Neidio i'r prif gynnwy

Penodwyd Ymddiriedolaeth Nuffield i gynghori ar fodel clinigol Velindre

Mae Ymddiriedolaeth Nuffield, y felin drafod iechyd annibynnol, wedi cael ei benodi i ddarparu cyngor ar y model clinigol sy’n cefnogi’r gwelliannau arfaethedig i wasanaethau canser Felindre.

Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys y rheiny yn y Ganolfan Ganser Felindre arfaethedig newydd, yn y ganolfan radiotherapi lloeren yn y Fenni, a’r gwasanaethau sydd yn cael eu darparu gan Felindre mewn ysbytai eraill.

Bydd y cyngor yn cyfeirio at y pryderon sydd wedi codi am gynigion i adeiladu’r Ganolfan Ganser Felindre newydd yng ngogledd Caerdydd.

Bydd Ymddiriedolaeth Nuffield, sydd yn cael ei barchu’n fawr, yn asesu’r cynigion ynghyd â’r pryderon, ynghylch y ffordd mae gwasanaethau canser yn cael eu darparu ar draws de-ddwyrain Cymru.

Bydd y gwaith, sydd i fod i gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Hydref eleni, yn cael ei wneud gan dîm o arbenigwyr. Byddant yn archwilio’r cynlluniau sydd wedi cael eu llunio gan Raglen Trawsnewid Gwasanaethau Canser Felindre, yn edrych ar y llenyddiaeth ddiweddaraf a’r dystiolaeth o systemau eraill, ac yn cyfweld arweinwyr clinigol a chleifion.

Meddai Steve Ham, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, “Fel rhan o’n proses barhaus o geisio cyngor allanol, rwy’n falch o fod wedi comisiynu Ymddiriedolaeth Nuffield. Byddant yn cefnogi’r gwaith rydym yn ei wneud i fireinio ac ailddatblygu ein model clinigol. Rwyf yn gwybod y byddant yn defnyddio ffordd o feddwl cadarn ac annibynnol i brofi ein cynigion a’r pryderon sydd wedi cael eu codi.

“Bydd eu gwaith yn cael ei gyhoeddi i bob un ohonom ei weld, a thrwy ei wneud yn gyflym, rwyf yn gobeithio y byddwn yn gallu ennill hyder pobl, a sicrhau consensws ar gyfer symud ymlaen.”

Meddai Nigel Edwards, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Nuffield, “Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Ymddiriedolaeth ar y cwestiwn pwysig hwn, ac i adeiladu ar ein hymchwil blaenorol ynghylch sut i gael y gorau o fodelau wedi’u rhwydweithio i gleifion.”

Mae Ymddiriedolaeth Nuffield yn felin drafod annibynnol. Ei nod ydy gwella ansawdd gofal iechyd yn y DU drwy ddarparu ymchwil ar sail tystiolaeth a dadansoddi polisi a llywio a chreu trafodaethau.