer o sefydliadau sy'n cynnig  cyngor a chefnogaeth ar fudd-daliadau a materion ariannol hefyd. Mae’r rheolau sydd ynghlwm â budd-daliadau yn gallu bod yn gymhleth,  felly mae'n bwysig cael cyngor unigol arbenigol.

Isod, ceir manylion o sefydliadau allanol a allai gynnig cymorth a chyngor ychwanegol.

Mae llawer o sefydliadau yn darparu cyngor a chymorth; efallai y byddwch yn dymuno cysylltu â'ch Cyngor Lleol i gael gwybodaeth am y ddarpariaeth sydd yn cael ei gynnig ganddynt.

Efallai y byddwch yn dymuno siarad â'ch Nyrs arbenigol neu weithiwr iechyd proffesiynol arall hefyd,  a allai eich rhoi mewn cysylltiad â chynghorydd lleol.

Dolenni defnyddiol i ffynonellau eraill o wybodaeth a chyngor

Cymorth Canser Macmillan. Mae Macmillan yn darparu gwybodaeth ar eu gwefan, gallwch hefyd ffonio 0808 808 00 00 a siarad ag ymgynghorydd. https://www.macmillan.org.uk/information-and-support/organising/benefits-and-financial-support (Saesneg yn unig)

Tenovus - Os hoffech gael unrhyw help gyda materion ariannol, ffoniwch Linell Cymorth Canser Rhadffôn Tenovus - 0808 808 10 10 i siarad gydag
http://www.tenovus.org.uk/ (Saesneg yn unig)

Canllaw cyngor gan y Ganolfan Cyngor ar Bopeth. Gwefan sy'n darparu gwybodaeth ar nifer o feysydd https://www.citizensadvice.org.uk/wales/ (Saesneg yn unig)

Direct Gov Gwybodaeth gyffredinol am nifer o feysydd gan gynnwys buddion https://www.gov.uk/ (Saesneg yn unig)

Tîm cyngor budd-daliadau lles Velindre: 02920 316277

Canolfan Ganser Felindre, Heol Felindre, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 2TL
Ffôn: 029 2061 5888