Neidio i'r prif gynnwy

Pwyllgorau'r Bwrdd

Mae'r Ymddiriedolaeth wedi sefydlu ystod o bwyllgorau, dan gadeiryddiaeth Aelodau Annibynnol Bwrdd yr Ymddiriedolaeth, sydd â rolau allweddol mewn perthynas â'r Fframwaith Llywodraethu a Sicrwydd ac sy'n ymgymryd, ar ran craffu, trafodaethau datblygu, asesiad o’r risgiau cyfredol a monitro perfformiad ar ran y Bwrdd, mewn perthynas â sbectrwm eang o swyddogaethau'r Ymddiriedolaeth a'i rolau a'i chyfrifoldebau.

Mae'r pwyllgorau yn darparu adroddiadau rheolaidd i Fwrdd yr Ymddiriedolaeth i gyfrannu at ei asesiad o sicrwydd.  Mae yna hefyd draws-gynrychiolaeth rhwng Pwyllgorau i gefnogi'r cysylltiad rhwng busnes pwyllgorau allweddol a hefyd, i geisio integreiddio adroddiadau sicrwydd.

Mae pob un o'r pwyllgorau yn cyflwyno adroddiad sicrwydd gan Gadeirydd y Pwyllgor i bob cyfarfod cyhoeddus o Fwrdd yr Ymddiriedolaeth (bob dau fis), sy'n amlinellu risgiau allweddol ac sy’n tynnu sylw at feysydd datblygu.  Mae pob pwyllgor yn cynnal asesiad blynyddol o effeithiolrwydd hefyd, ac yn llunio Adroddiad Blynyddol i'w gyflwyno i Fwrdd yr Ymddiriedolaeth.

Yn ogystal ag adrodd i Fwrdd yr Ymddiriedolaeth, mae’r Pwyllgorau yn gweithio gyda’i gilydd hefyd ar ran Bwrdd yr Ymddiriedolaeth hefyd, i sicrhau lle bo angen, bod traws-adrodd ac ystyriaeth yn digwydd, a bod sicrwydd a chyngor yn cael ei ddarparu i Fwrdd yr Ymddiriedolaeth a'r sefydliad ehangach.