Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor budd-daliadau

Ydych chi eisiau cyngor?

Mae gwasanaeth Cyngor ar Fudd-daliadau Lles Felindre yn cynnig gwasanaeth cyfrinachol, am ddim ar fudd-daliadau lles i bobl sydd yn byw gyda chanser a’u gofalwyr.  Gellir trefnu apwyntiadau gyda’r tîm drwy gysylltu â ni ar 02920 316 277 neu VCC.supportivecare@wales.nhs.uk

Gallwn eich helpu gyda’r canlynol:

  • Gwneud cais am fudd-daliadau sy’n gysylltiedig ag iechyd(e.e. Lwfans Cyflogaeth a Chefnogaeth, Lwfans Byw i’r Anabl, Lwfans Gweini, Taliad Annibyniaeth Bersonol)
  • Gwneud cais am fudd-daliadau ar sail prawf modd (e.e. Cymhorthdal Incwm, Credyd Pensiwn, Budd-daliadau Tai a’r Dreth Gyngor, Credydau Treth)
  • Costau iechyd, fel tripiau i’r ysbyty ac offer arbenigol
  • Gwneud cais am fathodyn parcio i’r anabl
  • Apelio yn erbyn penderfyniadau am fudd-daliadau

Tîm Cyngor ar Fudd-daliadau Lles Felindre: 02920 316277

Dolenni allanol defnyddiol

Canolfan Ganser Felindre, Heol Felindre, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 2TL
Ffôn: 029 2061 5888