Dosbarth chwech sy’n cynnwys gwybodaeth ar y canlynol:
Rhestr o brif gontractwyr / cyflenwyr
Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn caffael ei nwyddau a'i gwasanaethau gan gontractwyr a chyflenwyr yn unol â'i threfniadau caffael a nodir yn y Rheolau Sefydlog a'r Cyfarwyddiadau Ariannol Sefydlog. Cyflawnir swyddogaeth gaffael yr Ymddiriedolaeth drwy drefniant partneriaeth gan gangen Gwasanaethau Caffael Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP). Mae NWSSP yn defnyddio dros 15,000 o gyflenwyr, felly os oes angen rhestr o'n 20 o gyflenwyr gorau arnoch, neu os hoffech wneud cais penodol, cyflwynwch gais drwy e-bostio shared.services@wales.nhs.uk..
Cofrestrau asedau
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth - Corporate.Services2@wales.nhs.uk
Cofrestrau asedau gwybodaeth
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth - Corporate.Services2@wales.nhs.uk
CCTV
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth - Corporate.Services2@wales.nhs.uk
Cofrestr buddiannau a Chofrestr rhoddion a lletygarwch a ddarperir i aelodau'r Bwrdd ac i uwch staff
Yn unol â Rheolau Sefydlog yr Ymddiriedolaeth, mae’n rhaid i'r Bwrdd fabwysiadu cyfres o werthoedd a safonau ymddygiad sy'n bodloni gofynion Fframwaith Gwerthoedd a Safonau Ymddygiad GIG Cymru. Bydd y gwerthoedd a'r safonau ymddygiad hyn yn berthnasol i bawb sy'n cynnal busnes gan, neu ar ran, yr Ymddiriedolaeth.
Polisi Datganiadau Buddiannau, Rhoddion, Lletygarwch a Nawdd yr Ymddiriedolaeth, sy'n nodi ac yn adeiladu ar ddarpariaethau Rheolau Sefydlog yr Ymddiriedolaeth.
Cofnod datgeliadau ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth